Neidio i'r prif gynnwy

Gofynnir i Aelodau’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (y Cyngor) i: 

  • nodi cynnwys y papur hwn gan gynnwys datblygu cynllun cyflawni ar y cyd â Llywodraeth y DU
  • nodi y bydd rhagor o fanylion yn cael eu darparu mewn perthynas â chynllun ymgysylltu sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd
  • rhannu safbwyntiau cychwynnol ar y cyfleoedd a'r risgiau allweddol y mae'r Strategaeth Ddiwydiannol yn eu cyflwyno i fusnesau Cymru, y gweithlu a'r gweithle 

Trosolwg

  1. Nod allweddol strategaeth Ddiwydiannol Fodern y DU (y Strategaeth) yw cynyddu buddsoddiad busnes, gan gipio cyfran uwch o gyfalaf symudol rhyngwladol, ysgogi busnesau domestig i ehangu, a chefnogi busnesau bach a chanolig sy'n dibynnu ar gadwyni cyflenwi gwydn.  Mae ffocws allweddol ar yr wyth sector sydd â'r potensial twf uchaf ac mae'r Strategaeth yn nodi sut y bydd y sefydliadau cyllid cyhoeddus a'r prif cronfeydd cyllido yn cael eu 'gogwyddo' tuag at y sectorau hyn a Dinas-ranbarthau/clystyrau'r DU lle maent wedi'u lleoli. 

Cynllun cyflawni ar y cyd â Llywodraeth y DU

  1. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU yn ystod y broses datblygu polisi mewn perthynas â'r Strategaeth. Cytunodd Llywodraeth y DU â'n hasesiad ar sail tystiolaeth bod pedwar sector twf uchel yng Nghymru (Gweithgynhyrchu Uwch, Ynni Glân, Digidol a Thechnolegau, a Chreadigol); a dau sector â’r potensial o dwf uchel (Gwyddorau Bywyd a Gwasanaethau Ariannol). 
     
  2. Gwnaethom hefyd gytuno mewn perthynas â chymryd dull yn seiliedig ar leoedd a sicrhau bod Port Talbot yn cael ei nodi'n glir fel ardal a oedd angen ymateb ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae cyfleoedd a allai fod yn sylweddol ar draws Cymru, ac mae cyhoeddi'r strategaeth yn nodi dechrau, nid diwedd, ein gwaith gyda Llywodraeth y DU i wneud y mwyaf o'r buddion economaidd i Gymru.
     
  3. Mae'r holl gynlluniau sector sy'n weddill bellach wedi'u cyhoeddi a dros y misoedd nesaf byddwn yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar fanylion pob cynllun sector mewn perthynas â gweithredu a datblygu cynllun cyflawni ar y cyd a fydd yn tynnu sylw at flaenoriaethau allweddol gyda'r nod o wneud y mwyaf o'r cyfleoedd a chyflymu'r cyflawniad yng Nghymru.
     
  4. Ochr yn ochr â hyn rydym yn gweithio'n agos gyda'n gilydd ar sawl strategaeth gyflenwol, gan gynnwys y rhai ar ddur, seilwaith, busnesau bach a chanolig, a masnach i ddeall y datblygiadau hyn ac i nodi cyfleoedd ar gyfer cydweddu.  

Cynllun ymgysylltu

  1. Yn ddiweddar, cyfarfu ein prif sefydliadau sy’n cynrychioli busnesau, y CBI, Make UK, FSB, ochr yn ochr â'n sefydliadau eraill sy’n cynrychioli busnesau â gweinidogion ac uwch swyddogion i rannu eu barn ar y Strategaeth. 
     
  2. Y consensws ymhlith y prif sefydliadau hyn sy’n cynrychioli busnesau yw bod Cymru mewn sefyllfa gryfach o'i gymharu â'r cenhedloedd datganoledig eraill a dylai elwa o fesurau yn y Strategaeth, gyda'i ffocws ar y Cyflymydd Safleoedd Strategol newydd, clwstwr Bargen Twf Amddiffyn, Parth Twf AI, a chefnogaeth barhaus i'r Bargeinion Dinesig a’r Bargeinion Twf. Mae'r holl randdeiliaid yn cydnabod bod hyn wedi'i helpu gan ymgysylltiad cadarnhaol Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU. 
     
  3. Mae ymgysylltu pellach bellach yn digwydd gyda Llywodraeth y DU i ganolbwyntio ar gyflawni. Bydd hyn yn cynnwys gwaith pellach gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i ganolbwyntio ar gynlluniau sector a dull sy’n seiliedig ar leoedd. 

