Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Cynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru yn cael ei ehangu yfory i gynnwys y rhai hynny sy’n dioddef o anaf neu salwch difrifol ond dros dro, yn ôl Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a’r Seilwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cynllun ehangach, sy’n cynnig gostyngiadau parcio i bobl sydd ag anableddau, bellach yn cynnig bathodynnau 12 mis dros dro i’r rhai hynny sy’n gwella o driniaeth neu’n aros am driniaeth ar gyfer salwch neu anaf difrifol.   

Gallai’r enghreifftiau o hyn gynnwys:

  • Person sy’n gwella yn dilyn achos cymhleth o dorri coes sy’n cael ei drin weithiau trwy ddefnyddio dulliau sydd y tu allan i’r goes am gyfnodau o ymhell dros flwyddyn 
  • Person sy’n gwella o stroc neu niwed i’r pen sydd wedi cael effaith ar eu symudedd
  • Person sy’n gwella o niwed i’r asgwrn cefn sy’n cael effaith ar eu symudedd  
  • Person sydd â salwch difrifol ble y gall y driniaeth eu nychu, er enghraifft triniaeth ar gyfer canser;  
  • Person sydd â nam difrifol o ran defnyddio eu coesau sy’n aros neu wedi cael triniaeth am gymal newydd (e.e. clun, penglin ac ati) 

Meddai Ken Skates: 

“Mae cynllun y Bathodyn Glas yn helpu i roi mynediad i wasanaethau a chyfleusterau i’r rhai hynny sydd â’r angen mwyaf.  Mae’n chwarae rhan hollbwysig wth wella mynediad i waith a gwasanaethau i bobl sydd ag anableddau ledled Cymru.  

“Hyd yn hyn, mae wedi’i gyfyngu i bobl sydd â namau parhaol, tra bod nifer o bobl sydd ag anafiadau parhaol, dros-dro yn cael eu hystyried yn anghymwys.   Mae ehangu pwy sy’n gymwys drwy gyflwyno’r bathodynnau dros-dro hyn yn sicrhau cysondeb a thegwch yn y ffordd y mae’r cynllun yn cael ei ddarparu ac mae’n golygu bod mwy o’r bobl sydd angen y Bathodyn Glas yn cael hawl i’w ddefnyddio.  Ar yr un pryd, mae cyfyngu ar y meini prawf ar gyfer pobl sydd â nam sydd wedi para am ddeuddeg mis neu fwy, gan sicrhau bod y Bathodyn Glas yn parhau i gael ei gadw ar gyfer y bobl sydd â’r anghenion symudedd mwyaf.  

“Mae gan Gymru bellach y meini prawf cymhwyster ehangaf ym  Mhrydain – rhywbeth i’w ddathlu ac i adeiladu arno wrth inni geisio sicrhau bod Cymru yn wlad lle mae gwasanaethau a chyfleusterau ar gael i bawb.”