Bydd dau ar bymtheg o brosiectau amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd ledled Cymru yn elwa o gyllid ychwanegol - gan helpu i gyflawni ymrwymiad Rhaglen Llywodraeth Cymru i ehangu mynediad at ddiwylliant - gyda dros £550,000 yn cael ei fuddsoddi mewn cymunedau ledled y wlad.
Caiff y cyllid ei ddyfarnu drwy Raglen Grant Cymorth Lleol Estynedig Llywodraeth Cymru i'r Sector Diwylliant ar gyfer Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd. Bydd yn caniatáu i brosiectau barhau â'u gweithgareddau tan ddiwedd mis Mawrth 2027, gan adeiladu ar waith sydd eisoes yn digwydd.
Ar draws pob un o'r 17 prosiect, mae'r cyllid yn cefnogi ystod eang o weithgareddau, o ymgysylltu â phobl ifanc yn llyfrgelloedd Blaenau Gwent, i ddigideiddio casgliadau hanesyddol yn Sir Fynwy a Rhondda Cynon Taf, i ddatblygu ap geogelcio sy'n dod â hanes lleol yn fyw yng Nghasnewydd.
Ymhlith y prosiectau eraill sy'n elwa ar y cylch cyllido hwn y mae:
- cynllun peilot strategaeth ddarllen ym Mro Morgannwg, a fydd yn profi dulliau newydd o gefnogi llythrennedd mewn partneriaeth ag ysgolion a theuluoedd
- rhaglen i ennyn diddordeb mewn archaeoleg a chynhanes ar Ynys Môn, sy'n helpu cynulleidfaoedd newydd i ddarganfod treftadaeth Cymru
- parhau i gefnogi rhaglen Diwylliant Gwynedd, sy'n dod ag amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd ynghyd i ehangu mynediad at ddiwylliant ledled y sir
Dywedodd Heledd Fychan, y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon:
"Mae amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yn ganolog i'n cymunedau, gan gysylltu pobl â'u hanes, â'u diwylliant ac â'i gilydd. Bydd y cyllid hwn yn caniatáu i brosiectau ym mhob cwr o Gymru adeiladu ar y cynnydd gwych y maen nhw wedi'i wneud yn barod, gan gyrraedd mwy o bobl, mewn mwy o leoedd, gyda'r straeon sy'n bwysig iddyn nhw.
"Hoffwn ddiolch i'r holl sefydliadau sydd wedi gweithio gyda ni i ddatblygu'r prosiectau hyn. Mae eu hymrwymiad parhaus at ennyn diddordeb cymunedau, diogelu ein treftadaeth ac ehangu mynediad at ddiwylliant yn gwneud gwahaniaeth go iawn, ac rwy'n falch ein bod ni'n gallu eu cefnogi nhw i estyn y gwaith hanfodol hwn tan fis Mawrth y flwyddyn nesaf."
Dywedodd Annabelle Dennis, Rheolwr Prosiect yn Hanes-Hi ym Merthyr Tudful:
"Dim ond y dechrau yw Hanes-Hi. Trwy gyfuno gwefan Hanes-Hi â'n gosodiad ymgolli yn yr amgueddfa, sy'n dod â phortreadau a straeon menywod yn fyw, rydyn ni wedi creu platfform sy'n ysbrydoli ymgysylltu ac yn gwarchod hanes. Tra bo ymwelwyr yn gallu uniaethu â'r menywod rhyfeddol hyn drwy'r profiad ymgolli, mae'r wefan yn gweithio fel archif ddigidol barhaol a all barhau i dyfu wrth i straeon newydd gael eu datgelu a'u rhannu.
"Gyda'i gilydd, maen nhw'n sicrhau bod lleisiau menywod o Ferthyr Tudful nid yn unig yn cael eu clywed heddiw, ond yn cael eu gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, er mwyn sicrhau bod y rhai sydd wedi'u hanwybyddu gan hanes yn cael eu cydnabod a'u cofio am byth."
