Cyfarfod, Dogfennu
Eitem 6 ar yr agenda: canfyddiadau cynnar yr adroddiadau Partneriaeth Gymdeithasol a gyhoeddwyd
Gofynnir i Aelodau’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol am farn gychwynnol ar ganfyddiadau cynnar adroddiadau Partneriaeth Gymdeithasol a gyhoeddwyd.
Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF , maint ffeil 93 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
- Mae'r papur hwn yn ychwanegu at ddiweddariadau a gyflwynwyd fel papurau i'w nodi mewn cyfarfodydd blaenorol, gan fod digon bellach wedi'u cyhoeddi i ganiatáu rhannu canfyddiadau cynnar.
Diweddariad
- Ar adeg ysgrifennu'r papur hwn, mae ugain o'r pum deg pump o gyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd wedi cyhoeddi eu hadroddiad Partneriaeth Gymdeithasol ar gyfer 2024-25. Mae'r dadansoddiad fel a ganlyn:
| Awdurdod Lleol (22) | 9 |
| Bwrdd Iechyd Lleol (8) | 3 |
| Llywodraeth Leol/ Cyd-bwyllgorau Corfforedig (4) | 0 |
| Awdurdod Parc Cenedlaethol (3) | 1 |
| Awdurdod Tân ac Achub (3) | 2 |
| Cyrff Cenedlaethol (15) | 5 |
- Mae dolenni i'r holl adroddiadau a gyhoeddwyd wedi’u hanfon at yr aelodau a bydd Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn parhau i rannu dolenni sydd newydd eu cyhoeddi ag aelodau yn wythnosol. Bydd y dolenni’n cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol maes o law.
Canfyddiadau cynnar
Gofynion statudol
- Darparodd pob corff bron o leiaf rywfaint o dystiolaeth eu bod wedi ceisio cyfaddawd neu gonsensws wrth osod eu hamcanion lles a/neu wneud penderfyniadau strategol ynghylch cymryd camau i gyflawni eu hamcanion. Roedd un corff heb osod ei amcanion lles am y tro cyntaf eto, a nododd un arall nad oedd wedi gwneud unrhyw benderfyniadau strategol.
- Y penderfyniadau strategol a adroddwyd amlaf, y ceisiwyd consensws neu gyfaddawd arnynt, oedd y cynllun corfforaethol/blynyddol, gosod y gyllideb ac adolygu amcanion lles.
- Nid oedd cyfran sylweddol o adroddiadau yn cynnwys datganiad yng nghorff yr adroddiad i gadarnhau bod yr undeb(au) llafur/cynrychiolwyr staff wedi cytuno ar yr adroddiad. Fodd bynnag, cadarnhawyd yr wybodaeth hon wedi hynny drwy e-bost pan wnaeth yr Ysgrifenyddiaeth ofyn amdani.
- Ni chytunwyd ar ddau adroddiad gyda'r undebau llafur cydnabyddedig, er yn y ddau achos, roedd yna ddatganiad yn egluro pam wedi ei gynnwys. Y rheswm a roddwyd mewn un adroddiad oedd bod anghydfodau heb eu datrys ynghylch telerau ac amodau, ac yn y llall bod yr undeb yn teimlo eu bod wedi cael gwybod yn hytrach na 'chydweithio â nhw' ac nad oedd ganddynt fewnbwn ystyrlon i'r broses o wneud penderfyniadau.
- Er bod y rhan fwyaf o adroddiadau’n cynnwys gwybodaeth am ganlyniad yr ymgysylltiad â’r undeb(au) llafur/cynrychiolwyr gweithwyr cydnabyddedig, nid oedd lleiafrif sylweddol yn gwneud.
- Defnyddiodd dau gorff y geiriau bod ‘ymgynghoriad’ ynghylch eu hadroddiadau wedi digwydd gyda chynrychiolwyr undebau llafur/staff yn hytrach na'i fod wedi'i gytuno â nhw. Dywedodd tri chorff fod eu hadroddiad wedi'i gyd-gynhyrchu gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig.