Cyfleoedd a risgiau cyffredinol

  1. Mae cynnydd sylweddol o ran cyflawni ein Cenhadaeth Economaidd wedi bod yn bosibl oherwydd ein hymgysylltiad cadarnhaol â Llywodraeth y DU, sy'n ein galluogi i ddylanwadu ar y Strategaeth i gefnogi canlyniadau blaenoriaethau Cymru. 
     
  2. Bydd buddsoddiad yn y diwydiannau twf uchel a nodwyd yn y Strategaeth yn amlwg yn dod â buddion cadarnhaol o ran lefelau cynhyrchiant cyffredinol a chreu swyddi ar gyfer y tymor byr, yn ogystal â'r tymor hwy. Rydym yn gwerthfawrogi y bydd rhanddeiliaid yn aros i weld sut y bydd y Strategaeth yn cael ei weithredu; beth yw'r 'camau cyflym ymlaen' i fusnesau Cymru, a sut y byddant yn cyd-fynd â’r sefyllfa strategol ehangach.
     
  3. Mae Strategaeth Llywodraeth y DU a'i Bil Hawliau Cyflogaeth yn gweithio law yn llaw. Er bod y Strategaeth Ddiwydiannol yn nodi sut i dyfu'r economi a hybu cynhyrchiant, mae'r Bil Hawliau Cyflogaeth yn darparu'r newidiadau cyfreithiol sydd eu hangen i sicrhau bod twf o fudd i weithwyr trwy sicrhau tegwch, diogelwch swyddi, a pharch yn y gwaith.  
     
  4. Gyda'i gilydd, maent yn cynnig dull cydgysylltiedig sy'n cefnogi busnesau a gweithwyr. Eu nod yw gwneud i waith talu ffordd a lleihau cyflogaeth ansicr. O ran Cymru, mae'r cysylltiad hwn yn cryfhau ein hymdrechion ein hunain i ddefnyddio'r offer sydd gennym, a rhoi gwaith teg wrth wraidd ein dull o ddatblygu economaidd a chymorth busnes.
     
  5. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod materion allweddol nad yw'r Strategaeth wedi mynd i'r afael â nhw, sef, yr economi sylfaenol, yr economi wledig, twristiaeth, manwerthu, adeiladu a bwyd. Mae'n bwysig bod partneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi ac yn deall sut y bydd cyflawni'r Strategaeth o fudd iddynt. Lansiodd Llywodraeth y DU ei chynllun ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig sy'n nodi camau pellach sy'n gysylltiedig â'r sectorau hyn. 

Cyfleoedd a risgiau sy'n seiliedig ar leoedd

  1. Mae Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi yn cyd-fynd yn glir â'n trafodaethau gyda Llywodraeth y DU. Maent bellach yn cael eu rheoli ar y cyd o dan faner "Parthau Strategaeth Ddiwydiannol". Mae Cynllun Gweithredu wedi'i ddatblygu (sy'n cynnwys mewnbwn gan LlC). Mae hyn yn nodi 'cynnig' ar gyfer y Porthladdoedd Rhydd a'r Parthau Buddsoddi o'r ddwy Lywodraeth i gefnogi llwyddiant pob rhaglen. Mae cyfleoedd i ysgogi mwy o gefnogaeth gan Lywodraeth y DU i'r lleoedd hyn gan adeiladu ar yr ymrwymiadau hynny.
     
  2. Y Porthladd Rhydd Celtaidd: yn cynnwys Port Talbot ac Aberdaugleddau gan ganolbwyntio ar botensial y Môr Celtaidd i elwa o ymgyrch y DU i gynhyrchu ynni Gwynt Arnofiol ar y Môr, ond o bosibl mewn perthynas â thanwyddau cynaliadwy eraill. Dylai cyllid seilwaith porthladdoedd cysylltiedig Llywodraeth y DU (£80 miliwn) ategu'r uchelgais hon i gataleiddio a sbarduno’r broses o ddatblygu galluogi seilwaith ar gyfer cynhyrchu ynni ar y môr. Mae'r heriau yma yn cynnwys camosod amseroedd, sicrhau cysylltiadau grid angenrheidiol yn ogystal â sicrhau caniatâd cynllunio a thrwyddedau morol. 
     
