Ein blaenoriaethau
Mae Llywodraeth newydd Cymru yn darparu arweinyddiaeth newydd i Gymru, gan gyflawni newid pendant ar gyfer y prif faterion sy'n ein hwynebu ni heddiw – yr argyfwng costau byw, ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ysgolion a swyddi.
Byddwn nawr yn gweithio'n gyflym i fynd i'r afael â'r pethau sy'n bwysig i bobl yn eu bywydau bob dydd, gan gyflawni newid y gall pawb ei deimlo ac adfer ymddiriedaeth yn y llywodraeth.
Mae hon yn llywodraeth sy'n gweithredu. Llywodraeth i bawb. Llywodraeth sy'n dod ag egni newydd a syniadau newydd, sy'n barod ac yn abl i sefyll dros Gymru fel partner cryf a chyfartal yn y Deyrnas Unedig.
Llywodraeth newydd Cymru fydd y mwyaf agored ers dechrau datganoli, gan feithrin ymddiriedaeth drwy gyflawni'n weladwy ar flaenoriaethau gwirioneddol pobl Cymru:
- torri rhestrau aros, a datblygu gwasanaeth iechyd a gofal sy’n addas ar gyfer y dyfodol
- helpu teuluoedd gyda chostau byw drwy ofal plant sy’n fforddiadwy ac o safon
- datgloi potensial economi Cymru, a chreu swyddi da sy’n talu’n dda
- codi safonau yn ein hysgolion a sicrhau'r amodau gorau ar gyfer dysgu
- mynd i'r afael â thlodi plant
- sefyll dros Gymru a mynnu tegwch gan San Steffan
