Gall grwpiau cymunedol ledled Cymru bellach wneud cais am grantiau o hyd at £10,000 i'w helpu i ddechrau busnes cymdeithasol neu brosiect tai sy'n cael ei arwain gan y gymuned.
Ers dros dair blynedd, mae'r cynllun wedi cefnogi cymunedau Cymraeg eu hiaith sydd â nifer uchel o ail gartrefi, gan ddyfarnu 64 o grantiau ar draws Gwynedd, Conwy, Ynys Môn, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Nawr bydd hyd yn oed mwy o gymunedau yn gallu elwa ar y grant wrth i’r cynllun agor ledled Cymru gyfan, gyda'r cyllid yn cynyddu i £400,000 eleni.
Mae cynllun grant Perthyn wedi helpu Bys a Bawd Pawb i sefydlu fel Cymdeithas Budd Cymunedol yn Llanrwst, Conwy, lle mae'r gymuned wedi dod at ei gilydd gyda'r nod o brynu a rhedeg siop sydd yn werthfawr i'r gymuned ac sydd wedi eu gwasanaethu ers 50 mlynedd. Nod y prosiect yw creu canolfan lenyddol Gymraeg, darparu llety fforddiadwy i bobl leol uwchben y siop yn ogystal â chynnig cyfleoedd gwaith a gwirfoddoli.
Meddai Nia Clwyd Owen, Cynghorydd Llanrwst a Llanddoged a Chadeirydd Gweithgor Bys a Bawd Pawb:
Heb gymorth y grant Perthyn, mae’n annhebygol y byddai Bys a Bawd Pawb yn y sefyllfa gadarnhaol y mae’r fenter gymunedol ynddi heddiw. Mae’r grant wedi bod yn sylfaen i ddatblygiad y fenter, gan alluogi’r grŵp i benodi ymgynghorydd i arwain ar y cynllun cyfranddaliadau. Roedd y gwaith a wnaed ganddi i godi ymwybyddiaeth o’r fenter yn amhrisiadwy.
Yn ogystal, defnyddiwyd y grant i gynnal cyfres o ddigwyddiadau yn Llanrwst, gan roi cyfle i’r gymuned leol ddysgu mwy am y fenter a’i chefnogi drwy fuddsoddi.
Mae’r llwyddiant hwn yn dyst i rym cymunedau pan roddir y gefnogaeth briodol iddynt. Hoffem ddiolch i’r rhaglen grant Perthyn am eu cefnogaeth, a’r gymuned am eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad i greu newid cadarnhaol yn lleol.
Mae Hwb Penmachno hefyd wedi derbyn dyfarniad grant Perthyn, i helpu'r gymuned gydag elfennau cynnar o'u menter tai dan arweiniad y gymuned.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg:
Mae'r prosiectau ysbrydoledig hyn a arweinir gan y gymuned yn dangos pŵer gweithredu lleol i gryfhau cymunedau Cymraeg. Drwy ehangu cynllun grant Perthyn ledled Cymru, rydym yn rhoi cyfle i fwy o gymunedau gymryd rheolaeth o'u dyfodol o ran tai a sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i fod wrth wraidd eu mentrau.
Rhaid i grwpiau cymunedol wneud cais yn Perthyn, Cwmpas erbyn 21 Tachwedd 2025 ar y diweddaraf.
