Neidio i'r prif gynnwy

Mae Kirsty Williams wedi cyhoeddi y bydd arolygiaeth addysg Cymru, Estyn, yn chwarae mwy o ran yn y gwaith o gefnogi ysgolion i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r newid yn un o blith cyfres o fesurau a luniwyd i wella safonau mewn ysgolion - gan roi'r pwyslais ar addysgu a dysgu, ar lesiant disgyblion ac athrawon ac ar leihau biwrocratiaeth ddiangen.

O dan y cynigion ar gyfer diwygio trefniadau arolygu - i'w cyflwyno'n raddol o fis Medi 2021 ymlaen - byddai Estyn yn ymweld ag ysgolion fwy nag unwaith mewn cylch saith mlynedd, gan ddarparu sicrwydd i rieni a'r gymuned ehangach yn fwy aml ynghylch y safonau sy'n cael eu cyrraedd a'r blaenoriaethau ar gyfer gwella. 

Yn y tymor byrrach, bydd Estyn yn chwarae rhan fwy yn y gwaith o gefnogi ysgolion i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd.

Er mwyn galluogi'r newidiadau hyn i ddigwydd, bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ymestyn y cylch arolygu i 8 mlynedd o'r 7 mlynedd bresennol.

Byddai hyn yn golygu y byddai arolygiadau ysgolion yn cael eu hatal dros dro o fis Medi 2020 hyd at fis Awst 2021. Serch hynny, bydd y gwaith o arolygu ysgolion sy'n achosi pryder, awdurdodau lleol ac ysgolion annibynnol yn parhau.

Bydd trefniadau diwygiedig ar gyfer arolygiadau yn dechrau cael eu cyflwyno o fis Medi 2021, ond proses raddol fydd hon dros nifer o flynyddoedd - gan helpu ysgolion i addasu i'r cwricwlwm newydd ac ar yr un pryd i gynnal a chodi safonau.

Dywedodd Kirsty Williams:

"Arolygiaeth effeithiol yw un sy'n darparu sicrwydd bod safonau yn cael eu bodloni, ac sydd ar yr un pryd yn cefnogi ysgolion i gynnal gwelliant.

"Mae'r newidiadau arfaethedig yn rhan o newid ehangach yn y diwylliant rydym angen ei weld yn ein hysgolion - ac mae newid diwylliant yn cymryd amser bob tro. 'Does dim dull clec fawr pan ddaw hi'n gwestiwn o fater fel hwn.

"Rydyn ni'n symud i fodel o werthuso a gwella, sy'n fwy cydnaws â'r systemau addysg sy'n perfformio orau ledled y byd. Yr hyn sy'n parhau'n gyson yw ein pwyslais ar godi safonau a lefelau cyflawniad i bawb.

"Bydd gan Estyn ran hollbwysig yn y gwaith o beri i hyn ddigwydd a dyna pam y dylen nhw gael rhan fwy yn y gwaith o gefnogi ysgolion, cyn ac ar ôl i'r cwricwlwm newydd gael ei gyflwyno."

Dywedodd Prif Arolygydd Estyn, yr arolygiaeth dros addysg a hyfforddiant yng Nghymru, Meilyr Rowlands:

"Rwy'n croesawu cyhoeddiad heddiw ac yn edrych ymlaen at barhau i weithio'n agos gyda phenaethiaid ac ysgolion ar ddiwygio'r cwricwlwm. Byddwn yn lansio ymgynghoriad yn fuan i gasglu barn ynghylch holl gynigion heddiw cyn inni roi unrhyw newidiadau ar waith."