Neidio i'r prif gynnwy

Angen penderfyniad

Gofynnir i Aelodau SPC gytuno ar: 

i. Gylch o bedwar cyfarfod SPC y flwyddyn (fel y nodir yn y rhaglen waith ddrafft i'r dyfodol (Atodiad A).

ii. Y patrwm canlynol o gyfarfodydd ar gyfer 2025, y Gwanwyn (Mawrth), dechrau'r Haf (Mehefin), Hydref (Medi) a'r Gaeaf (Rhagfyr). 

Mater

  1. Gofynnir i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (y Cyngor) gytuno ar ei gylch cyfarfodydd. 

Cefndir

  1. Yn ôl Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 ("y Ddeddf") mae’n ofynnol i'r Cyngor gyfarfod o leiaf dair gwaith mewn cyfnod o 12 mis, er nad yw hyn yn atal y Cyngor rhag cynnal cyfarfodydd pellach.
     
  2. Nid yw'r Cyngor wedi cytuno ar ei gylch o gyfarfodydd na'i flaenraglen waith eto. Fel mesur dros dro, mae Ysgrifenyddiaeth y Cyngor yn argymell bod y Cyngor yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn. Bydd yr amserlen sefydlog hon yn caniatáu trefnu cyfarfodydd, a chadarnhau dyddiaduron mor bell ymlaen llaw â phosibl, ac yn caniatáu llwyth gwaith mwy cytbwys.
     
  3. Mae'r flaenraglen waith ddrafft, a amlinellir yn yr atodiad atodedig, yn cynnwys rhai eitemau y cytunwyd arnynt eisoes gan aelodau a fyddai'n cael eu dwyn i'r Cyngor yn flynyddol, y rhaglen ddeddfwriaethol flynyddol, yr adolygiad blynyddol o amcanion llesiant a'r gyllideb flynyddol – y tri ysgogiad y cytunodd y Cyngor y byddant yn cyflawni'r ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymgynghori â'r Cyngor ar faterion o natur strategol fel y nodir yn y Ddeddf.
     
  4. Mae cyfarfodydd yr Haf a'r Hydref (Mehefin a Medi) ar ddyddiadau penodol i sicrhau ymgynghoriad ystyrlon gyda'r Cyngor ar y mecanweithiau a nodwyd yn y paragraff blaenorol. Bydd gan gyfarfodydd y Gaeaf a'r Gwanwyn rywfaint o hyblygrwydd ac yn sicrhau bod dyddiadau'n cael eu dosbarthu'n gyfartal drwy gydol y flwyddyn.
     
  5. Bydd adegau hefyd pan fydd angen mynd i'r afael â rhai materion y tu allan i gyfarfodydd y Cyngor h.y. efallai y gofynnir i aelodau roi eu barn gychwynnol ar ddogfen ddrafft neu gofynnir iddynt gytuno ar gyfarwyddyd cyffredinol cyn i bapur ddod yn ôl i'r Cyngor. Fodd bynnag, bydd angen cymeradwyaeth ffurfiol o hyd mewn cyfarfod o’r Cyngor. Er bod cylch o bedwar cyfarfod y flwyddyn yn cael ei argymell, efallai y bydd y Cyngor yn dymuno cyfarfod ar fwy o achlysuron a gellir trefnu cyfarfodydd pellach y tu allan i'r trefniant hwn yn ôl disgresiwn y Cyngor.
     
  6. Mae aelodau wedi dweud o'r blaen y dylent gyfarfod wyneb yn wyneb o leiaf unwaith y flwyddyn gan fod y rhain yn darparu cyfleoedd i rwydweithio a meithrin gwell perthynas waith. Fodd bynnag, yr aelodau sydd i benderfynu ar eu patrwm dewisol o gyfarfodydd wyneb yn wyneb, a gellid gwneud y penderfyniad ar sail ad-hoc a'i wneud ar ddiwedd pob cyfarfod pe bai'r aelodau'n dymuno hynny.

Argymhelliad

  1. Gofynnir i'r Cyngor gytuno ar gylch penodol o bedwar cyfarfod y flwyddyn a phatrwm o gyfarfodydd ar gyfer 2025 i'w cynnal yn y Gwanwyn (Mawrth), dechrau'r haf (Mehefin), yr Hydref (Medi) a'r Gaeaf (Rhagfyr).

Atodiad A: blaenraglen waith ddrafft y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol 2024 i 2025

Cyfarfod 1: 1 Chwefror 2024

  • Ar gyfer cytundeb – Gweithdrefnau’r Cyngor
  • Trosolwg o Ddyletswyddau Llesiant Cyrff Cyhoeddus o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
  • Dull arfaethedig o ddarparu gwybodaeth a chyngor gan y Cyngor i Weinidogion Cymru
  • Gwaith Teg: polisi a chyd-destun, ysgogiadau, a chyfyngiadau
  • Darpariaethau Caffael Cyhoeddus Cyfrifol yn Gymdeithasol Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023  
  • Gweithredu'r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol ar Weinidogion Cymru
  • Cyllideb Ddrafft 2024 i 2025 Llywodraeth Cymru

Cyfarfod 2: 4 Mehefin 2024

  • Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru
  • Ymgynghoriad ar flaenoriaethau deddfwriaethol Gweinidogion Cymru
  • Adolygu amcanion llesiant Llywodraeth Cymru

Papurau i'w nodi:

  • Y wybodaeth ddiweddaraf am gaffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol
  • Amlinellu Blaenraglen Waith

Cyfarfod 3: 10 Gorffennaf 2024

  • Defnyddio cymorth ariannol Llywodraeth Cymru i sicrhau gwaith teg
  • Y potensial i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol gynghori ar oblygiadau AI i'r gweithlu
  • Y potensial i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol gefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth 

Papurau i'w nodi:

  • Polisi Presenoldeb ac Ymddygiad Aelodau’r Cyngor - Drafft
  • Y wybodaeth ddiweddaraf am gaffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol

Cyfarfod 4: 30 Medi 2024

  • Blaenoriaethau Cyllideb Llywodraeth Cymru 2025-2026
  • Ariannu Amodoldeb/ Gwella'r Contract Economaidd
  • Cytuno ar y Rhaglen Waith i'r Dyfodol
  • Dull o ymdrin â materion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
  • Cymeradwyo Gweithdrefnau’r Cyngor

Papur i'w nodi:

  • Y wybodaeth ddiweddaraf am gaffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol 

Cyfarfod 5: Gwanwyn, Mawrth 2025

  • Caffael Cyfrifol yn Gymdeithasol
  • AI a'r gweithlu (gan gynnwys diweddariad gan Gyngor Partneriaeth y Gweithlu o bosibl)

Cyfarfod 6: Haf, dechrau Mehefin 2025

  • Ymgynghoriad ar flaenoriaethau deddfwriaethol Gweinidogion Cymru 2025 i 2026
  • Ymgynghoriad ar yr Adolygiad Blynyddol o Amcanion Llesiant Llywodraeth Cymru

Cyfarfod 7: Hydref, Medi 2025

  • Ymgynghoriad ar y blaenoriaethau ar gyfer Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2026 i 2027
  • Cytuno ar Adroddiad Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru

Cyfarfod 8: Gaeaf, Rhagfyr 2025

  • Adolygiad/Dadansoddiad Interim o adroddiadau Partneriaeth Gymdeithasol Cyrff Cyhoeddus