Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

  1. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Bil Hawliau Cyflogaeth i'r carn er mwyn gwella hawliau cyflogaeth, cryfhau'r broses orfodi, a chael gwared ar gyfyngiadau diangen ar undebau llafur. Rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y Bil yn cyflawni dros Gymru. 
     
  2. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu papurau diweddariad blaenorol i'r Cyngor ar y Bil Hawliau Cyflogaeth. Yn benodol, darparwyd papur i gyfarfod y Cyngor ym mis Rhagfyr 2024, a roddodd drosolwg cynhwysfawr o'r Bil a'i ddarpariaethau allweddol ac esboniad o gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r Bil. 
     
  3. Darparwyd p apur diweddaru arall i gyfarfod mis Mawrth 2025 y Cyngor, sy'n cwmpasu datblygiadau o fis Rhagfyr hyd at ddiwedd mis Chwefror. Roedd hyn yn cynnwys y Cyfnod Pwyllgor yn Nhŷ'r Cyffredin, cyhoeddi ymgynghoriadau Llywodraeth y DU ar agweddau ar y Bil, a gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (LCM) a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (SLCM) gan Lywodraeth Cymru). 
     
  4. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi a diweddaru detholiad helaeth o daflenni ffeithiau ar y Bil yn ei gyfanrwydd a thaflenni ffeithiau unigol ar rai o'i ddarpariaethau allweddol. Mae'r rhain ar gael yn Employment Rights Bill: factsheets - GOV.UK a dylai aelodau'r Cyngor droi at y taflenni ffeithiau hynny i gael gwybodaeth am gynnwys y Bil. 
     
  5. Mae'r p apur diweddaru hwn yn canolbwyntio ar ddatblygiadau ers y p apur diweddaru i'r Cyngor ym mis Mawrth. Yn benodol, mae'n cwmpasu:
  • Ymatebion Llywodraeth y DU i'r ymgynghoriadau a lansiwyd ganddi yn yr hydref.
  • Trosolwg o Gyfnod Adroddiad Tŷ'r Cyffredin a'r Trydydd Darlleniad.
  • Trosolwg o Ddarlleniad Cyntaf ac Ail Ddarlleniad Tŷ'r Arglwyddi, a’r Cyfnod Pwyllgor hyd yma (mae’r Cyfnod Pwyllgor yn parhau ar adeg ysgrifennu’r papur hwn).
  • Datblygiadau diweddaraf mewn perthynas â phroses Cydsyniad Deddfwriaethol y Senedd.
  • Yr amserlen ddisgwyliedig hyd at Gydsyniad Brenhinol. 

Ymatebion Ymgynghori Llywodraeth y DU

  1. Roedd y papur blaenorol i'r Cyngor yn amlinellu'r ymgynghoriadau a lansiwyd gan Lywodraeth y DU ar agweddau penodol ar y Bil. Ers hynny, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei hymateb i'r ymgynghoriadau hynny ac wedi gwneud diwygiadau sylweddol i'r Bil o ganlyniad. 
     
  2. Roedd y gwelliannau hyn yn cynnwys:
  • Gweithwyr â'r hawl i Dâl Salwch Statudol (SSP) o'r diwrnod cyntaf o absenoldeb oherwydd salwch ac sy'n derbyn naill ai 80% o'u henillion wythnosol arferol neu'r gyfradd gyfredol o SSP p'un bynnag sydd isaf.
  • Cynyddu uchafswm cyfnod y dyfarniad amddiffynnol am fethu â chyd-ymgynghori o 90 diwrnod i 180 diwrnod.
  • Sicrhau bod yr hawliau newydd i oriau gwarantedig a diogelwch incwm ar gyfer gweithwyr dim oriau yn ymestyn i weithwyr asiantaeth.
  • Symleiddio hysbysiadau gweithredu diwydiannol, ymestyn diwedd mandad undeb llafur ar gyfer gweithredu diwydiannol a gwella'r broses a'r tryloywder ynghylch cydnabod undebau llafur.
  1. Mae ymatebion Llywodraeth y DU i'r ymgynghoriadau ar gael yn:

Cyfnod Adrodd Tŷ'r Cyffredin a'r Trydydd Darlleniad

  1. Cynhaliwyd y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Cyffredin ar 11 a 12 Mawrth, a'r Trydydd Darlleniad ar 13 Mawrth. Trafodwyd y Bil yn helaeth, a chyflwynwyd cannoedd o welliannau. 
     
  2. Cyflwynwyd bron i 300 o welliannau gan Lywodraeth y DU yn unig. Mae rhestr lawn ar gael yn Employment Rights Bill, As Amended (Amendment Paper). Cytunwyd ar holl welliannau'r Llywodraeth, gan gynnwys ar faterion y cyfeirir atynt ym mharagraff 7 y papur hwn. Llwyddodd y Bil i basio'r trydydd darlleniad o 333 o bleidleisiau i 100 ac fe'i hanfonwyd i Dŷ'r Arglwyddi. 

Darlleniad Cyntaf ac Ail Ddarlleniad Tŷ'r Arglwyddi, a’r Cyfnod Pwyllgor (hyd yma)

  1. Cafodd y Bil ei Ddarlleniad Cyntaf yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 14 Mawrth a'i Ail Ddarlleniad ar 27 Mawrth. Dechreuodd y Cyfnod Pwyllgor yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 29 Ebrill. Mae sesiynau pellach naill ai wedi eu cynnal neu eu trefnu ar gyfer 8 Mai, 13 Mai, 19 Mai, 21 Mai, 3 Mehefin, a 5 Mehefin. 
     
