Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn cyhoeddi enwau'r cychod newydd y bydd Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i amddiffyn pysgodfeydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymweld â Mainstay Marine Solutions yn Noc Penfro i weld y gwaith adeiladu ar ddau o'r cychod sy'n cael eu hadeiladu a'u cynhyrchu yng Nghymru. Mae'r cwmni'n defnyddio gweithlu ymroddedig a galluog lleol i gynhyrchu cychod o'r ansawdd uchaf.  

Yn ystod ei hymweliad, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dadorchuddio baner newydd adran gorfodi morol Llywodraeth Cymru. Mewn cydweithrediad â Phrif Swyddog Arfbeisiau'r Garter, cafodd ei dylunio a'i chynhyrchu gan Red Dragon Flagmakers, menter gymdeithasol yn Abertawe. 

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi mai enwau'r ddau gwch patrol mwy fydd yr FPV Rhodri Morgan  a'r FPV Lady Megan a adeiledir gan Mainstay Marine Solutions ac mai'r   FPV Gwenllian a'r FPV Siwan fydd enwau y ddau gwch gwynt anhyblyg llai (RIB).  

Enw'r cwch patrol RIB â chaban yw FPV Catrin.  Mae'r adeiladwyr, MST Ltd, ar fin ei gwblhau. Caiff yr FPV Catrin ei dreialu ar y môr yn ddiweddarach y mis hwn a disgwylir iddo ddod yn weithredol yn gynnar eleni. 

Disgwylir i'r FPV Rhodri Morgan a'r FPV Lady Megan fod yn barod i'w defnyddio ddiwedd hydref eleni. 

Bydd y cychod newydd yn cymryd lle’r hen longau presennol i amddiffyn dyfroedd Cymru rhag pysgota anghyfreithlon a diogelu diwydiant pysgota a chymunedau arfordirol Cymru yn y blynyddoedd i ddod. 

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:  

"Bydd y cychod patrol newydd yn ein galluogi i barhau i orfodi cyfreithiau pysgodfeydd a morol yn effeithiol ym moroedd Cymru ac yn ein helpu i ysgwyddo'n hymrwymiad i reoli'n stociau pysgod yn gynaliadwy. Byddan nhw'n ein helpu i ddiogelu diwydiant pysgota Cymru a'n cymunedau arfordirol yn y blynyddoedd i ddod. 

"Mae'n bleser imi cael cyhoeddi enwau'r cychod newydd ac i weld â'm llygaid fy hun y gwaith ardderchog y mae Mainstay Marine wedi'i wneud wrth adeiladu dau o Gychod Patrolio Pysgodfeydd Cymru." 

Dywedodd Stewart Graves, Rheolwr Gyfarwyddwr Mainstay Marine Solutions:

"Rydyn yn hapus iawn â'r ffordd y mae'r gwaith wedi mynd yn ei flaen hyd yma. Mae ein timau dylunio, adeiladu a rheoli prosiect yn gweithio'n frwd i sicrhau ein bod yn darparu cynnyrch o'r radd flaenaf yn brydlon ac o fewn y gyllideb.”