Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan wedi cyhoeddi bod ehangu gwasanaethau fferylliaeth gymunedol wedi arwain at gannoedd o filoedd o bobl yn osgoi'r angen am ymgyngoriadau gan feddyg teulu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r diwygiadau sylweddol a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2022 yn golygu bod ystod ehangach nag erioed o wasanaethau clinigol yn cael eu cynnig gan fferyllwyr cymunedol yng Nghymru.

Heddiw, mae adroddiad newydd 'Presgripsiwn Newydd – Flwyddyn yn Ddiweddarach' wedi dangos effaith gadarnhaol y gwasanaethau hynny ar bobl sydd angen gofal sylfaenol.

O ganlyniad i'r Gwasanaeth Fferylliaeth Gymunedol Glinigol newydd, mae bron pob fferyllfa ledled Cymru bellach yn rhoi cyngor a thriniaeth ar gyfer anhwylderau cyffredin am ddim, yn rhoi'r bilsen bore wedyn a dulliau atal cenhedlu drwy'r geg, yn rhoi cyflenwadau meddyginiaethau brys ac yn rhoi brechiadau rhag y ffliw.

Mae'r adroddiad yn dangos bod dros hanner miliwn o ymgyngoriadau wedi'u cynnal ar draws holl wasanaethau'r Gwasanaeth Fferylliaeth Gymunedol Glinigol yn y flwyddyn gyntaf ar ôl ei lansio.  Roedd hyn yn cynnwys mwy na 160,000 o frechiadau ffliw tymhorol y GIG a bron i 240,000 o ymgyngoriadau ar gyfer ystod o anhwylderau cyffredin megis dolur gwddf, adweithiau alergaidd a phoen cefn - cynnydd o 73.9% o'r flwyddyn flaenorol a mwy na phum gwaith yn fwy na phum mlynedd yn ôl.

Dywedodd bron i 80% o bobl a aeth i fferyllfa ac a ddefnyddiodd y Gwasanaeth Fferylliaeth Gymunedol Glinigol y byddent wedi mynd at feddyg teulu neu ddefnyddio'r gwasanaeth y tu allan i oriau pe na bai'r gwasanaeth ar gael. Mae hyn felly wedi rhyddhau dros 400,000 o apwyntiadau i alluogi eraill i fynd at eu meddyg teulu.

I lawer, mae hyn yn golygu cael gofal yn agosach at ble maen nhw'n byw a gweithio, fel arfer heb fod angen gwneud apwyntiad. Mae mwy na 2,800 o fferyllwyr a thechnegwyr fferyllfa wedi cwblhau'r hyfforddiant ychwanegol sy'n eu galluogi i ddarparu'r gwasanaethau hyn.

Cynhaliwyd 46,000 o ymgyngoriadau pellach mewn 119 o fferyllfeydd, gyda fferyllwyr-bresgripsiynwyr a oedd wedi cwblhau hyfforddiant ychwanegol yn eu galluogi i drin ystod ehangach o anhwylderau megis heintiau'r llwybr wrinol, y glust a'r croen na ellid bod wedi'u trin fel arall ond gan feddyg teulu.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

Yn ystod y flwyddyn gyntaf ers ein diwygiadau, mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud o ran defnyddio sgiliau, arbenigedd a hygyrchedd fferyllwyr yn ein cymunedau yn fwy effeithiol.

Mae hyn yn rhoi ffocws cryfach ar ddarparu gwasanaethau clinigol, ar ddatblygu'r gweithlu, ac ar hyrwyddo integreiddio fferyllfeydd o fewn gofal sylfaenol, a hyn oll ochr yn ochr â'n buddsoddiad mwyaf erioed yn y sector.

Rwy'n falch iawn o weld bod hyn yn helpu i sicrhau bod mwy o bobl yng Nghymru yn cael gafael ar y gofal sydd ei angen arnyn nhw drwy'r Gwasanaeth Iechyd gan weithwyr proffesiynol medrus priodol, yn agosach at eu cartrefi, pryd bynnag y maen nhw ei angen.

Dywedodd y Prif Swyddog Fferyllol, Andrew Evans:

Mae fferyllwyr yn arbenigwyr ym maes meddyginiaethau ac maen nhw'n cael hyfforddiant eang i ddarparu gofal clinigol gan gynnwys rhoi cyngor a thriniaeth ar gyfer cyflyrau cyffredin, atal cenhedlu a brechiadau.

Nid yn unig y mae ein diwygiadau ym maes fferylliaeth gymunedol yn gwella mynediad at ofal ond maen nhw hefyd yn sicrhau ein bod yn defnyddio sgiliau ac arbenigedd clinigol fferyllwyr a thechnegwyr fferyllfa i'r eithaf ym mhob cwr o Gymru. Mae'r cymorth rydyn ni'n ei ddarparu yn golygu bod mwy o fferyllwyr nag erioed yn cwblhau hyfforddiant ychwanegol fel y gallan nhw roi presgripsiynau am feddyginiaethau i bobl gan barhau i ostwng ymhellach nifer y bobl sydd angen mynd at eu meddyg teulu.

I'r rhan fwyaf o bobl, eu fferyllfa gymunedol fydd y lle mwyaf hwylus i gael cyngor dibynadwy a thriniaeth pan fyddan nhw'n teimlo'n sâl. Mae galluogi fferyllwyr i ddarparu ystod ehangach o wasanaethau clinigol drwy'r Gwasanaeth Iechyd yn golygu bod mwy o bobl yng Nghymru yn gallu cael gafael ar y gofal sydd ei angen arnyn nhw, a hynny o'u fferyllfa, pan fyddan nhw ei angen.