Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru ar fin lansio ymgynghoriad eang â phlant a phobl ifanc i sicrhau eu bod yn cael cyfle i ddweud eu dweud am broses Brexit

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr ymgynghoriad yn sicrhau bod Gweinidogion yn deall barn plant a phobl ifanc a'u bod yn cael eu cynrychioli yn nhrafodaethau Llywodraeth Cymru a'r penderfyniadau am ddyfodol Cymru pan fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) ac mae o ddifrif am ei dyletswydd i roi'r sylw dyledus i'r Confensiwn yn rhan o'i phrosesau o wneud penderfyniadau. Dywed Erthygl CCUHP12 fod gan blant yr hawl i ddweud eu barn ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw, ac i'w barn gael ei hystyried.

Bydd yr ymgynghoriad yn ymgysylltu â phlant rhwng 7 ac 11 oed mewn ysgolion, gydag athrawon a staff cymorth yn bresennol, ynghyd â phobl ifanc 11 oed a throsodd drwy rwydwaith sefydliadau Cymru Ifanc.

Yn ogystal â hynny, bydd yr ymgynghoriad hefyd yn cynnwys:

  • Adnoddau digidol a chyfryngau cymdeithasol fel y bo plant a phobl ifanc yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd yn ystod proses Brexit;
  • Bydd Cymru Ifanc yn sefydlu Grŵp Cynghori Brexit o hyd at 12 o bobl ifanc o bob math o sefydliadau ledled Cymru ar gyfer pedwar cyfarfod wyneb yn wyneb;
  • Caiff 15 o bobl ifanc gymorth i gyflwyno cyfanswm o 25 gweithdy, gyda hyd at 25 o bobl ifanc yn bresennol ym mhob gweithdy, gan ymgysylltu â dros 600 o blant a phobl ifanc.

Caiff plant a phobl ifanc ddewis eu hunain a fyddant am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ai peidio. 

Caiff yr ymgynghoriad ei hun ei drefnu ar ran Llywodraeth Cymru gan Blant yng Nghymru.

Bydd adroddiad yn crynhoi deilliannau'r ymgynghoriad yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn yr hydref 2018.

Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Plant:

"Fe gymerodd y rhan fwyaf o'r oedolion yn y Deyrnas Unedig a bleidleisiodd yn refferendwm yr UE yn 2016 gam aruthrol fawr y dylai'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd. Fel llywodraeth, rydyn ni'n derbyn y penderfyniad hwnnw ac rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn cael y gorau o'r sefyllfa. 

Er hynny, ein plant yw ein dyfodol felly mae'n gwbl hanfodol ein bod yn sicrhau bod eu barn hwy a'u pryderon yn cael gwrandawiad. Fel llywodraeth, rydyn ni wedi arwain y ffordd o ran sicrhau bod hawliau plant yn cael eu parchu a'u cydnabod. Yn rhan o hynny, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn cydnabod hawl plant i ddweud eu barn ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw, ac i'w barn gael ei hystyried. 

"Bydd Brexit yn arwain at rai o'r newidiadau mwyaf y bydd angen i blant a phobl ifanc eu hwynebu yn ystod eu hoes fel oedolion, felly rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn i glywed eu barn ac i wneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau fy mod yn gweithredu ar hynny."

Dywedodd Catriona Williams OBE, Prif Weithredwr Plant yng Nghymru:

"Nod ein rhaglen 'Cymru Ifanc' yw sicrhau bod mwy o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan i ddylanwadu ar y gwaith o ddatblygu polisïau Llywodraeth Cymru. Gwyddom o wrando arnyn nhw eu bod yn awyddus iawn i gyflwyno eu barn ar yr adeg hynod bwysig yma mewn perthynas â'r trafodaethau ynghylch Brexit gan mai eu dyfodol nhw yn arbennig fydd yn cael ei effeithio gan Brexit.

"Rydyn ni, Blant yng Nghymru, wrth ein bodd felly bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar bobl ifanc ac wedi caniatáu arian ar gyfer y dasg bwysig yma sy'n cydnabod pwysigrwydd gweithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yma yng Nghymru."