  3. Parth Buddsoddi Caerdydd-Casnewydd: mae'r De-ddwyrain yn cael ei gynrychioli'n dda yn y Strategaeth (gan gynnwys y Parth Buddsoddi).  Mae'n economi amrywiol gyda chyfraniadau sylweddol gan sectorau fel sector technoleg a digidol sy'n ehangu, cyllid a gwasanaethau proffesiynol, gweithgynhyrchu, technoleg a diwydiannau creadigol. Mae buddsoddiad parhaus hefyd mewn prosiectau seilwaith a datblygu, megis Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

    Nid oes prinder cyfleoedd ar gyfer buddsoddi a bydd angen canolbwyntio ar gydlyniant ac ychwanegoldeb er mwyn sicrhau bod rhaglenni a buddsoddiadau amrywiol yn ategu ei gilydd ac yn cyfrannu at gynllun cydlynol. Mae yna hefyd risgiau o drefniadau llywodraethiant a chyflenwi cymhleth gan lu o wahanol gyllidwyr.

  4. Parth Buddsoddi Wrecsam-Sir y Fflint: mae gan y rhanbarth sylfaen gweithgynhyrchu gref, yn enwedig mewn gweithgynhyrchu uwch, gan gynnwys ym meysydd amddiffyn ac awyrofod. Mae cwmnïau fel Airbus a chwmnïau peirianneg eraill yn cyfrannu'n sylweddol at yr economi leol ac yn darparu swyddi sgiliau uchel. Mae'n gartref i ganolfannau ymchwil ac arloesi amrywiol sy'n hyrwyddo cydweithredu rhwng y byd academaidd a diwydiant. Bu cynnydd da o ran y Parth Buddsoddi, gyda'r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn adeiladu capasiti, ymgysylltiad cryf â'r diwydiant, a phiblinell o fuddsoddiadau sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol ag anghenion y diwydiant. 

    Mae cyfleoedd i gyflymu'r Fargen Twf ochr yn ochr â'r Parth Buddsoddi ar gyfer effaith gronnol a buddion rhanbarthol ehangach, gan gynnwys buddion trawsffiniol. Mae'r prif risgiau i'r Parth Buddsoddi yn cynnwys caniatâd cynllunio yn Wrecsam (materion sy'n gysylltiedig â mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol), niwtraliaeth maethynnau, a mynediad i'r grid. 

  5. Porthladd Rhydd Ynys Môn: gallai statws Porthladd Rhydd a rhyddhadau treth, o bosib, ddenu amrywiaeth o ddiwydiannau, yn enwedig mewn perthynas â chynhyrchu ynni e.e. cyfleoedd niwclear a morol. Mae penderfyniad caniatâd cynllunio Parc Ffyniant ar fin digwydd ar gyfer y parc technoleg ar safle treth y Porthladd Rhydd, a fydd yn ymgorffori nifer o ganolfannau data modiwlar. Bydd angen i LlC fonitro'n agos er mwyn sicrhau bod hyn yn datblygu yn y ffordd a ragwelir i gyflawni buddion parc technoleg (a pharth twf AI posibl) yn hytrach na chanolfannau data yn unig.

    Mae cyfleoedd yn bodoli i arddangos technoleg Adweithyddion Modiwlar Bach yn yr ardal at ddibenion darparu lefelau cyson a sylweddol o drydan ar gyfer canolfannau data. Bydd ymgysylltu effeithiol â rhanddeiliaid ar draws rhanbarth ehangach Gogledd Cymru yn hanfodol er mwyn sicrhau creu swyddi, buddion a chyfleoedd yn ymestyn y tu hwnt i Ynys Môn.

Trafodaeth

  1. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu mewnbwn cadarnhaol i lunio'r Strategaeth ac mae mewn sefyllfa dda i elwa o'r cyfleoedd y mae'n eu cyflwyno o ran swyddi a thwf o ansawdd uchel. Mae angen rhagor o waith gyda Llywodraeth y DU i gadarnhau'r manylion a chytuno ar gynllun gweithredu. Gallai'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol roi mewnbwn gwerthfawr i'n gwaith ar y cynllun hwnnw, a byddwn yn croesawu trafodaeth ar y cyfleoedd a'r risgiau fel y crybwyllir yn y papur hwn a'u heffaith ar y gweithlu. 

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Nid yw cynnwys y papur hwn yn codi unrhyw faterion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant penodol.  Fodd bynnag, gallai fod effeithiau canlyniadol sylweddol ar fusnesau a'r gweithlu wrth i'r Strategaeth gael ei weithredu.