Neidio i'r prif gynnwy

Mae Alun Davies wedi annog pobl i gymryd ychydig funudau i gyfrannu at ein hymgynghoriad ar gynigion i gryfhau llywodraeth leol sy'n dod i ben mewn pythefnos.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ymgynghoriad y Papur Gwyrdd a gafodd ei lansio fis Mawrth yn nodi cynigion ynghylch y posibilrwydd o greu cynghorau sy’n fwy eu maint ac yn gryfach. Mae hefyd yn nodi opsiynau i’w trafod ynghylch sut i fynd ati i gyflawni hyn –  uno'n wirfoddol, dull fesul cam lle byddai rhai awdurdodau yn uno gyntaf cyn i eraill eu dilyn, neu raglen uno gynhwysfawr.

Nod y cynigion yw sicrhau bod modd i gynghorau barhau i ddarparu gwasanaethau angenrheidiol rhagorol drwy gefnogi, cydnabod a gwobrwyo eu rôl hanfodol yn ein democratiaeth. 

Dywedodd Alun Davies:

“Mae Cymru angen awdurdodau lleol cryf ac effeithiol, sydd wedi’u grymuso ac yn gallu gwrthsefyll cyni cyllidol parhaus, ac mae angen datblygu strwythurau lleol democrataidd sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Dydw i ddim yn credu y gall ein hawdurdodau lleol gyflawni'r rôl hon yn llawn ar eu ffurf bresennol, ac rwy'n gwybod bod eraill o'r un farn. 

"Rydyn ni'n cynnig cymryd camau i weddnewid y drefn. Mae gennym ni'r cyfle i greu strwythurau newydd y gallwn ddatganoli pwerau ychwanegol iddyn nhw a lle gallwn ddiogelu rolau a swyddi gweithwyr y gwasanaethau cyhoeddus. Dim ond wedyn y gallwn ni ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol a sicrhau bod atebolrwydd democrataidd a'r broses o wneud penderfyniadau o fewn y strwythurau hynny yn cael eu cyflawni mor agos at y dinesydd â phosibl." 

Rydym eisoes wedi cael llawer o ymatebion i'n hymgynghoriad gan ystod o unigolion a sefydliadau, ond mae Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i glywed gan drawstoriad mor eang â phosibl o'r gymuned.

Ychwanegodd Alun Davies:

"Mae'r ymgynghoriad yn dod i ben ar 12 Mehefin, a byddwn yn annog pob un sydd o’r un farn â mi ynghylch pwysigrwydd gwasanaethau cyhoeddus ac atebolrwydd lleol i gymryd rhan."