Cyfarfod, Dogfennu
Eitem 3 ar yr agenda: canfyddiadau cyfredol yr adroddiadau Partneriaeth Gymdeithasol a gyhoeddwyd
Gofynnir i Aelodau'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i nodi'r canfyddiadau cyfredol o'r adroddiadau Partneriaeth Gymdeithasol a gyhoeddwyd.
Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF
, maint ffeil 103 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
- Mae'r papur hwn yn adeiladu ar y diweddariad blaenorol a gyflwynwyd yn y cyfarfod diwethaf ym mis Rhagfyr. Yn dilyn y cyfarfod hwnnw, ysgrifennodd y Gweinidog at yr holl gyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol yn gofyn iddynt gyflwyno adroddiadau heb eu cyflwyno erbyn diwedd mis Ionawr. Dosbarthwyd y llythyr hwn i'r aelodau er gwybodaeth.
- Fodd bynnag, er bod mwy o adroddiadau bellach wedi'u cyhoeddi, nid oes digon o adroddiadau i ganiatáu i'r Ysgrifenyddiaeth ddarparu dadansoddiad, y tu hwnt i'r canfyddiadau cynnar a gyflwynwyd i'r aelodau ym mis Rhagfyr.
Diweddariad
- Ar 31 Ionawr, mae 38 o'r 55 o gyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd (69%) wedi cyhoeddi eu hadroddiad Partneriaeth Gymdeithasol ar gyfer 2024-25. Cafwyd ymatebion fel a ganlyn:
- Awdurdod Lleol (22): 17
- Corff y GIG (12): 11
- Llywodraeth Leol/Cyd-bwyllgor Corfforedig (4): 0
- Awdurdod Parc Cenedlaethol (3): 2
- Awdurdod Tân ac Achub (3): 3
- Corff Cenedlaethol (15): 5
- Anfonwyd dolenni i'r holl adroddiadau a gyhoeddwyd i'r aelodau a bydd Ysgrifenyddiaeth y Cyngor yn parhau i rannu dolenni i adroddiadau sydd newydd eu cyhoeddi gyda'r aelodau yn wythnosol. Mae'r holl adroddiadau sydd wedi dod i law wedi'u cyhoeddi ar wefan y Cyngor.
Canfyddiadau cyfredol
Gofynion statudol
- Mae bron pob corff wedi darparu rhywfaint o dystiolaeth eu bod wedi ceisio cyfaddawdu neu gael consensws wrth bennu eu hamcanion llesiant a/neu wneud penderfyniadau strategol ynghylch cymryd camau i gyflawni eu hamcanion. Nid oedd un corff wedi gosod ei amcanion llesiant am y tro cyntaf eto, ac nid oedd un arall wedi gwneud unrhyw benderfyniadau strategol.
- Y penderfyniadau strategol a adroddwyd amlaf, y ceisiwyd consensws neu gyfaddawd yn eu cylch, oedd y cynllun corfforaethol/blynyddol, gosod cyllideb ac adolygu amcanion llesiant.
- Nid oedd cyfran sylweddol o'r adroddiadau yn cynnwys datganiad yng nghorff yr adroddiad i gadarnhau bod yr undeb(au) llafur/cynrychiolwyr staff wedi cytuno ar yr adroddiad. Fodd bynnag, cadarnhawyd hyn wedyn trwy e-bost ar ôl i'r Ysgrifenyddiaeth fynd ar ôl y mater. Roedd un adroddiad yn cynnwys adran ar gyfer sylwadau gan eu hundebau llafur cydnabyddedig.
- Nid oedd dau adroddiad wedi'u cytuno â'r undebau llafur cydnabyddedig, ond roedd y ddau adroddiad yn cynnwys datganiad yn esbonio pam. Y rheswm a roddwyd mewn un adroddiad yw bod anghydfodau heb eu datrys ynghylch telerau ac amodau, ac roedd adroddiad arall yn teimlo bod rhywun yn eu hysbysu yn hytrach na 'chydweithio â nhw' ac nad oeddent wedi gwneud cyfraniad ystyrlon i'r broses benderfynu.
- Nid oedd dros hanner yr adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth am ganlyniad yr ymgysylltu â'r undeb(au) llafur cydnabyddedig /cynrychiolwyr gweithwyr.
