Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Mater

  1. Mae'r papur yn gofyn i aelodau’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol a fyddent yn gweld gwerth mewn cyfarfod yn y gwanwyn (w/d 23 Chwefror) cyn etholiad y Senedd. 

Cefndir

  1. Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) ("y Ddeddf") yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol gwrdd o leiaf dair gwaith mewn cyfnod o 12 mis. Cytunodd y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i gyfarfod bedair gwaith y flwyddyn (cyfeirir at hyn ym Mhapur 04-04). Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gyfarfodydd wedi'u trefnu ar gyfer 2026. 
     
  2. Gan ei fod yn ddigwyddiad proffil uchel y mae'n rhaid i'r Prif Weinidog neu un o Weinidogion Cymru ei gadeirio, ni all y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol gyfarfod yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad. 
     
  3. Mae nifer o ddarnau o waith sy'n bodoli eisoes y gallai'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol fod eisiau eu hystyried cyn diwedd tymor y Senedd hwn:
  • Gwaith/dyfodol y gweithgor Grantiau Gwaith Teg mewn Busnes:
    Bydd y grŵp wedi cyfarfod chwe gwaith erbyn mis Chwefror, ac ar yr adeg hon dylai'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol allu ystyried ei gynnydd hyd yn hyn. Gall hefyd asesu a yw'r grŵp yn barod i adrodd ar ei ganfyddiadau neu a fydd angen iddo gynnal cyfarfodydd pellach ac adrodd ar ei ganfyddiadau mewn cyfarfod yn y dyfodol.   
     
  • Adborth gan y Grŵp Cyflawni Deallusrwydd Artiffisial (AI):
    Hyd yn hyn, dim ond unwaith y mae'r Grŵp Cyflawni wedi cwrdd felly byddai cyfarfod yn y gwanwyn yn rhoi cyfle iddo benderfynu ar ei gynllun gwaith a chyflwyno hyn i’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.
     
  • Dadansoddiad o Adroddiadau Partneriaeth Gymdeithasol Cyrff Cyhoeddus:
    Byddai cyfarfod yn y gwanwyn yn caniatáu amser i gyhoeddi a dadansoddi mwy o adroddiadau fel y gellir cyflwyno'r darlun cyflawn i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol. Mae hefyd yn cyflwyno'r cyfle olaf i aelodau ystyried yr adroddiadau partneriaeth gymdeithasol a chynghori Gweinidogion cyn dechrau'r flwyddyn adrodd nesaf. 
     
  • Diweddariad ar y dyletswyddau caffael:
    Gallai'r tîm caffael roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gwaith o weithredu'r dyletswyddau caffael cymdeithasol gyfrifol sy'n weddill o fewn y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus.  
  1. Awgrymir mai'r wythnos sy'n dechrau 23 Chwefror fyddai'r amser gorau ar gyfer cynnal cyfarfod y gwanwyn gan ei fod yn caniatáu'r amser mwyaf posibl i wneud cynnydd ar y darnau o waith a restrir uchod tra'n gadael digon o amser i anfon llythyr Gweinidogol at gyrff cyhoeddus ynghylch yr adroddiadau partneriaeth gymdeithasol cyn i'r flwyddyn adrodd newydd ddechrau. 
     
  2. Fel arall, gellid ymdrin â'r eitemau uchod drwy ohebiaeth yn lle cynnal cyfarfod, os yw'r aelodau'n dymuno. Gellid ystyried hyn, er enghraifft, os nad oes digon o adroddiadau wedi'u cyhoeddi cyn y cyfarfod i roi dadansoddiad llawn i'r aelodau i'w drafod.

Y camau nesaf

  1. Os bydd yr aelodau'n cytuno, yna bydd Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn gwneud y trefniadau angenrheidiol. 

Crynodeb

  1. Gofynnir i aelodau a hoffent gynnal cyfarfod y gwanwyn yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 23 Chwefror.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 

Nid yw cynnwys y papur hwn yn codi unrhyw faterion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant sylweddol.