Neidio i'r prif gynnwy

Cynhelir yr etholiad i'r Senedd ar 6 Mai 2021. Diben y canllawiau hyn yw rhoi gwybod i staff am y trefniadau ar gyfer ymdrin â busnes y llywodraeth yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol er mwyn osgoi unrhyw ganfyddiad eu bod yn dylanwadu ar ymgyrch yr etholiad mewn unrhyw ffordd, er mwyn sicrhau bod y Gwasanaeth Sifil yn parhau’n ddiduedd, ac er mwyn osgoi’r feirniadaeth fod adnoddau swyddogol wedi’u defnyddio’n amhriodol. Mae'r ymateb i bandemig y coronafeirws wedi creu sefyllfa unigryw, a dylid darllen y canllawiau yn y cyd-destun hwnnw. Ceir cyngor pellach isod.

1. Cyflwyniad

Mae pandemig y coronafeirws wedi creu amgylchiadau unigryw na welwyd eu tebyg yn ei hoes ni. Yn ystod cyfnod etholiad y Senedd, bydd angen i’r Gweinidogion (mae cyfeiriadau at Weinidogion yn y ddogfen hon yn cynnwys: y Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Dirprwy Weinidogion) barhau i wneud penderfyniadau pwysig ynglŷn â rheoli’r feirws, a bydd raid i swyddogion barhau i’w cefnogi drwy roi cyngor iddynt. O ystyried sut y mae’r coronafeirws wedi amharu ar ein bywydau bob dydd, mae’n anochel y bydd rhai o’r penderfyniadau hyn yn uchel eu proffil ac efallai’n sensitif.

Mae adrannau canlynol y canllawiau hyn yn nodi’r rheolau cyffredinol ar gyfer swyddogion Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chefnogi Gweinidogion, gan gynnwys cyfathrebu, yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. Fodd bynnag, gan y bydd pandemig y coronafeirws ac ymateb y Llywodraeth i’r argyfwng iechyd y cyhoedd yn parhau’n fater pwysig yn ystod yr etholiad, dylid darllen y canllawiau yn y cyd-destun hwnnw.

Ni chaiff y Senedd bresennol ei diddymu tan un funud wedi hanner nos ar 29 Ebrill er mwyn gallu ymateb i faterion iechyd cyhoeddus newydd sy’n codi. Bydd angen i ni barhau i gefnogi Gweinidogion Cymru gyda gweithgarwch o’r fath a gydag ymateb ehangach Llywodraeth Cymru i’r pandemig. Gallai hyn gynnwys drafftio deddfwriaeth berthnasol, ymateb i ddadleuon a pharatoi atebion i gwestiynau llafar ac ysgrifenedig y Senedd. Bydd Gweinidogion yn rhydd i weithredu yn eu rhinwedd gwleidyddol, ac nid ydynt wedi’u cyfyngu rhag siarad yn wleidyddol am y materion hyn. Fodd bynnag, dyletswydd swyddogion yw cefnogi ymateb Gweinidogion a Llywodraeth Cymru i’r pandemig, heb gael eu tynnu i’r llwyfan gwleidyddol. Os oes gennych amheuaeth, dylech geisio cyngor gan eich Cyfarwyddwr Cyffredinol / Cyfarwyddwr Adrannol.

Ni fydd y ffaith fod gwaith yn parhau ar ymateb y llywodraeth i bandemig y coronafeirws yn gyfiawnhad dros barhau â gwaith proffil uchel mewn meysydd eraill o fusnes y llywodraeth. Os bydd penderfyniad yn cael ei wneud nad yw o ganlyniad uniongyrchol i’r ymateb i’r pandemig, dylid rhoi ystyriaeth i’r egwyddorion a nodir yn y canllawiau.

Yn amodol ar arfer unrhyw bwerau brys oherwydd pandemig y coronafeirws, bydd yr etholiad nesaf i’r Senedd yn cael ei gynnal ddydd Iau 6 Mai 2021.

Bydd y cyfnod cyn-etholiadol yn dechrau ar 25 Mawrth 2021. Bydd y Gweinidogion yn parhau i ddal swydd Weinidogol tan ar ôl yr etholiad, a than i Brif Weinidog newydd gael ei benodi gan y Frenhines, ar ôl cael ei enwebu gan y Senedd, ac i Gabinet newydd gael ei benodi.

Yn unol â Chod y Gweinidogion, ni fydd Gweinidogion* yn mynd i unrhyw ddigwyddiadau, nac yn gwneud unrhyw gyhoeddiadau neu benderfyniadau, y gallai pobl eu dehongli fel rhai sy'n rhoi mantais i blaid wleidyddol neu’n rhoi mantais etholiadol. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw weithgarwch uchel ei broffil neu sensitif gan Weinidogion yn dod i ben yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol.

Bydd busnes gweision sifil o ddydd i ddydd yn parhau yn ôl yr arfer yn y rhan fwyaf o achosion. Fodd bynnag, gall fod rhai meysydd lle cyfyngir ar ein gweithgarwch.

Diben y nodyn hwn yw rhoi arweiniad cyffredinol ar yr effaith y bydd ymgyrch yr etholiad yn ei gael arnom ni fel gweision sifil. Caiff canllawiau penodol eu paratoi ar gyfer staff sy'n gweithio yng Nghomisiwn y Senedd, a bydd y canllawiau hynny'n adlewyrchu eu hamgylchiadau penodol hwy. Bydd canllawiau ychwanegol yn cael eu paratoi ar gyfer staff y Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu a'r rheini sy'n rhan o weithgarwch ymchwil ystadegol, arolygon a gwaith ehangach. Bydd egwyddorion y canllawiau hyn yn cael eu cyfleu i'r GIG, i'r Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru ac i gyrff cyhoeddus datganoledig eraill yng Nghymru.

Nid yw canllawiau’r cyfnod cyn-etholiadol yn berthnasol i awdurdodau lleol yng Nghymru, ond gallant lunio eu canllawiau eu hunain ar gyfer staff.

Noder y bwriedir cynnal etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu yr un diwrnod yng Nghymru a Lloegr.