- Dywedodd dau gorff bod eu bod wedi 'ymgynghori' ag undeb llafur/cynrychiolwyr staff ar eu hadroddiadau yn hytrach na chytuno arnynt gyda nhw. Dywedodd tri chorff fod eu hadroddiad wedi'i gyd-gynhyrchu gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig.
- Yn aml roedd bwlch hir rhwng cyflwyno i'r Cyngor a chyhoeddi'r adroddiadau. Cyhoeddwyd yr adroddiadau mewn amryw o leoedd ar wefannau'r cyrff, yn gyffredinol o dan naill ai 'Gweithio mewn Partneriaeth' neu 'Cyhoeddiadau Allweddol' er bod dau adroddiad wedi'u hintegreiddio yn yr Adroddiad Blynyddol a'r Adroddiad Llesiant. Fodd bynnag, cyhoeddodd dau gorff eu hadroddiadau fel rhan o gofnodion cyfarfod yn hytrach nag fel dogfennau annibynnol a chyhoeddodd un ei adroddiad o dan 'Polisi Cyflog a Thâl Rhywedd’.
Gwybodaeth y gofynnwyd amdani gan y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol
- Dywedodd y mwyafrif o’r cyrff fod cyfarfodydd (ffurfiol ac anffurfiol) rhwng cyflogwyr ac undebau llafur/cynrychiolwyr staff yn ystod y cyfnod adrodd, er nad oedd amlder, pwnc ac ansawdd y trafodaethau bob amser yn glir.
- Nid oedd y rhan fwyaf o adroddiadau yn darparu tystiolaeth bod hyfforddiant ar ddyletswydd y Bartneriaeth Gymdeithasol wedi'i ddarparu. Mae'r hyfforddiant y cyfeiriwyd ato yn cynnwys:
- pecyn hyfforddi ar-lein Llywodraeth Cymru ar Bartneriaeth Gymdeithasol a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) (Deddf SPPP),
- sesiwn fer ar Bartneriaeth Gymdeithasol ar gyfer undebau llafur y corff fel rhan o ddigwyddiad,
- hyfforddiant a ddatblygwyd yn fewnol ar ddeddfwriaeth y Bartneriaeth Gymdeithasol (ochr yn ochr â phynciau eraill) a gyflwynwyd i reolwyr ac uwch bartneriaid undebau llafur,
- gweithdai ar ofynion dyletswydd y Bartneriaeth Gymdeithasol a gyflwynwyd mewn cyfarfodydd partneriaeth gymdeithasol,
- gweithdy gloywi ar y cyd ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) ar gyfer cydweithwyr undebau llafur,
- e-ddysgu ar blatfform dysgu'r corff,
- sesiwn hwyluso wedi'i darparu i’r holl aelodau staff, gyda gofyniad i bob aelod newydd o staff ymgyfarwyddo â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a Deddf SPPP.
- Darparwyd llawer o enghreifftiau o ble roedd gweithgarwch partneriaeth gymdeithasol yn mynd rhagddo'n dda mewn corff cyhoeddus (gweler Atodiad A). Fodd bynnag, dywedodd cyrff eraill fod gweithgarwch Partneriaeth Gymdeithasol yn datblygu'n dda heb ddarparu enghreifftiau penodol.
Canfyddiadau eraill
- Nid oedd gan un corff undebau llafur cydnabyddedig er iddo ddweud y gallai hyn newid yn y dyfodol.
- Cafodd pob adroddiad, fwy neu lai, eu cyflwyno fel dogfennau Word/PDFs er bod un wedi'i ddarparu fel cyflwyniad PowerPoint, gyda thri arall wedi'u cynnwys mewn adroddiadau ehangach.
- Mae'r holl adroddiadau, ar wahân i ddau, yn aml yn cynnwys gwybodaeth helaeth am faterion gweithredol ehangach nad ydynt yn rhan o'r ddyletswydd (er enghraifft, penderfyniadau ar y gweithlu).
- Roedd sawl adroddiad yn cyfeirio at waith pellach yn y dyfodol i ymwreiddio partneriaeth gymdeithasol yn llawnach yn eu prosesau gwneud penderfyniadau strategol.
Y camau nesaf
- Unwaith y bydd yr holl adroddiadau cyhoeddedig wedi'u cyflwyno i Ysgrifenyddiaeth y Cyngor, bydd adroddiad dadansoddi llawn yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor i'w ystyried yn dilyn etholiadau'r Senedd.
