Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Adran 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu cymryd a pham?

Mae’r newid yn y system etholiadol ar gyfer etholiadau i’r Senedd a ddaeth yn sgil Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (“Deddf 2024”) yn golygu na fydd terfynau treuliau presennol pleidiau mewn etholiadau bellach yn gweithio fel y’u bwriadwyd.

Yn ymarferol, mae hynny’n golygu os na chaiff unrhyw beth ei wneud, y bydd y terfyn gwariant sydd ar gael i blaid sy’n ymladd pob sedd yn gostwng o tua £1,200,000 yn etholiad 2021 i £160,000 yn etholiad 2026, sef gostyngiad o fwy na 85%.

Gwnaeth Deddf 2024 roi pwerau i Weinidogion Cymru osod terfynau newydd er mwyn ystyried y newid etholiadol. Mae’r ddogfen hon yn mynd ati i ystyried y defnydd o’r pwerau hynny ac unrhyw effeithiau canlyniadol.

Yn fras, nod y cynigion yw mapio terfynau gwariant ymgyrch presennol pleidiau ar draws i’r system newydd, gan leihau unrhyw newid i’r terfyn uchaf posibl cyffredinol, gan hefyd ystyried natur newidiol y system etholiadol.

Bydd y newid hwn yn cael ei gyflawni drwy wneud rheoliadau i ddiwygio’r terfynau gwariant ymgyrch presennol sy’n gymwys i etholiadau’r Senedd fel yr amlinellir yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (“Deddf 2000”).

Mae’r Rheoliadau hefyd yn darparu ar gyfer argymhelliad y Comisiwn Etholiadol i eithrio costau diogelwch rhag cwmpas treuliau ymgyrchu cymwys a gwariant rheoledig cymwys fel yr amlinellir yn Neddf 2000. 

Mae hyn yn golygu y caiff gwariant ar gostau sy’n gysylltiedig â diogelwch ymgeiswyr ei eithrio rhag terfynau gwariant ymgeiswyr mewn etholiadau datganoledig ar gyfer ymgeiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr di-blaid. Byddai hyn yn sicrhau bod etholiadau datganoledig yn cyd-fynd â dull gweithredu y DU ac yn bodloni un o argymhellion pwysig adroddiad Jo Cox.

Adran 8. Casgliad

8.1 Sut y mae pobl sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y cynnig wedi’u cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu?

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus yn yr hydref yn 2024 a daeth 13 o ymatebion i law gan gyfuniad o aelodau unigol o’r cyhoedd a phleidiau gwleidyddol. Mae hyn yn ychwanegol at sesiynau briffio technegol a gafodd eu hwyluso gan y Comisiwn Etholiadol ac a gynigiwyd i'r pleidiau yng Nghymru.

8.2 Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Er y bydd pleidiau gwleidyddol ac yn anuniongyrchol, ymgeiswyr, yn teimlo effeithiau addasu i derfyn treuliau cyffredinol fymryn yn wahanol, mae’r effaith honno yn fach o ystyried y newid o’r etholiad blaenorol. Yr effaith fwyaf wrth gymharu â gwneud dim, yw'r hyn a fyddai’n arwain at ostyngiad sylweddol yn y gwariant sydd ar gael mewn etholiadau.

Gellid disgrifio'r cynigion felly yn well fel rhai sy'n atal effaith negyddol ar bleidiau, sef cyfyngu ar eu gallu i ymgyrchu, ac ar bleidleiswyr, sef cyfyngu ar yr wybodaeth y gallant gael gafael arni am y pleidiau sy’n sefyll.

Byddai’r eithriad o ran diogelwch yn helpu i sicrhau darpariaeth briodol ar gyfer diogelwch drwy ddileu’r angen i ystyried terfynau gwariant cyffredinol plaid a gallai felly o bosibl gynyddu diogelwch cyffredinol ymgeiswyr.

8.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig: 

  • yn cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu,
  • yn osgoi, yn lleihau, neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Bydd yn osgoi’r effaith negyddol a amlinellir yn 8.2 drwy atal y terfynau gwariant rhag gostwng tua 85% yn sgil newidiadau i’r system etholiadol.

Byddai’r eithriad o ran diogelwch yn lleihau’r risg na fyddai pleidiau yn gwneud darpariaeth briodol ar gyfer diogelwch ar y sail eu bod yn dihysbyddu eu terfynau gwariant.

8.4 Sut y bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo a phryd y bydd yn dod i ben? 

Mae’r gofynion monitro ac adrodd arferol ar gyfer gwariant ymgyrch yn parhau i fod ar waith a bydd y gwaith a gynhelir gan y Comisiwn Etholiadol a thrwyddo yn rhoi data cynhwysfawr ar wariant pleidiau yn yr etholiad.

Pa gynlluniau sydd ar waith i wneud gwaith adolygu a gwerthuso ar ôl ei weithredu?

Mae cynnig sy’n awgrymu cynnal adolygiad cyffredinol o’r system etholiadol newydd wedi’i ddeddfu yn Neddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024. Pe bai’r Senedd nesaf yn penderfynu cynnal adolygiad o’r fath, byddai’n cynnig cyfrwng defnyddiol ar gyfer adolygu terfynau gwariant pleidiau.