Nid yw'r hyn a ganlyn yn ymdrin â phob achos a allai godi yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol, ac ni all wneud hynny.

Os oes gennych unrhyw amheuon am yr hyn y mae angen i chi ei wneud, dylech gysylltu â'ch Cyfarwyddwr Cyffredinol neu eich Cyfarwyddwr Adrannol yn y lle cyntaf, neu'r â’r swyddog cyswllt priodol ym mharagraff 13.

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil yn parhau i fod yn berthnasol yn ystod yr ymgyrch. O dan y Cod hwnnw, rhaid inni lynu wrth ddwy egwyddor sylfaenol drwy’r amser:

  1. bod yn wleidyddol ddiduedd, a chael ein gweld yn gweithredu felly
  2. sicrhau nad yw adnoddau cyhoeddus yn cael eu defnyddio at ddibenion plaid wleidyddol

2. Cynorthwyo Gweinidogion: Deunydd briffio, cyflwyniadau a busnes rheolaidd

Yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol, ni ddylid gofyn i Weinidogion wneud penderfyniadau uchel eu proffil neu sensitif. Yn achos penderfyniadau o'r fath, dylid naill ai eu gwneud cyn diwrnod cyntaf y cyfnod cyn-etholiadol, neu eu gohirio tan ar ôl y diwrnod pleidleisio. Dylid parhau i ddelio â materion rheolaidd neu faterion brys iawn.

Yn fwy cyffredinol, dylem barhau i gyflwyno cyngor a deunydd briffio i'r Gweinidogion, a dal ati fel arall i wneud eu gwaith yn unol â'r arfer, gan dalu sylw i'r gofynion arferol i fod yn ddiduedd. Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr nad oes unrhyw beth yn ein gwaith (gan gynnwys deunydd briffio ac atebion i ohebiaeth) yn awgrymu cefnogaeth neu wrthwynebiad i unrhyw blaid neu bleidiau gwleidyddol, neu a allai awgrymu hynny i eraill. Os oes gennych amheuaeth, gofynnwch am gyngor gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol neu’r Cyfarwyddwr Adrannol perthnasol.

Fodd bynnag, dylem gofio ei bod yn bosibl na fydd y Gweinidogion ar gael i’r fath raddau i glirio gwaith yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. Felly, os ydych yn bwriadu cyflwyno gwaith i Weinidog sydd angen sylw brys, dylech gysylltu â'r swyddfa breifat berthnasol mewn da bryd i drafod amseroedd.

Ni ddylem ymgymryd ag unrhyw waith (gan gynnwys cyhoeddiadau, cyfarfodydd neu ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd) sy'n debygol o ddenu sylw'r cyfryngau, a/neu sy'n sensitif yn wleidyddol neu'n uchel ei broffil. Wrth gynllunio gweithgareddau o'r fath, dylid osgoi'r cyfnod cyn-etholiadol yn gyfan gwbl. Ceir rhagor o ganllawiau am y mathau o weithgareddau na ddylid ymgymryd â hwy yn ystod y cyfnod ymgyrchu yn atodiad A y nodyn hwn. Ceir canllawiau eraill ar ymgynghori isod. 

Ni ddylem ychwaith gytuno i wneud cyhoeddiadau ar y cyd gydag Adrannau Whitehall. Mae angen ichi fod yn ymwybodol fod y canllawiau hyn yn berthnasol i swyddogion Llywodraeth Cymru ac na fydd swyddogion Whitehall wedi’u cyfyngu i’r fath raddau yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol, ond nid yw gwneud cyhoeddiad ar y cyd yn golygu ei bod yn fwy derbyniol i’w wneud yng Nghymru. Felly, os oes angen gwneud cyhoeddiad ar y cyd, dylid ei ohirio tan ar ôl yr etholiad. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, dylech drafod â’r Tîm Cyfansoddiad a Chyfiawnder, ac mae’r manylion cyswllt ar gael ym mharagraff 12.

Dylai unrhyw geisiadau gan bleidiau gwleidyddol yng nghyd-destun confensiynau ymgynghori cyn etholiad gael eu cyfeirio at swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol i ddechrau. Bydd yr Ysgrifennydd Parhaol yn ystyried y ffordd fwyaf priodol o ymateb yn unol â’r confensiwn, ac mae’n bosibl y bydd yn gofyn am gyngor yn ôl yr angen.

Cyfathrebu â’r cyhoedd gan uwch-weision sifil

Rydym yn defnyddio uwch-weision sifil a swyddogion dibynadwy ar gyfer cyfathrebu cyhoeddus, ac mae hynny wedi bod yn arbennig o wir yn ystod y pandemig. Bydd mwy o sensitifrwydd ynghylch y gweithgareddau hyn yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol, er y gall fod amgylchiadau lle bernir y dylai uwch-weision sifil gyfathrebu â'r cyhoedd.

Rhaid bod yn ofalus iawn nad ydynt yn cael eu rhoi mewn sefyllfa lle gallai fod canfyddiad eu bod yn rhoi sylwadau ar faterion gwleidyddol byw ac felly'n ymyrryd mewn ymgyrch etholiadol. Dylid craffu’n fanwl ar bob cyfle cyfathrebu arfaethedig a rhoi camau diogelu ar waith i osgoi'r canfyddiad hwn. Ni ddylent gynnal unrhyw gyfweliadau byw yn ystod y cyfnod hwn, a dim ond pan ystyrir bod hynny'n gwbl angenrheidiol y cynhelir cynadleddau i'r wasg. Dylai unrhyw gynnwys a recordiwyd ymlaen llaw fod yn destun craffu tebyg a chael ei sgrinio ar gyfer sensitifrwydd gwleidyddol cyn ei gyhoeddi.

3. Ymgyngoriadau

Pan fydd Llywodraeth Cymru yn paratoi cynigion newydd ar gyfer polisïau, rhaglenni neu ddeddfwriaeth a bod angen ymgynghori arnynt, fel rheol ni ddyla’r ymgynghoriad gychwyn yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol.

