Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd wedi rhoi amlinelliad heddiw o’r camau y bydd Cymru yn eu cymryd i ddod yn genedl sydd ag Economi Gylchol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae economi gylchol yn annog cadw adnoddau yn hytrach na’u bod yn cael eu llosgi neu fod eu bywyd yn dod i ben mewn safle tirlenwi. Mewn datganiad i’r Cyfarfod Llawn, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet greu y Map Llwybr Plastig.  Bydd hwn yn cynllunio dull Cymru o greu marchnad well ar gyfer cynnyrch plastig wedi’i ailgylchu, wedi’u wneud yng Nghymru, ac i’n gwneud yn llai dibynnol ar farchnadoedd tramor am blastig gwastraff.  

Mae astudiaethau wedi gweld y byddai mabwysiadu Economi Gylchol yn arbed hyd at £2bn i economi Cymru ac mae’r posibilrwydd yno i greu hyd at 30,000 o swyddi.  Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet gronfa £6.5m ar gyfer 2019-20 i helpu Cymru i symud ymlaen tuag at economi gylchol.   

Dywedodd Lesley Griffiths:

“Mae Cymru yn sylweddoli’n llawn fanteision economi gylchol.  Bydd y gronfa £6.5 miliwn a gyhoeddais yn gynharach eleni yn datblygu nifer sylweddol o brosiectau cyfalaf ar raddfa fechan i helpu BBaChau i wneud y trawsnewidiad tuag at ‘Economi Gylchol’.  Mae angen inni weld mwy o fodelau busnes yr economi gylchol yn cael eu datblygu yng Nghymru.”  

Mae ymrwymiad Cymru i’r Economi Gylchol yn cael ei gryfhau drwy ein cyfraniad at y prosiect Economi Gylchol ar gyfer Mentrau Bach a Chanolig (CESME).  Bydd y fenter hon sydd wedi’i hariannu gan Ewrop yn galluogi BBaChau i droi heriau amgylcheddol yn gyfleoedd.  Fis diwethaf, aeth swyddogion i’r pumed cyfarfod yn Ne Ostrobothnia, y Ffindir – ble yr aeth y grŵp i bedwar BBaChau gwahanol sy’n defnyddio’r dull o gynnal economi gylchol yn eu gweithgareddau.  Roedd hyn yn cynnwys Lapua’s Potato, sy’n troi tatws gwastraff yn bapur.  Mae’r cyfarfod yn Ne Ostrobothnia yn dilyn cyfarfodydd blaenorol o CESME yma yng Nghymru fis Mai diwethaf, ac yn Nenmarc, yr Eidal a Groeg.  

Mae’r pwyslais ar blastig yn dilyn pecyn o fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried i leihau’r gwastraff sy’n cael ei greu gan lygredd plastig.  Mae hyn yn cynnwys edrych ar y posibilrwydd o gynllun cyfrifoldeb Cynhyrchydd Estynedig, ble y mae’r cynhyrchwyr yn gyfrifol am y gwastraff y maent yn ei gynhyrchu a threth bosibl ar blastsig untro.  Caiff y Map Llwybr Plastig ei gyhoeddi gan WRAP erbyn Gwanwyn 2018. 

Mae rhagor o wybodaeth am CESME i’w gael ar wefan Interreg Europe (dolen allanol)