  2. Mae cannoedd o welliannau y Cyfnod Pwyllgor wedi'u cyflwyno, gan gynnwys nifer gan Lywodraeth y DU. Mae rhestr ar gael yn HL Bill 81—I (cyflwynir gwelliannau Llywodraeth y DU dan enw'r Farwnes Jones o'r Eglwys Newydd). 
     
  3. Mae'r pynciau a drafodwyd hyd yma yng Nghyfnod Pwyllgor yr Arglwyddi yn cynnwys darpariaethau'r Bil mewn perthynas â chontractau oriau gwarantedig, diswyddo annheg, a diffiniad o gyfnodau rhybudd rhesymol. Disgwylir i sesiynau'r dyfodol drafod materion a gwmpesir yn y Bil gan gynnwys, diswyddo ac ailgyflogi, gweithio hyblyg, a mecanweithiau gorfodi. O gofio bod trafodion y Cyfnod Pwyllgor yn dal i fynd rhagddynt ar adeg ysgrifennu'r papur hwn, nid yw'n bosibl rhoi diweddariad pellach ar drafodion yr Arglwyddi. 

Proses Cydsyniad Deddfwriaethol y Senedd

  1. Esboniodd y papur diweddaru blaenorol i'r Cyngor fod Llywodraeth Cymru wedi gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (LCM) a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (SLCM) oherwydd bod rhai cymalau yn y Bil Hawliau Cyflogaeth yn effeithio ar faterion datganoledig. 
     
  2. Ar 26 a 28 Mawrth, cynhyrchodd Pwyllgorau'r Senedd eu hadroddiadau a'u hargymhellion mewn perthynas â'r LCM a'r SLCM. Mae’r rhain ar gael yn:
  1. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb ar 30 Ebrill. Mae'r ymateb i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi'i gyhoeddi yma. Mae'r ymateb i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar gael yma a'r llythyr at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar gael yma
     
  2.  Fe wnaeth Llywodraeth Cymru osod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol pellach ar 1 Ebrill. Mae'n ymwneud â'r darpariaethau ar Gytundebau Cyflog Teg mewn gofal cymdeithasol a sefydlu Corff Negodi Cytundeb Cyflog Teg. Mae'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol sy'n nodi safbwynt Llywodraeth Cymru ar gael yma
     
  3. Mae'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol hwn wedi'i gyfeirio at Bwyllgor yr Economi a Materion Gwledig y Senedd, y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth a Chyfansoddiad, gyda dyddiad cau adrodd o 13 Mehefin. 
     
  4. Mae disgwyl i'r ddadl yn y Senedd ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei chynnal yn y Senedd ar 24 Mehefin. Wrth ysgrifennu'r papur hwn, efallai y bydd y ddadl yn cael ei symud i ddyddiad ychydig yn hwyrach, os daw materion annisgwyl i oedi gwaith Tŷ'r Arglwyddi. Mae hefyd yn bosibl y bydd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol atodol pellach yn cael eu gosod os bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno gwelliannau sylweddol pellach sy'n effeithio ar faterion datganoledig yng Nghyfnod Adroddiad Tŷ'r Arglwyddi. 

Amserlen a ragwelir yn arwain at Gydsyniad Brenhinol

  1. Safbwynt datganedig Llywodraeth y DU yw i'r Bil gwblhau ei holl gyfnodau drwy’r Senedd a derbyn Cydsyniad Brenhinol cyn toriad yr haf (sy'n dechrau ar 22 Gorffennaf yn achos San Steffan). 
     
  2. Bydd y Cyfnod Pwyllgor yn Nhŷ'r Arglwyddi yn parhau tan 5 Mehefin. Mae dyddiadau y tu hwnt i hyn yn ansicr. Ar ôl ei Gyfnod Pwyllgor, bydd y Bil yn mynd ymlaen i Gyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Arglwyddi ac i’r Trydydd Darlleniad. Rhagwelir y gall y Cyfnod Adrodd ddechrau ddiwedd mis Mehefin neu ddechrau mis Gorffennaf. 
     
  3. Yn ogystal, yn dilyn y Trydydd Darlleniad yn Nhŷ'r Arglwyddi, disgwylir y bydd cyfnod o 'ping-pong' seneddol fel y'i gelwir - y broses lle mae'r Bil yn cael ei anfon yn ôl ac ymlaen rhwng Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi i ddatrys anghytundebau ynglŷn â'r testun terfynol. 
     
  4. Gallai cwblhau'r holl gamau seneddol mewn da bryd i'r Bil dderbyn Cydsyniad Brenhinol cyn toriad yr haf fod yn heriol. Mae'n bosibl, ac efallai yn debygol, na cheir Cydsyniad Brenhinol cyn yr hydref. 

DS: Mae'r Bil hwn yn esblygu'n gyflym, ac mae iddo lawer o elfennau cymhleth. Er bod y papur hwn yn adlewyrchu'n gywir y sefyllfa ar 15 Mai 2025 (er mwyn bodloni'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau ar gyfer cyfarfod mis Mehefin y Cyngor), ni all ystyried datblygiadau rhwng 15 Mai a chyfarfod y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar 4 Mehefin.