Ni ddylid cynnal ymgynghoriadau uchel eu proffil na sensitif o gwbl yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. Gall ymgyngoriadau a gychwynnodd cyn dechrau'r cyfnod cyn-etholiadol fynd yn eu blaenau, gyda chyfyngiadau priodol ar y cyhoeddusrwydd iddynt, os nad yw'r ymgynghoriad yn un o broffil uchel neu sensitif.

Os oes bwriad i gynnal ymgynghoriad ar y cyd rhwng un o Adrannau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, dylid gwneud pob ymdrech i osgoi cychwyn unrhyw ymgynghoriad yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol (neu osgoi bod ymgynghoriad o'r fath yn parhau yn ystod y cyfnod hwnnw, os bydd yn ddadleuol neu'n uchel ei broffil). Os yw hyn yn anorfod oherwydd amserlen ddeddfwriaethol San Steffan, neu os oes perygl gwirioneddol y gallai Cymru gael ei heithrio o ddeddfwriaeth ac y gallai hynny fod yn andwyol i fudd y cyhoedd, dylai'r ymgynghoriad fynd rhagddo ond gan fod yn sensitif i ymgyrchoedd yr etholiad.

Pan fydd un o Adrannau Llywodraeth y DU yn ymgynghori ledled y DU neu ar lefel “Cymru a Lloegr” ar fater nad yw wedi'i ddatganoli, dylem dynnu eu sylw at y cyfnod cyn-etholiadol a gofyn iddynt fod yn sensitif i ymgyrchoedd yr etholiad – fel y gwnaethom ni yma pan gynhaliwyd etholiadau Senedd y DU yn 2019.

4. Ceisiadau mynediad at wybodaeth, ac ymholiadau

Dylem barhau i ddarparu gwybodaeth gofnodedig mewn ymateb i ymholiadau gan bleidiau, ymgeiswyr ac eraill, yn unol â’r Canllawiau i Staff ar Ymdrin â Cheisiadau am Wybodaeth Gofnodedig.

Mae pob cais am wybodaeth gofnodedig yn dod o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ac fel arfer dylid ymateb iddynt o fewn 20 diwrnod gwaith. Dylid parhau i ddelio â cheisiadau i ddatgelu gwybodaeth gofnodedig, nad yw'n gyhoeddus yn unol â’r Canllawiau i Staff ar Ymdrin â Cheisiadau am Wybodaeth Gofnodedig. Serch hynny, yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol mae'n arbennig o bwysig bod staff yn rhoi sylw i oblygiadau gwleidyddol ymatebion i geisiadau. Dylid trafod sut i ymdrin â cheisiadau sy'n debygol o fod â goblygiadau gwleidyddol â'r Cyfarwyddwr Cyffredinol neu Cyfarwyddwr Adrannol perthnasol.

Dylid trin pob cais am wybodaeth gofnodedig yr un fath â’i gilydd, waeth beth yw ymlyniad gwleidyddol y sawl sy'n cyflwyno'r cais.

5. Gohebiaeth

Os oes modd, dylem wneud pob ymdrech i ddrafftio a chlirio ymatebion i ohebiaeth cyn diwrnod cyntaf y cyfnod cyn-etholiadol.

Dylid trin ymgeiswyr yn yr etholiad yn gydradd, p'un a ydynt yn ASau neu beidio. Mae hyn yn golygu y dylai'r Gweinidogion ymateb i lythyrau a ddaw i law gan ymgeiswyr yn yr etholiad yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol.

Ni fydd angen rhoi ymateb dros dro oni bai fod yr ymateb arfaethedig yn debygol o ddenu sylw'r cyfryngau lleol neu genedlaethol heblaw am gyfeiriadau dibwys neu arwynebol, neu os yw'n ymdrin â materion gwleidyddol dadleuol. Yr ysgrifenyddion preifat fydd yn anfon ymatebion dros dro, a hynny ar gyngor swyddogion.

Heblaw am yr hyn a ddisgrifir uchod, mae'r canllawiau ynghylch pwy ddylai dderbyn gohebiaeth Weinidogol/TO yn parhau'n ddigyfnewid. Bydd y clerc gohebiaeth neu'r swyddfa breifat yn penderfynu ar hynny yn y ffordd arferol. Mae enghreifftiau o eiriadau safonol ar gyfer ymateb i wahoddiadau ar gael isod.

Geiriad safonol ar gyfer ymateb i wahoddiadau cyffredinol

Mae'r Gweinidog wedi gofyn imi ddiolch ichi am eich llythyr/e-bost ar [dyddiad] yn ei wahodd/gwahodd i [digwyddiad] ar/ym mis [dyddiad] 2021.

Cynhelir etholiad Senedd Cymru ar 6 Mai 2021 ac felly nid yw'n bosibl cadarnhau ar hyn o bryd a fydd y Gweinidog ar gael. Mae croeso ichi gysylltu eto ar ôl 6 Mai pan fydd y Llywodraeth newydd ar waith.

Geiriad safonol ar gyfer ymateb i wahoddiadau i ddigwyddiadau uchel eu proffil

Mae'r Gweinidog wedi gofyn imi ddiolch ichi am eich llythyr/e-bost ar [dyddiad] yn ei wahodd/gwahodd i [digwyddiad] ar/ym mis [dyddiad] 2021.

Byddai'r Gweinidog yn falch o dderbyn, ond mewn egwyddor yn unig y gall gytuno ar hyn o bryd. Cynhelir etholiad Senedd Cymru ar 6 Mai 2021 ac felly nid yw'n bosibl cadarnhau presenoldeb y Gweinidog tan ar ôl y diwrnod hwnnw pan fydd y Llywodraeth newydd ar waith.

Byddwn yn cysylltu â chi eto cyn gynted â phosibl ar ôl 6 Mai ond os ydych yn dymuno gwneud trefniadau eraill yn y cyfamser, rhowch wybod inni.

