Bydd Ysbyty Brenhinol Alexandra yn cael ei drawsnewid gan fuddsoddiad sylweddol o £33m gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau'r GIG i bobl y Rhyl.
Bydd y cyfleuster pwrpasol newydd yn cynnwys uned mân anafiadau a fydd yn gallu trin dros 20,000 o bobl y flwyddyn, gan leihau'r pwysau ar adran argyfwng Ysbyty Glan Clwyd gerllaw.
Bydd uned ail-alluogi gydag 14 o welyau barod-i-fynd-adref hefyd yn rhan o'r adeilad newydd. Bydd yn dod â thimau'r GIG a thimau gofal cymdeithasol at ei gilydd i ddarparu gofal i bobl sy'n dychwelyd adref ar ôl cael triniaeth feddygol a llawfeddygol yn yr ysbyty.
Bydd gwasanaethau radioleg yn cael eu hehangu yn y Rhyl, a bydd pedair ystafell ddeintyddol newydd yn gwella mynediad at ofal y GIG. Hefyd, bydd cynnydd mewn cyfleoedd hyfforddi i nyrsys deintyddol.
Mae'r adeilad newydd sy'n werth £33m, ac sydd i fod i gael ei gwblhau yn 2027, yn gam cyntaf mewn buddsoddiad o £60m yn Ysbyty Brenhinol Alexandra. Bydd achos busnes ar gyfer cam dau i ddatblygu a gwella'r ysbyty presennol yn cael ei gyflwyno ar wahân gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cadarnhaodd y Prif Weinidog a'r Ysgrifennydd Iechyd y cyllid ar gyfer y datblygiad newydd, cyn y cyfarfod o Gabinet Llywodraeth Cymru yn Wrecsam yn nes ymlaen heddiw (23 Chwefror).
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
Bydd y buddsoddiad hirdymor hwn mewn gwasanaethau iechyd yn y Rhyl yn lleihau'r amser y mae pobl yn aros yn yr adran argyfwng, yn cynyddu nifer y cleifion mewnol, ac yn galluogi pobl i ddychwelyd adref yn gynt ar ôl cael triniaeth yn yr ysbyty.
Mae'r buddsoddiad hwn yn rhan o'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i drawsnewid gwasanaethau gofal iechyd yn y Gogledd, drwy foderneiddio cyfleusterau, a gwella effeithlonrwydd er mwyn i bobl allu cael eu trin yn nes at adref..
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
Mae'n bleser mawr gen i gadarnhau'r cyllid hwn i ddatblygu Ysbyty Brenhinol Alexandra. Mae'r Rhyl yn gyrchfan wyliau boblogaidd, sy'n golygu bod gwasanaethau'r GIG yn gweithio'n galed i ddiwallu anghenion trigolion lleol ac ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn.
Bydd y cyllid yn darparu uned newydd wych ar gyfer mân anafiadau ac anhwylderau, yn ogystal ag uned ail-alluogi newydd sy'n dod â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd o dan yr un to. Bydd hynny'n helpu pobl i wella a theimlo'n hyderus eu bod yn cael y cymorth angenrheidiol i ddychwelyd adre'.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Dyfed Edwards a'r Prif Swyddog Gweithredol, Carol Shillabeer:
Rydyn ni'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’n hachos busnes. Mae’n golygu y gallwn ni nawr symud ymlaen gyda'r gwaith paratoi a’r gwaith o adeiladu'r cyfleuster newydd pwysig hwn.
Bydd y cyfleuster nid yn unig o fudd i'r gymuned yn y Rhyl a'r ardaloedd cyfagos, ond bydd hefyd yn darparu gwasanaethau sy’n lleihau rhai o'r pwysau ar Ysbyty Glan Clwyd. Hoffem gydnabod cefnogaeth a phartneriaeth Cyngor Sir Ddinbych a phartneriaid eraill yn y trydydd sector, ynghyd â'r gefnogaeth aruthrol a ddangoswyd gan bobl leol yn ein hymgynghoriadau.
Bydd yr adeilad newydd hwn yn ganolbwynt i'r gymuned, ac yn arwydd o'n hymrwymiad i ddod â gwasanaethau'n agosach at gartrefi pobl sy'n byw yn y Gogledd.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, Jason McLellan:
Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn yn Ysbyty Brenhinol Alexandra yn nodi cam mawr ymlaen i iechyd a gofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych. Mae'r ganolfan iechyd a lles fodern hon yn cynnwys gwelyau ail-alluogi ac uned mân anafiadau, a fydd yn gwella'r ddarpariaeth gofal iechyd i bobl y Rhyl a'r ardaloedd cyfagos.
Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru a'n partneriaid am eu cydweithrediad wrth sicrhau bod y prosiect yn symud yn ei flaen. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig i drigolion lleol, ac mae'n dangos beth y gellir ei gyflawni pan fydd partneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cynaliadwy i'n cymunedau.
