Mae Eluned Morgan wedi bod yn sôn am flwyddyn o gyflawni'r hyn mae pobl Cymru ei eisiau, ers iddi gael ei phenodi'n Brif Weinidog benywaidd cyntaf Cymru flwyddyn yn ôl i heddiw.
Mewn neges ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y Prif Weinidog:
"Flwyddyn yn ôl, pan ddes i'n Brif Weinidog Cymru, fe wnes i addewid i wrando, dysgu a chyflawni'r pethau sydd bwysicaf i chi. Roeddech chi’n glir: mae angen gweithredu – nid mwy o eiriau – ar bedwar peth mawr: iechyd, swyddi, cartrefi a thrafnidiaeth.
"Ry'n ni wedi buddsoddi’r symiau uchaf erioed yn yr NHS. Mae nifer y bobl sy'n aros dros ddwy flynedd am driniaeth wedi cwympo mwy na 50% dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae Canolfannau Iechyd Menywod yn cael eu creu ym mhob bwrdd iechyd erbyn y gwanwyn nesaf, ac ry'n ni wedi gweithio gydag undebau a chyflogwyr i wella cyflogau a thelerau i staff gofal cymdeithasol.
"Ry'n ni wedi helpu i greu dros 40,000 o swyddi yn ystod tymor y Senedd yma. Ry’n ni wedi cefnogi busnesau yng Nghymru ac wedi sicrhau mwy o fuddsoddiad mewnol o dramor o’i gymharu â bron pob lle arall yn y Deyrnas Unedig. Ar draws y wlad, mae prosiectau adfywio yn trawsnewid canol trefi, ac ry'n ni'n wedi sicrhau tair gwaith mwy o fuddsoddiad mewn lleoliadau celfyddydol o’i gymharu â degawd yn ôl.
"Ry'n ni wedi rhyddhau tir, wedi cefnogi adeiladu tai newydd ac wedi amddiffyn dros 4,600 o gartrefi a busnesau rhag llifogydd. Mae pob disgybl ysgol gynradd yng Nghymru bellach yn cael cinio ysgol am ddim, ac ry'n ni wedi rhoi £262 miliwn yn ychwanegol i ysgolion, i roi'r dechrau gorau posibl i’n plant ni.
"Mae cwblhau ffordd Blaenau'r Cymoedd yn cyflymu teithiau ac yn helpu i ddatgloi buddsoddiad newydd. Ry'n ni wedi trwsio miloedd o dyllau ac wedi buddsoddi cannoedd o filiynau i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel. Mae'r rhan fwyaf o deithiau nawr ar drenau newydd sbon. Ry'n ni wedi buddsoddi £110 miliwn mewn bysiau gwell, llwybrau ysgol mwy diogel, tocynnau bws am £1 i’n plant ni a mwy o bwyntiau gwefru trydan.
"Dros y flwyddyn ddiwethaf, dwi wedi glynu at fy addewid – i wrando, dysgu a chyflawni. Ond dy'n ni ddim wedi gorffen eto. Dim ond y dechrau yw hyn – mae mwy i’w wneud – mwy o leisiau i'w clywed a mwy o gymunedau i'w cefnogi.
"Gyda'n gilydd, gallwn ni adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac yn fwy cysylltiedig."