6. Penodiadau cyhoeddus

Dylid cwblhau'r broses penodiadau cyhoeddus (h.y. y Gweinidog perthnasol i wneud penderfyniad ar benodiad yn unol â'r broses gyflwyno arferol a chyhoeddi'r penodiad) cyn i'r cyfnod cyn-etholiadol ddechrau. Os bydd y broses benodi yn parhau i mewn i'r cyfnod cyn-etholiadol, bydd yn rhaid iddi ddod i ben. Wedi i lywodraeth newydd gael ei ffurfio, bydd angen ceisio cytundeb Gweinidogol i gynnal ymgyrch recriwtio newydd ar gyfer penodiad cyhoeddus. Dim ond drwy eithriad y bydd yn bosibl atal ac ailddechrau ymgyrch a oedd ar ei hanner cyn y cyfnod cyn-etholiadol, os bydd Gweinidog yn cytuno bod angen dybryd a brys o ran busnes. Rhaid i’r Uned Cyrff Cyhoeddus gytuno ar geisiadau i eithrio. Bydd angen i unrhyw geisiadau am estyniadau neu ailbenodi hefyd gael eu hystyried a’u cymeradwyo cyn i’r cyfnod cyn-etholiadol gychwyn.

7. Gweithgarwch gwleidyddol gan staff

Dylai swyddogion ymgyfarwyddo â'r rheolau ar weithgarwch gwleidyddol, oherwydd mae'n ofynnol i'r rhan fwyaf o'n staff cyflogedig wneud cais am ganiatâd cyn cymryd rhan mewn gweithgarwch gwleidyddol.

Cewch y rheolau hyn yn Nghod Telerau ac Amodau Gwaith Llywodraeth Cymru (Cymryd Rhan mewn Gweithgarwch Gwleidyddol, paragraffau 2.36-2.42) a'r ddogfen Polisïau a Gweithdrefnau Pobl: Gweithgarwch Gwleidyddol.

Dylai unrhyw un o staff Llywodraeth Cymru sy'n dymuno ymgymryd â gweithgarwch gwleidyddol neu ymgyrchu mewn perthynas â'r etholiad, gan gynnwys sefyll fel ymgeisydd, ofyn yn gyntaf am ganiatâd ysgrifenedig ei Gynghorwr Adnoddau Dynol, drwy ei reolwr llinell.
    
Wrth benderfynu p'un ai i roi caniatâd neu beidio, y llinyn mesur yw a yw'r sawl sy'n gofyn yn gweithio mewn "maes sensitif" neu beidio. Mae'r term "maes sensitif" yn cael ei esbonio'n llawn yn y polisi gweithgarwch gwleidyddol. Gall Llywodraeth Cymru osod amodau neu gyfyngiadau ar unrhyw ganiatâd a roddir. Er enghraifft, gellid caniatáu canfasio dienw dros y ffôn ond nid canfasio o ddrws i ddrws neu annerch cyfarfod. Ni chaiff yr Uwch Wasanaeth Sifil, staff yn y Bandiau Gweithredol na staff ar y Llwybr Carlam gymryd rhan mewn gweithgarwch gwleidyddol, gan gynnwys etholiadau’r Senedd.

Mae gan staff ar raddau diwydiannol a di-swyddfa ganiatâd cyffredinol i gymryd rhan mewn gweithgarwch gwleidyddol. Am ddiffiniad o'r graddau hyn, darllenwch baragraff 5.2 y ddogfen Polisïau a Gweithdrefnau Pobl: Gweithgarwch Gwleidyddol.

8. Defnyddio safleoedd ac adnoddau Llywodraeth Cymru

Ni ddylid byth ddefnyddio safleoedd nac adnoddau Llywodraeth Cymru at ddibenion ymgyrchu. Ni ddylem geisio defnyddio safleoedd Llywodraeth Cymru at ddibenion o'r fath, nac ar gyfer arddangos posteri etholiad. Bydd canllawiau tebyg yn cael eu cyhoeddi i gyrff y GIG, y Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru ac ati ar y defnydd a wneir o'u hystadau hwythau.

9. Grantiau Llywodraeth Cymru (yn berthnasol i holl grantiau Llywodraeth Cymru gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â COVID)

Dylid gwneud pob ymdrech i gyhoeddi llythyrau dyfarnu grantiau cyn y cyfnod cyn-etholiadol. Os nad yw hyn yn bosibl, dylid gwneud asesiad i weld a fyddai’r grant yn cael ei ystyried yn un uchel ei broffil neu’n swyddogol-sensitif yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. Os caiff ei ystyried yn un uchel ei broffil, dylid ceisio cyngor (Cyfarwyddwr Cyffredinol/Cyfarwyddwyr Adrannol/ Canolfan Ragoriaeth Grantiau) cyn y caiff unrhyw lythyrau dyfarnu grant eu cyhoeddi. Mewn achosion brys neu pan fo’n hollol hanfodol, gall fod yn bosibl eu cyhoeddi ar sail eithriad, ond eto, byddai angen ceisio cyngor cyn cyhoeddi unrhyw lythyrau grant.

Os na fernir bod y llythyrau dyfarnu grant yn uchel eu proffil, ac yn grantiau mwy arferol, dylid parhau i wneud pob ymdrech i gyhoeddi’r llythyrau grant cyn y cyfnod cyn-etholiadol, yn hytrach nag yn ystod y cyfnod. Os bydd angen cyhoeddi llythyrau dyfarnu grant yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol, ar sail eithriad, dylid ystyried hyn yn ofalus er mwyn sicrhau bod cyhoeddi’r cyllid yn unol â gweddill y canllawiau.

Dylai swyddogion osgoi agor neu hysbysebu unrhyw gynlluniau grant yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. Ar gyfer unrhyw gynlluniau grant sydd ar agor i geisiadau cyn y cyfnod cyn-etholiadol, dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud a sefydliadau’n cael gwybod am y canlyniadau cyn y cyfnod cyn-etholiadol. Os nad yw hyn yn bosibl, dylid ystyried a fyddai’n well peidio ag agor y cynllun grant tan ar ôl yr etholiad. Byddai angen i swyddogion fod yn ymwybodol ei bod yn bosibl y bydd angen iddynt edrych eto ar fwriad polisi y cynllun grant gyda’r Gweinidog penodedig ar ôl yr etholiad, cyn i’r cynllun grant gael ei hysbysebu. Wrth gwrs, gall unrhyw waith mewnol i gynllunio datblygiad cynigion cynlluniau grant, gan gynnwys mynd i gyfarfodydd y Panel Sicrwydd Grantiau, fynd rhagddo fel arfer.

