Erasmus+
Mae rhaglen Erasmus+ yn cynnig grantiau ar gyfer lleoliadau rhyngwladol a phrosiectau partneriaeth.
Mae Erasmus+ yn rhaglen gan yr Undeb Ewropeaidd sy'n ariannu lleoliadau rhyngwladol a phartneriaethau ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio ym maes addysg, hyfforddiant, gwaith ieuenctid a chwaraeon.
Mae'n helpu pobl yng Nghymru i gael gwybodaeth, profiad gwaith a sgiliau newydd trwy astudio, dysgu a gweithio mewn gwledydd eraill.
Ar gyfer pwy
- Ysgolion ac addysg oedolion.
- Addysg a hyfforddiant galwedigaethol.
- Addysg bellach.
- Addysg uwch.
- Pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid.
- Staff a gwirfoddolwyr mewn sefydliadau chwaraeon.
I gael rhagor o fanylion am ba sefydliadau all wneud cais, gweler canllawiau rhaglen Erasmus+. Mae hon yn ddogfen dechnegol sydd wedi'i hanelu at sefydliadau sy'n paratoi ceisiadau am gyllid.
Help i ddarpar ymgeiswyr
Mae'r Cyngor Prydeinig yn rheoli Erasmus+ yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys ceisiadau a chefnogaeth ar gyfer rhedeg y rhaglen o ddydd i ddydd. Ewch i wefan Erasmus+ y British Council i ddarganfod sut y gallech chi, eich dysgwyr neu'ch cydweithwyr elwa ar hyn, ac i gael manylion llawn am fod yn gymwys a sut i wneud cais am gyllid.