Atodiad A
Gweler isod restr o enghreifftiau a geir yn yr adroddiadau o waith/gweithgarwch y Bartneriaeth Gymdeithasol sy'n mynd rhagddo'n dda. Sylwch nad yw hon yn rhestr gynhwysfawr.
- Cwblhau offeryn hunanasesu Partneriaeth Gymdeithasol mewn partneriaeth ag undebau llafur a nododd fod y bartneriaeth yn iach ac yn gryf
- Wrthi'n datblygu blaengynllun gwaith i sicrhau bod undebau llafur yn cael eu cynnwys mewn prosesau strategol mewn modd amserol
- Y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol sy'n cynnwys 16 o aelodau, gydag wyth yn Gynrychiolwyr Gweithwyr a benodir gan ochr yr undeb llafur
- Mae'r Fforwm Partneriaeth Leol yn darparu llwyfan strwythuredig ar gyfer deialog ystyrlon gydag undebau llafur
- O hyn ymlaen, bydd y Fforwm Partneriaeth Undebau Llafur yn neilltuo amser yn yr agenda ar gyfer y ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol
- Mae ymgysylltu ag undebau llafur bellach yn rhan o'r broses datblygu cynlluniau corfforaethol
- Roedd undebau llafur yn rhan annatod o greu'r cynllun corfforaethol 5 mlynedd, a oedd yn cynnwys ei amcanion llesiant
- Yn dilyn adborth undebau llafur ar y Cynllun Corfforaethol drafft, sefydlwyd is-grŵp o’r fforwm presennol i ddatblygu camau gweithredu ymhellach ar gydweithio i gyflawni canlyniadau ar arferion cynaliadwy
- Cynrychiolwyr undebau llafur wedi rhoi cyflwyniad yn amlinellu sut mae'r sefydliad yn gweithio ar y cyd fel rhan o'r rhaglen ymsefydlu gorfforaethol
- Wedi ailgyflwyno lle ffurfiol i gydweithwyr undebau llafur ymwneud ag uwch reolwyr mewn perthynas â pholisïau allweddol, cyflwyno cyllideb gadarn a chytbwys a newidiadau allweddol i'r gwasanaeth
- Cynnal sesiwn awr o hyd gyda fforwm perthnasol i drin a thrafod geiriad amcanion llesiant y corff. “Trwy'r ddeialog agored hon, cyrhaeddwyd consensws, gan arwain at set o amcanion llesiant diwygiedig a oedd yn adlewyrchu'r mewnbwn ar y cyd yn well”. Hefyd, cyflwynwyd sesiwn hwyluso ar Ddeddf SPPP i'r sefydliad cyfan
- Cynnwys y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol fel eitem sefydlog ar agenda fforwm ar y cyd yr undebau llafur/rheolwyr. Ar ben hynny, mae'r holl bolisïau a gweithdrefnau yn cael eu hamlygu ar gyfer ymgynghori yn y fforwm hwnnw cyn iddynt gael eu cymeradwyo
- Cyflwyno Cynhadledd Partneriaeth Gymdeithasol, y gyntaf o'i math yng Nghymru
- Datblygu Cynllun Gweithredu Partneriaeth Gymdeithasol a fydd yn arwain at gynnwys mwy o undebau llafur mewn gwaith cynllunio llesiant a threfniadau partneriaeth gymdeithasol eraill
- Sefydlu Fforwm Partneriaeth chwarterol yn gynnar sydd wedi'i ddefnyddio i rannu manylion cynllunio gweithredol a busnes, gan gynnwys penderfyniadau ariannol, adnoddau a llywodraethu a thrafod ein ffordd o weithio a chyfathrebu â gweithwyr
- Mae prif weithredwr y sefydliad yn cyfarfod bob deufis gyda chynrychiolwyr undeb llafur.
- Fe wnaeth IPA hwyluso gweithdai ar ddeall y syniadau y tu ôl i Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, egwyddorion gweithio mewn partneriaeth a nodi unrhyw rwystrau canfyddedig i weithio mewn partneriaeth a syniadau ar sut i weithio drwyddynt
- Mae undebau llafur yn cyfrannu at lunio cwestiynau’r arolwg staff
- Roedd undebau llafur yn ymwneud â phynciau gan gynnwys cyllidebau, cynlluniau corfforaethol, cynllunio strategol, strategaethau newydd, ailstrwythuro a thrawsnewid gwasanaethau