10. Staff Swyddfeydd Preifat y Gweinidogion

Dylai swyddogion yn Swyddfeydd Preifat y Gweinidogion barhau i gynorthwyo'r Gweinidogion yn eu dyletswyddau swyddogol drwy gydol y cyfnod cyn-etholiadol.

Bydd y Gweinidogion yn ymgyrchu, ac oherwydd hynny efallai y bydd staff y Swyddfeydd Preifat am drafod egwyddorion y canllawiau hyn gyda'u Gweinidogion cyn diwrnod cyntaf y cyfnod cyn-etholiadol, neu bryd bynnag y bydd yn briodol gwneud hynny. Yn annibynnol ar hynny, bydd papur Cabinet yn cael ei lunio yn nodi disgwyliad y Prif Weinidog o ran ymddygiad Gweinidogion yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol.

Bydd y Gweinidogion, yn unol â'r arfer, yn destun amodau Cod y Gweinidogion, sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gadw eu rolau Gweinidogol a gwleidyddol ar wahân. Dylai swyddogion y Swyddfeydd Preifat barhau i gynorthwyo'r Gweinidogion â’u dyletswyddau swyddogol drwy'r amser. Mae hyn yn cynnwys sicrhau mai swyddogion y Swyddfa Breifat, ac nid aelod o staff personol neu etholaeth y Gweinidog, sy'n mynd i bob digwyddiad swyddogol. Hefyd, os oes un ymgeisydd yn cael ei wahodd i ddigwyddiad Gweinidogol swyddogol, dylech sicrhau bod pob un o'r ymgeiswyr eraill yn cael yr un cyfle hefyd. Dylai swyddogion mewn Swyddfeydd Preifat ymgyfarwyddo â'r canllawiau ar ddelio â gohebiaeth a Rhyddid Gwybodaeth sydd wedi'u hamlinellu yn y ddogfen hon.

Ni ddylai swyddogion y Swyddfeydd Preifat fynd i ddigwyddiadau sy'n amlwg at ddibenion yn ymwneud â phlaid neu at ddibenion ymgyrchu. Ni ddylent ychwaith ganiatáu i adnoddau Llywodraeth Cymru gael eu defnyddio at ddibenion ymgyrchu. Yn arbennig, ni ddylent archebu ceir swyddogol nac ystafelloedd yn adeiladau Llywodraeth Cymru nac unrhyw le arall, comisiynu areithiau neu bapurau briffio, na threfnu unrhyw fath arall o gymorth ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud â phlaid neu ar gyfer digwyddiadau ymgyrchu.

Dylai digwyddiadau'r Gweinidogion sy'n ymwneud â phlaid neu eu digwyddiadau ymgyrchu barhau i gael eu cofnodi yn eu dyddiaduron swyddogol.

11. Cynghorwyr arbennig

Bydd y Cynghorwyr Arbennig yn parhau i roi cyngor a chymorth i Weinidogion, gan gynnwys cyngor gwleidyddol, yn unol â'r Cod Ymddygiad i Gynghorwyr Arbennig – yn enwedig paragraffau 19 a 20.

Serch hynny ni ddylai'r Cynghorwyr Arbennig ymgymryd ag unrhyw weithgarwch ymgyrchu na chytuno i gael eu dewis yn ymgeisydd. Rhaid iddynt ymddiswyddo os ydynt eisiau gwneud y naill beth neu'r llall, a dylent ymgynghori â'r Is-adran Adnoddau Dynol ynghylch goblygiadau hyn.

12. Staff y Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu neu'r rheini sy'n rhan o weithgarwch ymchwil ystadegol, arolygon a gwaith ehangach

Darllenwch y canllawiau penodol sydd wedi'u hatodi at y canllawiau hyn. Mae’r canllawiau i staff y gyfarwyddiaeth gyfathrebu i’w gweld yn Atodiad B a'r canllawiau i staff sy'n rhan o weithgarwch ymchwil ystadegol, arolygon a gwaith ehangach yn Atodiad C.

13. Swyddogion cyswllt

Yn y lle cyntaf, dylech drafod unrhyw amheuon sydd gennych gyda'ch rheolwr llinell. Ond gallwch gael rhagor o gymorth a chyngor, yn enwedig mewn perthynas ag achosion penodol, gan y swyddogion a ganlyn. Anfonwch unrhyw ymholiadau sydd gennych drwy e-bost.

Am ymholiadau ynghylch:

  • Briffio Gweinidogion, gohebiaeth a materion tebyg – yr ysgrifennydd preifat perthnasol
  • caniatáu i'r cyhoedd weld gwybodaeth – blwch post y Swyddog Rhyddid Gwybodaeth
  • costau polisïau'r pleidiau ac ati – swyddog cyswllt arferol eich is-adran yn yr Is-adran Cyllidebu Strategol 
  • ymddygiad personol staff (gan gynnwys cynghorwyr arbennig) sydd am ymgyrchu ac ati – eich Tîm Partner Busnes Adnoddau Dynol
  • cyhoeddiadau, digwyddiadau, marchnata a chyhoeddusrwydd – Pennaeth Cyfathrebu Strategol neu Pennaeth Newyddion
  • ymholiadau penodol gan staff sy'n ymgymryd â gwaith ar ystadegau neu arolygon – swyddog cyswllt arferol eich is-adran
  • ymholiadau penodol gan staff ynghylch cynnal ymchwil – swyddog cyswllt arferol yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
  • ymholiadau penodol sy'n ymwneud â Chynigion Cydsyniad Deddfwriaethol a Chynigion Cydsyniad Offerynnau Statudol – swyddog cyswllt arferol, Is-adran y Cyfansoddiad a Chyfiawnder
  • polisi a deddfwriaeth o ran cynnal yr etholiad ei hun – swyddog cyswllt arferol, Is-adran y Cyfansoddiad a Chyfiawnder
  • swyddogion mewn swyddfeydd preifat – Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet.

