Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Angen penderfyniad

Gofynnir i aelodau'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (y Cyngor) nodi'r amgylchiadau lle gallai'r Cyngor gyhoeddi datganiadau.

Mater

  1. Mae'r papur yn nodi'r ystyriaethau am ddatganiadau'r Cyngor.

Cefndir

  1. Yn gyfreithiol, dim ond y pethau y mae'r Cyngor wedi'i rymuso i'w gwneud trwy statud y gall eu gwneud – hynny yw, dim ond pethau y mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus 2023 ("y Ddeddf") yn caniatáu iddo eu gwneud.
     
  2. Mae adran 1 o'r Ddeddf yn nodi swyddogaethau'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol fel a ganlyn:

“(2)   At ddibenion gwella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol (gan gynnwys drwy wella gwasanaethau cyhoeddus) yng Nghymru, caiff yr CPG ddarparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag—

(a)   y dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol y mae’r Ddeddf hon yn eu gosod ar gyrff cyhoeddus ac ar Weinidogion Cymru (gweler Rhan 2);

(b)   ymgyrraedd at  nod  llesiant “Cymru  lewyrchus”  gan gyrff  cyhoeddus  wrth ymgymryd â datblygu cynaliadwy o dan DLlCD 2015 (gweler Rhan 2);

(c)   y swyddogaethau a roddir i awdurdodau contractio a Gweinidogion Cymru o dan Ran 3 (caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol).

(3)   Caiff yr CPG ddarparu gwybodaeth neu gyngor ar fater y cyfeirir ato yn isadran (2) ohono’i hun neu mewn ymateb i gais a wneir gan Weinidogion Cymru.

(4)   Pan fo’r CPG yn cael cais gan Weinidogion Cymru o dan isadran (3), rhaid i’r CPG ddarparu’r wybodaeth neu’r cyngor cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.”

  1. Er nad yw'r Ddeddf yn rhoi pŵer yn uniongyrchol i wneud datganiadau cyhoeddus i'r Cyngor, mae adran 13 yn galluogi'r Cyngor i "wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso arfer ei swyddogaethau neu swyddogaethau is-grŵp, neu sy’n ffafriol i hynny neu’n gysylltiedig â hynny".  Mae hyn yn golygu y gall y Cyngor gyhoeddi datganiad am roi cyngor i Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf ond dim ond pan fo gwneud hynny yn "hwyluso neu "ffafriol neu'n gysylltiedig" â'i swyddogaeth i ddarparu'r cyngor hwnnw.
     
  2. Byddai'n rhaid asesu cynnwys pob datganiad yn unigol i benderfynu a oedd yn dod o fewn cwmpas adran 13.  
     
  3. Mae'r Ddeddf yn sefydlu'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol fel corff cynghori statudol i Weinidogion Cymru yn hytrach na chorff ar gyfer y cyhoedd. Gan fod cynghorion y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol fel arfer yn cael eu trafod yn ei gyfarfodydd lle mae Gweinidogion yn bresennol ac felly'n rhan o'r cofnodion cyhoeddedig, dylid cyhoeddi datganiad annibynnol dim ond pan fo'r amgylchiadau penodol yn cyfiawnhau hynny. 
     
  4. Mae adran 2(5) o'r Ddeddf yn nodi'n glir na ellir arfer unrhyw un o swyddogaethau'r Cyngor heb fod yr aelodau yn gweithredu ar y cyd. Felly, dim ond y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn ei gyfanrwydd fyddai’n cael cyhoeddi datganiad (a fyddai'n arfer y swyddogaeth yn adran 13). Felly, mae angen i bob aelod gytuno ar bob datganiad ac ar eiriad y datganiad hwnnw cyn ei gyhoeddi.

Crynodeb

  1. I gloi, mae'n bosibl i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol gyhoeddi datganiad o'u cyngor i'r Gweinidogion ar y materion a amlinellir yn y Ddeddf ond dim ond dan yr amgylchiadau cyfyngedig a amlinellir ym mharagraff 4. Hefyd, er mwyn i hynny fod yn gyfreithlon, byddai angen i holl aelodau'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol gytuno ar y datganiad. 

Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Nid yw cynnwys y papur hwn yn codi unrhyw faterion EDI sylweddol.