Neidio i'r prif gynnwy

Eisiau gyrfa lwyddiannus yn gwneud rhywbeth rydych chi’n frwd amdano? Yr ateb yw prentisiaethau

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae pedwar unigolyn, sy’n ymgymryd â phrentisiaethau yn y meysydd hyn, yn cymryd rhan mewn ymgyrch newydd o’r enw Yr Ateb yw Prentisiaethau sy’n amlinellu’r amrywiaeth o brentisiaethau sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghymru.

Wrth i fyfyrwyr gael eu canlyniadau arholiadau dros yr haf, nod yr ymgyrch yw dangos y gallai prentisiaethau helpu pob person ifanc, gan gynnwys y rheini nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, i gael y cymwysterau a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddilyn eu dewis yrfa.  

Bydd yr ymgyrch yn cyfeirio pobl at y Gwasanaeth Paru Prentisiaethau ar wefan Gyrfa Cymru lle ceir manylion am y lefelau a’r pynciau, a lle gallant chwilio drwy’r amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael a gwneud cais am swyddi ar-lein.

Bydd yr ymgyrch sydd wedi’i hanelu at bobl ifanc a’r rhieni a fydd yn eu tywys drwy eu penderfyniadau yn para am y pum wythnos nesaf, a hynny ar sianeli digidol, y cyfryngau cymdeithasol, y radio, bysiau, trenau a theledu ar gais. Bydd yn cyflwyno pedwar prentis sy’n datblygu gyrfa lwyddiannus a llewyrchus drwy eu prentisiaethau.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Eluned Morgan:

“Wrth i bobl aros, ar bigau’r drain, am eu canlyniadau, gall yr adeg hon o’r flwyddyn fod yn ansicr. Mae rhai pobl ifanc yn gwybod yn union beth maen nhw am ei wneud yn y dyfodol ond gall pobl eraill fod yn llai sicr.

“Rydyn ni wedi datblygu Rhaglen Brentisiaethau hynod lwyddiannus sy’n cynnig hyfforddiant galwedigaethol o safon mewn cannoedd o swyddi. Mae ystod eang y cyrsiau a lefelau’r cymwysterau sydd ar gael yn golygu ein bod ni ar y trywydd iawn i gyflawni’r targed uchelgeisiol o ddarparu 100,000 o brentisiaethau. Ond nid dim ond cyflawni targedau sy’n bwysig, mae’n bwysig sicrhau bod y cyfleoedd cywir yn cael eu creu yn yr ardaloedd cywir fel bod unigolion, busnesau a’r economi yn gallu ffynnu. Mae’r ymgyrch yn cyfrannu at yr uchelgais hon drwy dynnu sylw at y cyfleoedd a ddaw yn sgil prentisiaethau – a hynny ar adeg pan fydd gwir angen yr wybodaeth honno ar bobl.”

“Dw i’n annog pobl ifanc a’u rhieni i edrych ar y Gwasanaeth Paru Prentisiaethau i weld ai Yr Ateb yw Prentisiaethau iddyn nhw.”

Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.