Mae enwau lleoedd hanesyddol sydd heb eu cofnodi hyd yma yn cael eu casglu mewn sesiynau cymunedol, gan ychwanegu at restr genedlaethol o fwy na 715,000 o gofnodion.
Mae sesiynau wedi cael eu cynnal ar draws Eryri, mewn partneriaeth ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol, ac Ynys Môn, gan ychwanegu dros 7,000 o enwau at y rhestr. Mae'r gwaith bellach wedi ymestyn i Bannau Brycheiniog a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyda sesiynau pellach wedi'u cynllunio ledled Cymru dros y flwyddyn i ddod.
Dywedodd Alice Thorne, Swyddog Treftadaeth Bannau Brycheiniog:
Mae enwau lleoedd yn cynnwys cenedlaethau o wybodaeth am ddealltwriaeth pobl o'r tir o’u hamgylch, ac maen nhw'n rhan bwysig o'n treftadaeth. Rydyn ni'n falch o weithio gyda'r Comisiwn Brenhinol a chymunedau ledled Bannau Brycheiniog i gofnodi'r wybodaeth leol hon a chryfhau cofnodion enwau lleoedd y Parc Cenedlaethol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru yn cynnwys cannoedd o filoedd o enwau lleoedd, sy'n rhoi cipolwg ar hanes Cymru a'i hiaith. Mae ei guradur, Dr James January-McCann, wedi bod yn cynnal sesiynau cymunedol i gofnodi enwau lleoedd sy'n bodoli yn y cof lleol ond nad ydynt erioed wedi'u cofnodi'n ffurfiol.
Dywedodd Dr James January-McCann:
Mae cysylltiad cynhenid rhwng enwau lleoedd ac ymdeimlad cymuned o le a'i hunaniaeth. Trwy eu casglu cyn iddynt gael eu colli, rydym yn sicrhau bod y trysorau ieithyddol a diwylliannol hyn, a'r wybodaeth y maent yn ei grynhoi, yn goroesi.
Mae Dr January-McCann hefyd yn paratoi pecyn cymorth i ganiatáu i grwpiau cymunedol gynnal eu sesiynau annibynnol eu hunain a chyflwyno enwau a gasglwyd yn uniongyrchol i'r rhestr. Gall unrhyw un chwilio am enwau lleoedd ar fap ar-lein y rhestr, a gallant gyflwyno eu henwau lleoedd eu hunain drwy ddefnyddio offeryn cofnodi enwau lleol ar-lein Llywodraeth Cymru a lansiwyd yn ddiweddar.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gymraeg, Mark Drakeford:
Mae enwau lleoedd hanesyddol yn ffenestr i'r grymoedd ieithyddol, cymdeithasol a hanesyddol sydd wedi siapio Cymru dros ganrifoedd. Ar ôl eu colli, mae'n amhosibl eu hadfer. Mae'r sesiynau hyn yn hanfodol i gofnodi enwau sy'n dal i gael eu cofio fel y bod modd iddyn nhw barhau i gael eu gweld, eu clywed a'u defnyddio.