- Yn aml roedd bwlch hir rhwng cyflwyno i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol a chyhoeddi'r adroddiadau. Cyhoeddwyd yr adroddiadau mewn amrywiaeth o leoedd ar wefannau’r cyrff, yn gyffredinol o dan ‘Gweithio mewn Partneriaeth’ neu ‘Cyhoeddiadau Allweddol’ er bod dau adroddiad wedi’u hintegreiddio i’r Adroddiad Blynyddol a’r Adroddiad Lles. Fodd bynnag, cyhoeddodd dau gorff eu hadroddiadau fel rhan o gofnodion cyfarfod yn hytrach nag fel dogfennau annibynnol a chyhoeddodd un eu hadroddiadau o dan ‘Polisi Cyflog a Chyflog Rhywedd’.
Gwybodaeth y gofynnwyd amdani gan y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol
- Dywedodd mwyafrif y cyrff fod cyfarfodydd (ffurfiol ac anffurfiol) rhwng cyflogwyr ac undebau llafur/cynrychiolwyr staff yn ystod y cyfnod adrodd, er nad oedd amlder, pwnc ac ansawdd y trafodaethau bob amser yn glir.
- Nid oedd y rhan fwyaf o adroddiadau'n rhoi tystiolaeth bod hyfforddiant wedi’i roi ar ddyletswydd y Bartneriaeth Gymdeithasol. Mae'r hyfforddiant a nodwyd fel a ganlyn:
- pecyn hyfforddi ar-lein Llywodraeth Cymru ar Bartneriaeth Gymdeithasol a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) (Deddf SPPP)
- sesiwn fer ar Bartneriaeth Gymdeithasol a roddwyd ar gyfer undebau llafur y corff fel rhan o ddigwyddiad
- hyfforddiant a ddatblygwyd yn fewnol ar ddeddfwriaeth y Bartneriaeth Gymdeithasol (ochr yn ochr â phynciau eraill) a gyflwynwyd i reolwyr ac uwch bartneriaid undebau llafur
- gweithdai ar ofynion dyletswydd y Bartneriaeth Gymdeithasol a gyflwynwyd mewn cyfarfodydd partneriaeth gymdeithasol
- gweithdy gloywi ar y cyd ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) ar gyfer cydweithwyr undebau llafur
- e-ddysgu ar gael ar blatfform dysgu'r corff
- a sesiwn wedi'i hwyluso a ddarparwyd i'r holl staff ac yn ofynnol i bob aelod o staff newydd i ymgyfarwyddo â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a Deddf SPPP
- Cafwyd sawl enghraifft o ble roedd gweithgaredd partneriaeth gymdeithasol yn datblygu'n dda yn y corff cyhoeddus. Mae ystod o'r rhain wedi'u cynnwys yn Atodiad A. Fodd bynnag, adroddodd cyrff eraill fod gweithgarwch y Bartneriaeth Gymdeithasol yn datblygu'n dda heb roi enghreifftiau penodol.
Canfyddiadau eraill
- Nid oedd gan un corff undebau llafur cydnabyddedig er iddynt nodi y gallai hyn newid yn y dyfodol.
- Cyflwynwyd bron pob adroddiad fel dogfennau Word/PDF er bod un wedi'i gyflwyno fel cyflwyniad PowerPoint, gyda thri arall wedi'u hintegreiddio i adroddiadau ehangach.
- Roedd pob adroddiad, ar wahân i ddau, yn aml yn cynnwys gwybodaeth helaeth am faterion gweithredol ehangach nad oeddent yn dod o dan y ddyletswydd (er enghraifft, penderfyniadau ynghylch y gweithlu).
- Cyfeiriodd sawl adroddiad at waith pellach yn y dyfodol i ymgorffori partneriaeth gymdeithasol yn llawnach yn eu prosesau gwneud penderfyniadau strategol.