Os oes gennych unrhyw ymholiad arall sy'n ymwneud â'r canllawiau hyn, cysylltwch â Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mawrth 2021

Atodiad A: Gweithgarwch na ddylid ymgymryd ag ef yn ystod cyfnod yr ymgyrch

Isod, cewch feini prawf i'w defnyddio wrth fynd ati i benderfynu a ddylai cynllun neu weithgarwch arfaethedig fynd rhagddo yn ystod y cyfnod ymgyrchu. Nid yw'n ymdrin â phob posibilrwydd ac, os oes gennych unrhyw amheuon, gofal piau hi – arhoswch tan ar ôl yr etholiad cyn bwrw ati.

Ni ddylid ymgymryd ag unrhyw weithgarwch os oes un o'r meini prawf hyn yn berthnasol:

  • os yw'n debygol o ddenu sylw'r cyfryngau lleol neu genedlaethol, heblaw am gyfeiriadau dibwys neu arwynebol; neu
  • os yw'n fater sy'n destun dadlau gwleidyddol, hynny yw un y mae gwahaniaeth barn yn ei gylch ymhlith prif bleidiau Cymru ac y maent yn debygol o ymgyrchu yn ei gylch

Dylech hefyd bwyso a mesur yn yr un modd unrhyw weithgarwch sy'n delio ag achosion unigol, yn hytrach nag â pholisi cyffredinol, megis ateb gohebiaeth. Yn yr achosion hyn, dylech ystyried a fyddai'r ohebiaeth yn dod o dan unrhyw un o'r meini prawf uchod, pe bai'r hyn a ddywedir ynddi'n dod yn wybodaeth gyhoeddus. Os oes angen anfon ateb dros dro, dylech ddefnyddio'r geiriad a ganlyn:

"Mae'n ddrwg gennyf [nad wyf i/nad yw'r Gweinidog] yn gallu rhoi ateb llawn i'ch llythyr dyddiedig [DD/MM/BBBB] ynghylch [pwnc yr ohebiaeth]. Mae'r rheolau sy'n ymwneud â'n hymddygiad yn cyfyngu'n fawr arnom o ran y graddau y gallwn hyrwyddo polisïau Llywodraeth Cymru yn ystod ymgyrch etholiad. Diben y rheolau hyn yw osgoi unrhyw awgrym ein bod yn ceisio dylanwadu'n ormodol ar ganlyniad yr etholiad.

Anfonaf ateb llawn atoch cyn gynted â phosibl ar ôl yr etholiad."

Atodiad B: Etholiad Senedd Cymru 6 Mai 2021

Canllawiau ar gyfathrebu i bob aelod o staff yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol

Cefndir

Bydd yr etholiad ar gyfer Senedd 2021 yn cael ei gynnal yng nghyd-destun pandemig sy’n parhau. Mae gwaith cyfathrebu Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol o ran rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd ac annog newid ymddygiad er mwyn arafu lledaeniad y feirws. Mae hyn wedi’i wneud drwy gysylltiad agos â'r cyfryngau, cynadleddau i'r wasg, sawl ymgyrch deledu, radio a digidol, cyhoeddi cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol, a herio gwybodaeth anghywir yn gyflym. Rydym hefyd yn cydlynu cynnwys a negeseuon gyda'r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru, ac yn cysylltu'n agos â thimau cyfathrebu yn Swyddfa'r Cabinet ac adrannau eraill Whitehall.

Yn ystod cyfnod 'arferol' cyn etholiadau, byddwn yn gosod cyfyngiadau llym iawn ar ein gweithgareddau cyfathrebu fel gwasanaeth sifil. Bydd yr holl waith rhagweithiol yn cael ei atal, a’r gweithgarwch adweithiol yn y cyfryngau yn cael ei gyfyngu i ddatganiadau byr, ffeithiol os bernir bod hynny'n gwbl angenrheidiol, a’r rheini wedi'u clirio ar lefel uwch. Bydd y rhan fwyaf o’r gwaith ymgyrchu ac ymgysylltu â'r cyhoedd hefyd yn cael ei ohirio, a’r gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol yn dod i ben dros dro. Gwneir hyn er mwyn osgoi unrhyw ganfyddiad y gallai gweithgarwch cyfathrebu'r gwasanaeth sifil fod yn dylanwadu ar ymgyrch yr etholiad mewn unrhyw ffordd, gan y byddai hynny’n codi cwestiwn am natur ddiduedd ein swyddogaeth.

Mae'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn dilyn dull gweithredu Llywodraeth Cymru i raddau helaeth, gan gyfyngu ar weithgareddau sy'n wynebu'r cyhoedd er mwyn osgoi sefyllfaoedd lle mae sefydliadau’n cael eu tynnu i ddadleuon gwleidyddol.

Fodd bynnag, mae’r cyd-destun yn 2021 yn wahanol iawn i etholiadau blaenorol. Mae'n hanfodol bod y cyhoedd yn parhau i gael cyngor amserol a chyson ar iechyd y cyhoedd gan y llywodraeth a ffynonellau dibynadwy eraill drwy gydol y cyfnod hwn. Hefyd, gan fod sefyllfa’r pandemig yn newid yn gyflym, mae'n debygol y bydd angen i Weinidogion wneud penderfyniadau yn rhinwedd eu swyddi fel Gweinidogion mewn perthynas â rheoliadau a materion eraill, na ellir eu gohirio nes bod gweinyddiaeth newydd ar waith. O dan yr amgylchiadau hynny, bydd angen iddynt gael y cymorth arferol gan y gwasanaeth sifil – cyngor iechyd y cyhoedd, cyngor cyfreithiol a chymorth a gweithgarwch cyfathrebu.

Egwyddorion

Ni ddylai fod unrhyw ganfyddiad bod gweithgarwch cyfathrebu Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol yn dylanwadu ar ganlyniad yr etholiad, neu fod posibilrwydd y gallai wneud hynny, ar ran unrhyw blaid wleidyddol. Ni ddylid ychwaith roi unrhyw awgrym bod y llywodraeth yn arddel safbwynt ar unrhyw fater sy'n ymwneud â'r ymgyrch etholiadol drwy ei sianeli.

