Neidio i'r prif gynnwy

Angen penderfyniad

Gofynnir i Aelodau'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (y Cyngor):

I.    gytuno y dylai mesurau i hyrwyddo gwaith teg drwy gymorth grant Llywodraeth Cymru i fusnesau gael eu hystyried gan bartneriaid cymdeithasol.
II.    penderfynu a ddylid sefydlu Gweithgor o’r Cyngor at y diben a ddisgrifir yn 1, neu a fyddai trefniadau ymgysylltu â phartneriaid cymdeithasol mewn Polisi Economaidd yn well.

Mater

  1. Papur i lywio'r camau nesaf ac ymateb i gynigion ar gyfer ymgysylltu â phartneriaid cymdeithasol i ddatblygu mesurau i wella gwaith teg drwy gymorth ariannol Llywodraeth Cymru.

Cefndir

  1. Ym mis Gorffennaf fe wnaeth papur a gyflwynwyd gan TUC Cymru gynigion i sefydlu gweithgor i ystyried y defnydd o gymorth ariannol i sicrhau canlyniadau gwaith teg o wariant cyhoeddus yng Nghymru. Roedd y cynigion yn cynnwys gofynion cytundebol fel amodau cyllid grant (a ddisgrifir fel 'llinellau coch'), ehangu a safoni'r Contract Economaidd, ac adolygiad o'i weithredu.

Gwella gwaith teg

  1. Byddai strwythur sy'n ymgysylltu â phartneriaid cymdeithasol i gynghori Gweinidogion Cymru ynghylch gwella canlyniadau gwaith teg o'n cefnogaeth i fusnes yn gam nesaf amserol.
     
  2. Mae meysydd pwnc a themâu a godwyd ym mhapur mis Gorffennaf y Cyngor yn cyd-fynd ag agweddau ar gomisiwn diweddar gan Lywodraeth Cymru i werthuso'r Contract Economaidd yn allanol, y cytundeb blaenllaw rhwng Llywodraeth Cymru a busnesau a ariennir gan grantiau i gefnogi llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru. Mae crynodeb o amcanion cyfredol y rhaglen ynghlwm yn Atodiad A fel gwybodaeth gefndir.
     
  3. Mae adroddiad gwerthuso interim wrthi’n cael ei gwblhau ac ystyrir bod yr ymchwil wedi datblygu ddigon i lywio'r gwaith o gynllunio gwelliannau yn y rhaglen.
     
  4. Mae'r comisiwn yn cynnwys asesiad o brosesau gweithredu ac adolygu, a chymhariaeth ryngwladol o'r hyn y mae llywodraethau tebyg eraill yn ei wneud i annog arferion busnes cyfrifol gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ddefnyddio amodoldeb. Bydd yr adroddiad interim terfynol yn dod i gasgliadau allweddol am y rhaglen bresennol ac yn gwneud argymhellion dros dro i Lywodraeth Cymru eu hystyried.
     
  5. Mewn ymateb bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried sut y gellir gwella'r rhaglen ac yn archwilio mwy o ffocws ar feysydd arwahanol sy'n adlewyrchu ein blaenoriaethau polisi, gan gynnwys canlyniadau gwaith teg, gweithredu a safoni.

Cylch gwaith a chyfansoddiad y gweithgor

  1. Mae Adran 8 o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn caniatáu i'r Cyngor sefydlu is-grwpiau perthnasol. Mae cylch gwaith a chyfansoddiad unrhyw is-grŵp yn fater i'r Cyngor.
     
  2. Mae cynigion yn y papur hwn wedi'u cyfyngu i grantiau busnes Llywodraeth Cymru o fewn cylch gwaith y Contract Economaidd presennol, a ysgogwyd gan werthusiad o'r rhaglen gyfredol a'r cynigion a nodir ym mhapur TUC Cymru. Cydnabyddir bod hyn yn ymateb yn rhannol, ond nid yn llawn, i'r uchelgais ehangach a nodir yng nghyflwyniad y Cyngor ym mis Gorffennaf.
     
  3. Gall y Cyngor benderfynu y dylid sefydlu gweithgor at y diben ehangach o roi cyngor i Weinidogion ynghylch gwella canlyniadau gwaith teg drwy gymorth ariannol Llywodraeth Cymru neu wariant cyhoeddus. O dan yr amgylchiadau hynny, cynigir y trefnir gwaith yr is-grŵp i ystyried gwaith teg yn y cymorth grant gan Lywodraeth Cymru i fusnesau, a gyflawnir ar hyn o bryd drwy'r Contract Economaidd, fel man cychwyn. Yna byddai'r cyngor yn llywio ymateb polisi'r Gweinidogion i werthuso'r Contract Economaidd.
     
