Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd wedi’i lansio, a fydd yn symleiddio'r Cynnig Gofal Plant i rieni a darparwyr gofal plant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Cynnig hefyd wedi'i ehangu i fwy o deuluoedd, a gall rhieni sydd mewn addysg a hyfforddiant nawr wneud cais am hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant wedi'u hariannu gan y llywodraeth ar gyfer eu plant tair a phedair oed.

Ar hyn o bryd mae'r Cynnig Gofal Plant yn cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol sy'n defnyddio systemau gwahanol i brosesu ceisiadau rhieni ac i dalu darparwyr am yr oriau sy’n cael eu darparu o dan y Cynnig. Bydd y gwasanaeth digidol cenedlaethol yn disodli'r systemau hyn fel y bydd pob awdurdod lleol, rhiant a darparwr gofal plant yn defnyddio’r un gwasanaeth.

Mae'r platfform digidol cenedlaethol newydd ar gael yn ddwyieithog, ac mae modd mynd ato drwy ddyfeisiau symudol gan gynnwys cyfrifiaduron llechen a ffonau symudol, a bydd yn sicrhau bod rhieni a darparwyr gofal plant ledled Cymru yn cael yr un profiad, ble bynnag y maen nhw’n byw. 

Bydd rhieni sy'n gymwys i ddefnyddio’r Cynnig Gofal Plant o fis Ionawr 2023 yn gallu gwneud cais o hyn ymlaen drwy'r gwasanaeth newydd.

Ni fydd angen i rieni sydd eisoes yn defnyddio'r Cynnig wneud unrhyw beth, ac fe fyddan nhw yn aros o fewn system eu hawdurdod lleol. Ond os ydyn nhw am gael arian drwy’r Cynnig ar gyfer plentyn arall o fis Ionawr 2023, bydd angen iddyn nhw wneud cais drwy'r gwasanaeth digidol cenedlaethol.

Wrth lansio gwasanaeth digidol cenedlaethol y Cynnig Gofal Plant mewn meithrinfa yng Nghaerdydd, dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:

Mae ein Cynnig Gofal Plant arloesol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i rieni ledled Cymru, ac rydyn ni’n chwilio'n barhaus am ffyrdd o ehangu neu wella ein Cynnig. Mae’n bleser gen i gyhoeddi lansio gwasanaeth digidol newydd y Cynnig Gofal Plant. Bydd cael un system genedlaethol yn sicrhau gwasanaeth hwylus, symlach i rieni a darparwyr gofal plant ar draws Cymru. Dw i am ddiolch i bawb yn y sector gofal plant, awdurdodau lleol a rhieni sydd wedi ein helpu i gyflwyno’r gwasanaeth digidol.

Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi teuluoedd sy'n gweithio gyda chostau gofal plant, ac mae'n wych gallu cynyddu nifer y teuluoedd sy'n manteisio ar y Cynnig. Dw i'n falch o ddweud bod dros 168 o deuluoedd ychwanegol hyd yma wedi cael eu helpu yn sgil ehangu’r Cynnig. Mae rhoi rhagor o gymorth gyda chostau gofal plant i rieni sy'n ymgymryd ag addysg a hyfforddiant yn adlewyrchu’r gwerth rydyn ni’n ei roi ar gefnogi pobl i wella eu cyfleoedd gwaith drwy ennill cymwysterau, ailhyfforddi neu newid llwybr gyrfa.

Dywedodd Claire Potter, Rheolwr Gweithrediadau Meithrinfa Darling Buds:

Bydd gwasanaeth digidol newydd y Cynnig Gofal Plant yn cael effaith bositif ar ein lleoliadau, gan fod gennyn ni blant o sawl awdurdod lleol sy’n elwa o’r cyllid. Bydd y gwasanaeth newydd yn golygu bod modd inni ddefnyddio un porthol cenedlaethol i hawlio’r arian, pa awdurdod lleol bynnag sy’n awdurdodi’r trefniant.

Bydd y gwasanaeth hefyd yn cael effaith bositif ar ein rhieni/gofalwyr hefyd, gan y byddan nhw’n gallu defnyddio’r porthol, a gweld yr oriau a gytunwyd ac unrhyw oriau sy’n dal i fod ar gael iddyn nhw. Bydd hyn yn creu proses dryloyw a fydd yn cael gwared ag unrhyw ddryswch, i’r rhieni/gofalwyr ac i ni, yn enwedig pan fydd rhieni yn defnyddio gwasanaeth mwy nag un darparwr gofal plant.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol Plant, y Cyng Ash Lister:

Rydyn ni am i’r broses o wneud cais am le o dan y Cynnig Gofal Plant fod mor syml â phosibl, fel y gall rhieni a theuluoedd sydd angen lle gael gafael yn hawdd ar yr hyn sydd ar gael iddyn nhw. Bydd lansio’r gwasanaeth digidol yn help i symleiddio’r broses gais, a bydd hefyd yn darparu ffordd effeithlon i ddarparwyr y gofal hawlio a derbyn y taliadau.

Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi’r Cynnig Gofal Plant, sy’n parhau i helpu’r rheini sydd â gofal plant i ymgymryd â hyfforddiant a gwaith, a lleihau eu costau gofal plant. I’r plant eu hunain, mae mynychu lleoliad gofal plant cofrestredig yn cefnogi eu datblygiad ac yn eu paratoi ar gyfer yr ysgol, gan gynnig cyfleoedd i chwarae, dysgu a chymdeithasu gydag eraill o’r un oed.