Dylai ymgyrchoedd iechyd y cyhoedd cyfredol Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid a’r gwaith o rannu gwybodaeth ffeithiol sy'n ymwneud â'r pandemig barhau yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. Fodd bynnag, ni ddylid cynnal unrhyw ymgyrchoedd newydd, uchel eu proffil na dadleuol, ac ni ddylai ymgyrchoedd na chynnwys gyfeirio at Weinidogion, naill ai drwy eu dyfynnu na thrwy ffotograffau/fideos ohonynt. Dylai ymgyrchoedd newid ymddygiad fod yn barhad o'r rhai presennol, dylai fod cysylltiad caeth rhyngddynt a’r rheoliadau sydd mewn grym (er enghraifft Aros Gartref yn ystod cyfnod Rhybudd Lefel 4) ac ni ddylent fynd yn ehangach na hyn.

Pan fydd Gweinidogion yn gwneud penderfyniadau yn rhinwedd eu rôl swyddogol yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol, bydd gwasanaeth cyfathrebu'r gwasanaeth sifil yn eu cefnogi yn yr un modd â chyn y cyfnod hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys datganiadau i'r wasg, cynadleddau i'r wasg a deunydd ar gyfer sianeli’r llywodraeth ar y cyfryngau cymdeithasol, ond rhaid i’r rhain gael eu cyfyngu’n gaeth o fewn paramedrau'r penderfyniad sy'n cael ei wneud. Dylai’r ymwneud rhwng gweision sifil a’r cyfryngau gael ei gyfyngu gymaint a phosibl dan yr amgylchiadau hyn, a dylid gwrthod ymholiadau gan y cyfryngau neu geisiadau am ddatganiadau ynglŷn ag unrhyw beth heblaw’r penderfyniadau uniongyrchol. Os yw'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan Weinidogion yn destun dadlau gwleidyddol yn ystod ymgyrch yr etholiad, dylid cymryd gofal ychwanegol i osgoi'r canfyddiad bod cyfathrebu gan y llywodraeth yn cael ei ddefnyddio at ddibenion pleidiol wleidyddol. Nid yw hyn yn wahanol i'r trefniadau presennol ond bydd llawer mwy o sensitifrwydd y perthyn iddo o dan yr amgylchiadau hynny.

Os na fydd aelodau o staff cyfathrebu yn siŵr a ddylid cyhoeddi cynnwys neu gyfathrebu unrhyw beth yn ystod y cyfnod hwn, rhaid iddynt ymgynghori â’u  Pennaeth Cyfathrebu perthnasol, y Pennaeth Newyddion neu'r Cyfarwyddwr Cyfathrebu cyn gwneud dim byd pellach.

Canllawiau manwl

Y wasg a'r cyfryngau

Fel yn achos ymgyrchoedd etholiadol blaenorol Cymru, ni ddylid gwneud unrhyw gyhoeddiadau rhagweithiol yn y wasg a'r cyfryngau ynghylch polisi neu gyllid drwy gydol y cyfnod cyn-etholiadol. Yr unig eithriad i hyn fydd cyhoeddiadau sydd â goblygiadau i iechyd y cyhoedd, canlyniad yr adolygiadau 21 diwrnod, neu newidiadau sylweddol i reoliadau yn y cyfamser. Dylai'r rhain ddilyn yr un fformat â chyhoeddiadau a wneir y tu allan i gyfnod yr etholiad, gan gynnwys datganiadau i'r wasg, gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol, diweddariadau i LLYW.CYMRU a chynhadledd i'r wasg os oes angen. Os gwneir cyhoeddiadau cyn i’r Senedd gael ei diddymu ar 29 Ebrill, dylid cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig ar gyfer yr Aelodau hefyd. Dylid cymryd gofal ychwanegol i wneud yn siŵr bod y deunydd ar sianeli’r llywodraeth yn ystod y cyfnod hwn yn ffeithiol, a’i fod yn cael ei glirio ar lefel uwch cyn ei gyhoeddi, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Dylai gweithgarwch adweithiol yn y wasg a'r cyfryngau hefyd fod yn gyfyngedig yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. Byddwn yn parhau i fonitro a chywiro gwallau a adroddir yn y cyfryngau, ond dim ond os ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â Llywodraeth Cymru - er enghraifft, camgymeriadau wrth adrodd am ystadegau, neu wallau ffeithiol sylfaenol.

Pan geir ymholiadau gan y cyfryngau ynghylch y gweithgarwch parhaus sy’n digwydd ar draws y llywodraeth i ddelio â'r pandemig, gan gynnwys y rheoliadau cyfredol, gall ymatebion ffeithiol gael eu darparu gan lefarydd y llywodraeth. Y tu hwnt i hyn, ni ddylem gyhoeddi llinellau i ymateb i faterion a godir gan bleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr, gan y gellid dehongli hyn fel ymyriad yn yr etholiad. Gellir cyfeirio newyddiadurwyr at ystadegau neu ddatganiadau a gyhoeddwyd yn flaenorol, er na ddylid tynnu sylw pellach at y rhain drwy sianeli'r llywodraeth. Ni ddylid gwneud unrhyw ddatganiadau sy'n cyfeirio at gynlluniau'r llywodraeth yn y dyfodol.

Os gelwir ar Weinidogion i wneud penderfyniadau yn rhinwedd eu rôl swyddogol ar wahân i’r ymateb i’r pandemig - er enghraifft, cymorth ariannol i atal risg uniongyrchol o golli swyddi - gellir ymdrin â chanlyniad y rhain hefyd yn ôl yr un egwyddorion ag uchod. Byddai ymatebion brys i drychinebau naturiol fel llifogydd mawr hefyd yn perthyn i'r categori hwn.

Dylid cynnal cyn lleied â phosibl o sesiynau briffio technegol i'r cyfryngau yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol, a dim ond fel rhan o'r eithriadau i weithgareddau cyfathrebu a nodir uchod y dylid eu hystyried. Rhaid i'r cynnwys barhau'n ffeithiol a dylid ymatal rhag gwneud sylwadau ar unrhyw faterion dadleuol.

