Neidio i'r prif gynnwys

Trosolwg

Pwrpas y papur hwn yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd i edrych ar rwystrau o ran recriwtio ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector cyhoeddus.

Cynnydd hyd yma

Cynhaliwyd gweithdy ar 13 Gorffennaf 2026 a fynychwyd gan bartneriaid cymdeithasol â buddiant. Derbyniodd y gweithdy sawl cyflwyniad a chafwyd trafodaethau grŵp. 

Clywodd y gweithdy am y canlynol:

  • Rhwystrau o ran recriwtio beth mae ymchwil yn ei ddweud wrthym? Marek Zemanik, Uwch Gynghorydd Polisi Cyhoeddus, CIPD.
  • Rhwystrau o ran recriwtio pobl anabl. Terry Mills, Hyrwyddwyr Anabledd Llywodraeth Cymru.
  • Profiadau Personol o Recriwtio: Persbectif Ethnig Leiafrifol. Titilayo Asanbe ac Angelina Rodriques o Rwydwaith Staff Ethnig Leiafrifol Llywodraeth Cymru.
  • Impact. Yvonne Phelps, Cyngor Conwy.     

Ystyriodd pum grŵp trafod flaenoriaethau, allbynnau posibl, ac enghreifftiau o arferion da. Roedd y themâu allweddol ar draws pob grŵp yn cynnwys:

  • gwella prosesau recriwtio
  • cynyddu allgymorth ac ymwybyddiaeth
  • cryfhau cynhwysiant, Cadw a chynnydd
  • hyfforddiant ac arweinyddiaeth

Roedd cytundeb eang y dylai’r Grŵp osgoi creu canllawiau dyblyg, gan fod adnoddau sylweddol eisoes yn bodoli. Yn hytrach, awgrymodd cyfranogwyr fod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn ystyried y canlynol wrth bennu allbynnau.

  • Hwb ar-lein canolog neu "siop un stop" sy’n dwyn ynghyd ganllawiau, tystiolaeth ac arfer gorau presennol.
  • Cyfeirio gwell at adnoddau sydd ar gael.
  • Storfa o astudiaethau achos, offer, templedi, deunyddiau hyfforddi a chanllawiau ymarferol.
  • Deunyddiau hyfforddi ar gyfer darpar ymgeiswyr, staff cymorth cyflogadwyedd, arbenigwyr AD a rheolwyr llogi.
  • Offeryn gwerthuso neu hunanasesu i helpu sefydliadau i fesur cynnydd a nodi bylchau.
  • Rhwydweithiau neu gymunedau ymarfer ar gyfer rhannu profiadau ac arferion da. 

Gwaith dilynol

Mae rhai enghreifftiau cychwynnol o ganllawiau ac arferion gorau wedi’u casglu gan bartneriaid cymdeithasol a byddant yn bwydo i waith yn y dyfodol. Yn ogystal, mae cais chwilio llyfrgell wedi’i ddatblygu gan yr Uwch Swyddog Ymchwil Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg. Dyma’r cam cyntaf tuag at ddatblygu adroddiad adolygu llenyddiaeth mwy systematig i gefnogi gwaith y Grŵp. 

Y camau nesaf

Bydd y Cyd-gadeiryddion yn cyfarfod ar 15 Medi ac yn pennu’r camau nesaf gyda’r nod o gynnull gweithgor i weithredu’r syniadau allweddol o’r gweithdy.

Camau i’w cymryd

Nid oes angen unrhyw weithredu; mae hwn yn bapur i’w nodi. Darperir diweddariad pellach ar waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yng nghyfarfod nesaf y Fforwm.