Mae enseffalomyelitis feirysol ceffylau (EVE) yn glefyd heintus a gludir gan fosgitos.
Cynnwys
Fe'i nodweddir gan barlys ac arwyddion niwrolegol eraill. Mae'n effeithio'n bennaf ar geffylau ac equidae eraill ond gall anifeiliaid eraill hefyd gael eu heffeithio. Mae'r rhain yn cynnwys gwartheg, defaid a geifr, moch, adar (gan gynnwys dofednod), cŵn a chnofilod. Gall pobl hefyd gael eu heffeithio.
Gall EVE gael ei achosi gan sawl feirws enseffalomyelitis ceffylau, gan gynnwys:
- Enseffalitis Japan
- Enseffalomyelitis ceffylaidd y Gorllewin
- Enseffalomyelitis ceffylaidd y Dwyrain
- Feirws enseffalomyelitis ceffylaidd Venezuela
- Feirws Nil y Gorllewin
Ni fu erioed achos o enseffalomyelitis feirysol ceffylau yn y DU ond mae'n parhau i fod yn risg oherwydd symudiadau anifeiliaid yn rhyngwladol.
Amheuaeth a chadarnhad
Mae enseffalomyelitis feirysol ceffylaidd yn glefyd hysbysadwy.
Os ydych yn credu bod achos o'r clefyd, rhaid rhoi gwybod ar unwaith: Ffoniwch Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) Cymru ar 0300 303 8268.
Bydd methu â gwneud hyn yn drosedd.
Arwyddion clinigol
Gall arwyddion clinigol EVE amrywio yn dibynnu ar:
- pa firws y mae'r anifail wedi'i heintio ag ef, a
- cam yr haint
Mewn achosion difrifol, gall fod yn angheuol, fodd bynnag, efallai na fydd rhai anifeiliaid yn dangos unrhyw arwyddion clinigol o gwbl.
Gall camau cychwynnol yr haint gynnwys:
- twymyn
- colli awydd bwyta
- iselder
- stiffrwydd neu wendid
Gall camau diweddarach yr haint gynnwys:
- newidiadau ymddygiadol - fel cylchdroi, pwyso pen neu grwydro di-gyfeiriad
- gorgyffro
- dallineb
- diffyg cydlynu a chydbwysedd
- anallu i symud
- gwegian neu sefyll gyda safiad agored
- trawiadau
Trosglwyddo
Mae firysau EVE fel arfer yn cael eu lledaenu trwy frathiad mosgitos heintiedig. Gall anifeiliaid hefyd gario'r firws o un lleoliad i'r llall.
Nid yw'r clefyd yn cael ei ledaenu'n uniongyrchol o geffyl i geffyl.
Dim ond rhai mathau o fosgito all ledaenu'r feirws. Mae hyn yn golygu, pe bai ceffyl heintiedig yn dod i mewn i'r DU, byddai'r posibilrwydd y byddai'r clefyd yn lledaenu'n isel.
Iechyd pobl
Os ydych yn cael eich brathu gan fosgito heintiedig, gallech gael eich heintio â firysau enseffalitis ceffylau. Nid oes gan y rhan fwyaf o bobl unrhyw symptomau.
Ni all person neu geffyl heintiedig drosglwyddo'r firws yn uniongyrchol i eraill.
Dylech gysylltu â'ch meddyg teulu am gyngor, os:
- yw eich anifail yn dangos arwyddion o haint, a
- rydych yn poeni am eich iechyd
Atal a rheoli
Os ydych yn mewnforio anifeiliaid, rhaid i chi ddilyn rheolau mewnforio (ar gov.uk) i wneud yn siŵr eu bod yn ddi-glefyd ac yn addas i deithio.
Gallwch helpu i atal y clefyd drwy:
- fod yn gyfarwydd ag arwyddion clinigol enseffalomyelitis feirysol ceffylau
- dilyn arferion bioddiogelwch da
Deddfwriaeth
Mae Gorchymyn Clefydau Heintus Ceffylau 1987 (ar legislation.gov.uk) yn cynnwys rheoli enseffalomyelitis feirysol ceffylau.