Y camau nesaf
- Unwaith y bydd yr holl adroddiadau cyhoeddedig wedi'u cyflwyno i Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, bydd adroddiad dadansoddi llawn yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor i'w ystyried.
Atodiad A
Gweler isod restr o enghreifftiau a geir yn yr adroddiadau o waith/gweithgarwch y Bartneriaeth Gymdeithasol sy'n mynd rhagddo'n dda. Sylwch nad yw hon yn rhestr gynhwysfawr.
- Cwblhawyd offeryn hunanasesu Partneriaeth Gymdeithasol mewn partneriaeth ag undebau llafur a ganfu fod partneriaethau’n iach ac yn gryf
- Yn y broses o ddatblygu cynllun gwaith ymlaen llaw i sicrhau bod undebau llafur yn cael eu cynnwys mewn prosesau strategol mewn modd amserol
- Y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol sydd, o'r 16 aelod, yn cynnwys wyth cynrychiolydd sy’n gyflogwyr a benodwyd gan ochr yr undebau llafur
- Mae'r Fforwm Partneriaeth Lleol yn darparu llwyfan strwythuredig ar gyfer deialog ystyrlon gydag undebau llafur
- Yn y dyfodol, bydd gan Fforwm Partneriaeth yr Undebau Llafur amser agenda neilltuedig ar gyfer y ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol
- Mae ymgysylltu ag undebau llafur bellach yn rhan o'r broses datblygu cynlluniau corfforaethol
- Roedd undebau llafur yn rhan annatod o greu'r cynllun corfforaethol 5 mlynedd, a oedd yn cynnwys ei amcanion lles
- Yn dilyn adborth undebau llafur ar y Cynllun Corfforaethol drafft, sefydlwyd is-grŵp o fforwm presennol i ddatblygu ymhellach gamau gweithredu ar weithio gyda'i gilydd i gyflawni canlyniadau ar arferion cynaliadwy
- Rhoddodd cynrychiolwyr undebau llafur gyflwyniad yn amlinellu sut mae'r sefydliad yn gweithio'n gydweithredol fel rhan o'r rhaglen sefydlu gorfforaethol.
- Ailgyflwynwyd lle ffurfiol i gydweithwyr undebau llafur ymgysylltu ag uwch reolwyr mewn perthynas â pholisïau allweddol, cyflawni cyllideb gadarn a chytbwys a newidiadau allweddol i wasanaethau.
- Cynhaliwyd sesiwn awr gyda fforwm perthnasol ar gyfer trafodaeth fanwl ar eiriad amcanion lles y corff. “Drwy’r ddeialog agored hon, cyrhaeddwyd consensws, gan arwain at set o amcanion lles diwygiedig a oedd yn adlewyrchu’r mewnbwn cyfunol yn well”. Hefyd, cyflwynwyd sesiwn hwyluso ar Ddeddf SPPP i'r sefydliad cyfan
- Dyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol wedi'i chynnwys fel eitem sefydlog ar agenda'r cyd-fforwm undebau llafur/rheolwyr. Yn ogystal, mae pob polisi a gweithdrefn yn cael eu hamlygu ar gyfer ymgynghori yn y fforwm hwnnw cyn iddynt gael eu cymeradwyo.
- Cyflwyno Cynhadledd Partneriaeth Gymdeithasol, y gyntaf o'i math yng Nghymru
- Datblygu Cynllun Gweithredu Partneriaeth Gymdeithasol a fydd yn arwain at fwy o gyfranogiad gan undebau llafur mewn cynllunio lles a threfniadau partneriaeth gymdeithasol eraill
- Sefydlu Fforwm Partneriaeth chwarterol yn gynnar a ddefnyddiwyd fel modd o rannu manylion ein cynllunio gweithredol a busnes, gan gynnwys penderfyniadau ariannol, adnoddau a llywodraethiant a thrafod ein dull a'n cyfathrebu â gweithwyr.
