Neidio i'r prif gynnwy

Mae angen i bobl sy’n cael anawsterau gyda’u hiechyd meddwl dros gyfnod y Nadolig wybod bod cymorth ar ben arall y ffôn. Dyna neges y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Eluned Morgan ar ôl iddi gwrdd â Samariaid Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Samariaid Cymru yw un o’r elusennau iechyd meddwl y mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda nhw i ddarparu cymorth iechyd meddwl lefel isel, gan gynnwys ar gyfer straen a gorbryder, yn ystod pandemig COVID.

Mae’r ymchwil ddiweddaraf o’r llinell gymorth yn dangos mai bod ar wahân i deulu ac anwyliaid dros gyfnod y Nadolig yw un o’r pryderon mwyaf sy’n wynebu galwyr, ac mae chwarter y 1,400 sydd wedi cysylltu dros y tri mis diwethaf wedi dweud eu bod yn bryderus am eu llesiant dros y Nadolig a chyfnod y gaeaf.

Ddoe (17 Rhagfyr) bu’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Eluned Morgan yn cwrdd â Chyfarwyddwr Gweithredol y Samariaid yng Nghymru Sarah Stone a gwirfoddolwyr o’r llinell gymorth. Gwnaethant drafod effaith COVID ar y gwasanaeth, pryderon pobl, a’r ffordd fwyaf priodol o roi cymorth i’r rhai sydd mewn angen.

Mae Llywodraeth Cymru’n gwario mwy ar iechyd meddwl - mwy na £700m – nag ar unrhyw ran arall o’r GIG. Eleni, neilltuwyd cyllid ychwanegol o bron i £10miliwn ar gyfer cymorth iechyd meddwl mewn ymateb uniongyrchol i effaith y pandemig. Mae hyn wedi canolbwyntio ar ddarparu ystod o gymorth hawdd cael ato, dros y ffôn ac ar-lein, fel nad oes angen i bobl sy’n ceisio cymorth gael eu hatgyfeirio gan feddyg.

Mae hyn yn cynnwys y llinell gymorth iechyd meddwl CALL a’r cymorth Therapi Gwybyddol Ymddygiadol am ddim ar-lein SilverCloud, yn ogystal â mwy o gymorth mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion. Mae’r ffaith bod mwy na 3,500 o bobl wedi cofrestru â SilverCloud ers ei lansiad ym mis Medi yn dangos bod angen y math hwn o wasanaeth.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg Eluned Morgan:

Mae gwella mynediad at gymorth ar gyfer materion iechyd meddwl lefel isel yn flaenoriaeth i ni ac mae’n hanfodol ein bod yn darparu cymorth ar gyfer y rhai sydd ei angen. Gwyddom fod yr ofn o golli swyddi neu bryder am anwyliaid yn debygol o gynyddu’r galw ar ein gwasanaethau iechyd meddwl, a dyna pam rydym yn ymateb drwy gynyddu ein camau gweithredu a’n cymorth gyda buddsoddiad o ddegau o filiynau o bunnau ychwanegol mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

Fodd bynnag, nid yw’r ateb yn un syml ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws Cymru a holl adrannau’r llywodraeth i fynd i’r afael â’r mater hwn.

Ychwanegodd:

Roedd yn fraint cael siarad gyda Samariaid Cymru am sut y maent wedi addasu i ymdopi gyda’r pandemig a llwyddo i gyrraedd mwy na miliwn o bobl mewn cyfnod o gwta chwe mis.

Gall y Nadolig fod yn gyfnod anodd i lawer o bobl, ac mewn pandemig gall fod yn anoddach fyth, felly rydym yn awyddus i bobl wybod bod cymorth a chlust i wrando yno bob amser i’r bobl sydd ei angen.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol y Samariaid yng Nghymru Sarah Stone:

Mae hon wedi bod yn flwyddyn heb ei thebyg a’r pandemig wedi effeithio ar iechyd a llesiant cymaint o bobl. Mae angen i ni fod yno ar gyfer pobl mewn trallod yn awr yn fwy nag erioed.   

Gwyddom fod pobl yn ei chael hi’n anoddach ymdopi adeg y Nadolig, gan mai dyma pryd y bydd pobl yn teimlo fwyaf unig. Waeth beth fydd yn digwydd gyda chyfyngiadau COVID, rydym eisiau i bobl wybod bod cymorth cyfrinachol ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, a’n bod ni yno i bawb.