Cyfarfod, Dogfennu
Eitem 4 ar yr agenda: adroddiad Is-grŵp Gwaith Teg y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol
Gofynnir i aelodau'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol gytuno ar Adroddiad Is-grŵp Gwaith Teg y Cyngor sydd ynghlwm yn Atodiad 1.
Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF
, maint ffeil 88 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mater
- Mae'r papur yn nodi cynnwys trafodaeth a chanfyddiadau'r Is-grŵp Gwaith Teg a gafodd ei greu gan y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i archwilio cynigion ar gyfer ymyriadau gwaith teg mewn grantiau Llywodraeth Cymru i fusnesau.
Cefndir
- Ym mis Gorffennaf 2024, fe wnaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ystyried papur undeb llafur yn gwneud cynigion eang ynghylch defnyddio cymorth ariannol Llywodraeth Cymru i sicrhau gwaith teg. Yn y cyfarfod canlynol ym mis Medi, cytunodd y Cyngor yn fwy penodol i greu is-grŵp i ystyried gwaith teg mewn grantiau Llywodraeth Cymru i fusnesau.
- Cafodd yr is-grŵp ei gynnull ar sail grŵp gorchwyl a gorffen a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr undebau llafur a sefydliadau cynrychioliadol busnes gyda threfniadau cadeirio ar y cyd o bob grŵp. Penderfynwyd mai swyddogaeth yr is-grŵp oedd gweithio ar y cyd i:
- adolygu'r dull presennol o ymdrin â gwaith teg yng ngrantiau Llywodraeth Cymru i fusnesau, fel y'i cyflawnir drwy'r Contract Economaidd
- ystyried dull ystyrlon ac effeithiol o hyrwyddo gwaith teg yng ngrantiau Llywodraeth Cymru i fusnesau sy'n rhesymol ac yn gymesur, sy'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, amodoldeb, ac sy'n ystyriol o'r amgylchedd polisi a rheoleiddio ehangach
- gwneud argymhellion i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol eu hystyried wrth roi cyngor i Weinidogion Cymru
- Mae'r adroddiad yn cyflawni’r swyddogaeth fel y’i pennwyd gan y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ac y’i nodwyd yn y cylch gorchwyl.
Argymhelliad
- Gwahoddir yr aelodau i gytuno ar yr adroddiad.
Y camau nesaf
- Ar ôl cael cytundeb, bydd Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn rhoi cyngor ffurfiol i Weinidogion Cymru.
Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)
Nid yw cynnwys y papur hwn yn codi unrhyw faterion EDI arwyddocaol.