  4. Opsiwn gwahanol i weithgor y Cyngor fyddai ymgysylltu â sefydliadau sy'n cynrychioli busnesau ac undebau llafur drwy wneud trefniadau drwy'r Is-adran Polisi Economaidd. Mae yna drefniadau hirsefydlog ar gyfer ymgysylltu â phartneriaid cymdeithasol ar faterion polisi economaidd, ac efallai y byddai'n well gan aelodau'r Cyngor fod y materion hyn a ffurfio cyngor i Weinidogion wedi'u hintegreiddio yn y trefniadau hynny.
     
  5. Mae sefydliadau sy’n ymwneud â materion polisi economaidd fel arfer wedi'u cynnwys yn Atodiad B at ddibenion hysbysu trafodaeth y Cyngor am aelodaeth is-grŵp.
     
  6. Cynigir mai gweithgaredd cyntaf y Gweithgor fyddai ystyried adroddiad interim y gwerthusiad a thrafod y canfyddiadau a'r argymhellion gydag Old Bell 3 a Cwmpas, a gomisiynwyd i werthuso'r Contract Economaidd, ac awduron yr adroddiad interim.
     
  7. Mae swyddogion ym maes polisi economaidd yn fodlon hwyluso gweithgor y Cyngor neu drefniant arall, ar faterion polisi economaidd, gan weithio gydag Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.
     
  8. Disgwylir adroddiad gwerthuso interim terfynol yn fuan ac mae'n debygol o fod o fewn unrhyw amserlen y byddai'r Cyngor yn dymuno ei sefydlu ar gyfer cylch cychwynnol o gyfarfodydd gweithgor.

Cyfyngiadau

  1. Bydd angen ystyried trefniadau cymorth ariannol sydd y tu allan i gwmpas y papur hwn ar wahân. Pe bai is-grŵp yn cael ei sefydlu gyda phwrpas ehangach tebyg i'r un a amlinellir ym mharagraff 10, yna byddai'r Cyngor am ystyried rheoli aelodaeth a threfnu cynllun gwaith i sicrhau bod sefydliadau priodol a swyddogion Llywodraeth Cymru’n cymryd rhan ym mhob maes polisi, ar yr adeg briodol.

Gofynnir i Aelodau'r CCA:

  • gytuno y dylai mesurau i hyrwyddo gwaith teg drwy gymorth grant Llywodraeth Cymru i fusnesau gael eu hystyried gan bartneriaid cymdeithasol.

  • penderfynu a ddylid sefydlu Gweithgor y Cyngor at y diben a ddisgrifir yn 1, neu a fyddai trefniadau ymgysylltu â phartneriaid cymdeithasol ym maes Polisi Economaidd yn well.

Y camau nesaf

  1. Os yw aelodau'n cytuno y dylid sefydlu Gweithgor, yna y camau nesaf fyddai i'r Cyngor enwebu cadeirydd neu gyd-gadeirydd (un cynrychiolydd gweithwyr ac un cynrychiolydd cyflogwr yn eu tro) o blith ei aelodaeth. Yna byddai Ysgrifenyddiaeth yr SPC yn gweithio gyda'r cadeirydd/ion ar gyfansoddiad y gweithgor a'i gylch gorchwyl.  

Atodiad A: Y Contract Economaidd

Cefndir

Egwyddor sylfaenol y Contract Economaidd (y CE) yw ei fod yn gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a busnesau y mae Llywodraeth Cymru’n eu cefnogi i greu sefydliadau cadarn sy'n cynnig lle deniadol i weithio.

Fel arfer, caiff ei hyrwyddo fel ymrwymiad i ddarparu buddsoddiad cyhoeddus sy'n blaenoriaethu anghenion cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru wrth adeiladu economi llesiant mwy cydnerth a llewyrchus, ac a ddisgrifir yn aml fel ein dull 'rhywbeth ar gyfer rhywbeth'.

Trwy'r CE mae busnesau'n dangos y cyfraniad y byddant yn ei wneud i'r egwyddorion hyn ac mae Llywodraeth Cymru’n nodi'r cymorth y bydd yn ei roi yn gyfnewid am hyn.

