Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, heddiw y bydd y cymhellion ariannol presennol ar gyfer hyfforddi athrawon yn cael ei estyn i flwyddyn academaidd 2019-20.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod y cymhellion, hyd at £20,000 y myfyriwr, yw denu'r graddedigion gorau i fod yn athrawon pynciau sy’n flaenoriaeth megis mathemateg, cemeg, ffiseg, cyfrifiadureg ac ieithoedd tramor modern.

Bydd Iaith Athrawon Yfory, y cynllun cymhelliant sy'n cynnig hyd at £5,000 i hyfforddi i fod yn athro addysg uwchradd yn Gymraeg, yn parhau hefyd yn 2019-20. Gall Iaith Athrawon Yfory gael ei ddefnyddio ochr yn ochr â'r cymhellion ar gyfer pynciau â blaenoriaeth sy'n creu cymhelliant hyd at uchafswm o £25,000.

Mae'r cymhellion uchaf eu gwerth ar gael i raddedigion sy'n astudio cwrs Addysg Gychwynnol Athrawon yn y meysydd â blaenoriaeth ac sydd â gradd dosbarth cyntaf neu radd meistr neu ddoethuriaeth. Mae cymhellion eraill ar gael i raddedigion â graddau 2:1 a 2:2.

Mae'r arian ar gael ar gyfer myfyrwyr graddedig ar gyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yn y pynciau canlynol:

  • Hyd at £20,000 ar gyfer mathemateg, ffiseg, cemeg, Cymraeg neu gyfrifiadureg
  • Hyd at £15,000 ar gyfer ieithoedd tramor modern
  • £3,000 i raddedigion sydd â gradd dosbarth cyntaf neu radd meistr neu ddoethuriaeth i addysgu pob un o'r prif bynciau eraill yn y sector uwchradd a’r sector cynradd
  • £3,000 atodol i raddedigion sydd â gradd dosbarth cyntaf, Meistr neu PhD sy'n ymgymryd ag astudiaethau TAR cynradd sydd ag arbenigedd pwnc mewn Cymraeg, Saesneg, mathemateg neu wyddoniaeth.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Mae rhoi i ddisgyblion ysgol yr addysg orau bosib yn golygu denu'r athrawon gorau i'r proffesiwn, yn arbennig mewn pynciau â blaenoriaeth lle bo'r galw am athrawon newydd ar ei uchaf.

“Rydyn ni hefyd yn estyn cymhellion Iaith Athrawon Yfory i helpu i gynyddu'r niferoedd i fod yn athrawon Cymraeg ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, er mwyn ein helpu ni i gyflawni nodau Cymraeg 2050.

“Bydd y cymhellion hyn sydd hyd at £20,000, gyda £5,000 ychwanegol ar gael i athrawon cyfrwng Cymraeg, yn helpu i recriwtio'r athrawon gorau a allwn a'u cynnal ar hyd y llwybr o ran eu gyrfa. Mae cynnal gweithlu o athrawon cryf a medrus yn hanfodol i ni gyflawni ein huchelgais yn Cenhadaeth ein Cenedl ar gyfer Addysg yng Nghymru.”

Ceir rhagor o wybodaeth am y cymhellion yn:

https://www.darganfodaddysgu.cymru/cymhellion-hyfforddi-i-athrawon/