Ers 2019 y prif gyfrwng ar gyfer y Comisiwn yw’r Gronfa Dyfodol Economaidd (EFF), cronfa gyfun o gynlluniau grant ar draws cyllid cynhyrchu creadigol, arloesedd, twristiaeth a chymorth craidd i BBaChau, ymhlith cynlluniau blaenllaw eraill. Lansiwyd yr EFF ochr yn ochr â'r Cynllun Gweithredu Economaidd (EAP). Roedd yr EAP wedi’i seilio ar egwyddor a ddisgrifiwyd fel buddsoddiad gyda phwrpas cymdeithasol. Nid yw'r CE wedi'i gyfyngu i'r cronfeydd hyn ac mae cynlluniau cymorth eraill yn defnyddio naill ai CE neu'n cymhwyso egwyddorion CE.

Newidiadau rhaglen a pholisi mwy diweddar

Yn 2021, yn sgil adfywio’r CE, cyflwynwyd enwau colofnau newydd gan ddod â mwy o siâp a chyfeiriad cyffredinol i'r polisi yn ymwneud â chynaliadwyedd economaidd, gwaith teg, datgarboneiddio a lles.

Cyflwynwyd rhaglen ddatblygu yn gysylltiedig â'r adnewyddu gyda’r nod o ddatblygu a gwella ein defnydd o'r egwyddorion sy'n sail i'r Contract Economaidd. Roedd y camau nesaf a oedd yn gysylltiedig â'r rhaglen adfywio yn cynnwys gwerthusiad o'r rhaglen, a bwriad pellach o gryfhau'r trefniadau i gynnwys dangosyddion safonedig (neu fetrigau), gydag uchelgais tymor hwy i ymestyn y CE i feysydd newydd o gymorth busnes a datblygu elfennau cyffyrddiad ysgafnach i fod yn gymesur â gwahanol lefelau cymorth ac i gyfansoddiad busnes.

Mae pwyslais parhaus ar ddatblygu'r CE sy'n rhedeg drwy'r fframweithiau polisi sy'n dilyn yr EAP. Mae'r Genhadaeth Economaidd (a gyhoeddwyd yn 2021) yn cynnwys ymrwymiad i esblygu, ehangu a chryfhau'r Contract Economaidd wrth geisio sicrhau gwerth cymdeithasol, gan bwysleisio ymgysylltiad â phartneriaid cymdeithasol, sy'n gyson ag ymrwymiad allweddol y llywodraeth i’r rhaglen, hefyd i 'gryfhau ein contract economaidd.'

Yn ogystal, mae dau nod llesiant cysylltiedig, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r Rhaglen Lywodraethu, sy'n pwysleisio gwaith teg, cynaliadwyedd, ac economi gryfach, wyrddach wrth i'r cynnydd mwyaf gael ei wneud tuag at ddatgarboneiddio a'n dangosyddion cenedlaethol sy'n mesur cynnydd yn erbyn ein nodau Llesiant.

Yn yr hydref y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'Blaenoriaethau ar gyfer Economi Gryfach', i ddiweddaru'r genhadaeth economaidd yn unol â'n hamgylchiadau ariannol ac economaidd presennol. Mae'r pedair blaenoriaeth genedlaethol a nodwyd yn y papur yn pwysleisio pontio cyfiawn a ffyniant gwyrdd, llwyfan i bobl ifanc, gwaith teg, sgiliau a llwyddiant, partneriaethau cryfach ar gyfer rhanbarthau cryfach, a thwf.

Yn olaf, mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn deddfu ar gyfer system o bartneriaeth gymdeithasol a Chyngor Partneriaeth Gymdeithasol gyda chyfranogwyr a benodwyd o dan y Ddeddf gan y Prif Weinidog sy'n cynnwys sefydliadau sy'n cynrychioli busnesau ac undebau llafur. Mae’n ceisio cryfhau trefniadau caffael a sbarduno canlyniadau gwerth cymdeithasol o wariant cyhoeddus hefyd.

Atodiad B: Polisi economaidd ac ymgysylltu â phartneriaid cymdeithasol

Rhestrir isod sefydliadau partner cymdeithasol sy'n cael eu cynnwys ac yn cymryd rhan mewn materion polisi economi fel arfer:

Grwpiau Busnes

  • CBI Cymru
  • FSB Cymru
  • Make UK

Undebau llafur

  • TUC Cymru
  • Unite
  • GMB
  • Prospect
  • Usdaw
  • CWU
  • Community