Sianeli cyfryngau cymdeithasol

Ac eithrio gwybodaeth iechyd y cyhoedd neu wybodaeth ffeithiol, ni ddylai sianeli cyfryngau cymdeithasol y Llywodraeth gyhoeddi cynnwys newydd yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. Yr eithriadau i hyn yw’r cyfarwyddiadau a nodir uchod ynghylch trin y wasg a’r cyfryngau pan fydd newidiadau i reoliadau neu pan fydd penderfyniadau brys gan Weinidogion.

Dylid ymgysylltu cyn lleied â phosibl â defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol yn ystod y cyfnod hwn, a chyfyngu hyn i gyfeirio at wybodaeth ffeithiol. Ni ddylai fod modd i unrhyw gynnwys ar sianeli’r llywodraeth ar y cyfryngau cymdeithasol gael ei ddehongli fel un sy'n hyrwyddo neu'n dathlu cyflawniadau'r llywodraeth, ac ni ddylai unrhyw beth gael ei gyhoeddi y gellid ystyried ei fod yn rhoi sylwadau ar yr ymgyrch etholiadol sydd ar y gweill.

Ymgyrchoedd a gwybodaeth gyhoeddus

Dylai gweithgarwch ymgyrchu gan Lywodraeth Cymru gael ei gyfyngu gymaint â phosibl yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. Ni ddylid lansio unrhyw ymgyrchoedd newydd yn ystod y cyfnod hwn a dylid craffu'n fanwl ar unrhyw weithgarwch ymgyrchu presennol, boed hwnnw’n cael ei gynhyrchu’n fewnol neu’n cael ei gomisiynu. Bydd angen cyflwyno achos cadarnhaol i gyfiawnhau pam na ddylai gael ei ohirio dros y cyfnod cyn-etholiadol.

Byddai hyn yn cynnwys gwybodaeth gyhoeddus frys i bobl Cymru, yn enwedig o ran iechyd y cyhoedd, ac mae disgwyl i ymgyrchoedd cyfredol Diogelu Cymru barhau, er y dylai’r holl gynnwys gael ei glirio ar lefel uwch cyn ei gyhoeddi.

Dylai ymgyrchoedd eraill gael eu hystyried fesul achos unigol, er enghraifft cyllid myfyrwyr neu gymorth busnes, pan na fydd pobl efallai’n ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddynt. Os ceir caniatâd i fwrw ymlaen ag ymgyrch, dim ond cyflwyno gwybodaeth niwtral a ffeithiol i’r cyhoedd y dylid ei wneud, ac ni ddylai fod modd i’r ymgyrch gael ei hystyried yn un sy’n hyrwyddo’r hyn y mae’r llywodraeth wedi’i gyflawni yn y maes hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi nifer fawr o gylchlythyrau i randdeiliaid mewn gwahanol sectorau i roi gwybod iddynt am ddatblygiadau allweddol. Dylid trin y rhain yn unol â’r egwyddorion uchod, ac os bernir ei bod yn angenrheidiol eu cyhoeddi yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol, rhaid iddynt gynnwys gwybodaeth ffeithiol a chyfeiriol yn unig. Gellir parhau i gyhoeddi hysbysiadau statudol, ond dim ond os ydynt yn ymwneud â phrosiectau a gyhoeddwyd yn flaenorol.

Cyfathrebu â’r cyhoedd gan uwch-weision sifil

Drwy gydol y pandemig, rydym wedi defnyddio uwch-weision a swyddogion sifil dibynadwy, megis Prif Weithredwr GIG Cymru, y Prif Swyddog Meddygol ac arbenigwyr gwyddonol ac arbenigwyr iechyd eraill ar gyfer cyfathrebu cyhoeddus. Bydd mwy o sensitifrwydd ynghylch y gweithgareddau hyn yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol, er y gall fod amgylchiadau lle bernir y dylent gyfathrebu â'r cyhoedd.

Rhaid cymryd gofal mawr nad ydynt yn cael eu rhoi mewn sefyllfa lle gallai fod canfyddiad eu bod yn rhoi sylwadau ar faterion gwleidyddol byw ac felly'n ymyrryd mewn ymgyrch etholiadol. Dylid craffu’n fanwl ar bob cyfle cyfathrebu arfaethedig a rhoi camau diogelu ar waith i osgoi'r canfyddiad hwn. Ni ddylent gynnal unrhyw gyfweliadau byw yn ystod y cyfnod hwn, a dim ond pan ystyrir bod hynny'n gwbl angenrheidiol y cynhelir cynadleddau i'r wasg. Dylai unrhyw gynnwys a recordiwyd ymlaen llaw fod yn destun craffu tebyg a chael ei sgrinio ar gyfer sensitifrwydd gwleidyddol cyn ei gyhoeddi.

Ymweliadau Gweinidogol

Ni fydd ymweliadau Gweinidogol yn digwydd fel arfer yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol, ac ni fydd Gweinidogion yn cynnal digwyddiadau rhithwir sy'n wynebu'r cyhoedd. Os bydd hyn yn digwydd, dylai unrhyw gyfathrebu cyhoeddus drwy sianeli’r Llywodraeth fod yn destun craffu manwl a dylai gael ei glirio ar lefel uwch cyn ei gyhoeddi.

Marchnata Cymru Wales

Dylai’r gweithgarwch ymgyrchu o dan frand cenedl Cymru Wales gael ei gyfyngu gymaint â phosibl yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. Ni ddylid lansio unrhyw ymgyrchoedd newydd yn ystod y cyfnod hwn a dylid craffu'n fanwl ar unrhyw weithgarwch ymgyrchu presennol, boed yn cael ei gynhyrchu’n fewnol neu ei gomisiynu. Bydd angen cyflwyno achos cadarnhaol i gyfiawnhau pam na ddylai gael ei ohirio dros y cyfnod cyn-etholiadol.

Gall hyn gynnwys ymgyrchoedd seiliedig ar ymddygiad i annog defnyddwyr i ymddwyn yn ddiogel a chadarnhaol wrth i’r sectorau twristiaeth a lletygarwch ailagor, a deunydd cyfathrebu pwysig ynglŷn a chyfyngiadau diweddaraf Cynllun Rheoli’r Coronafeirws ar gyfer rhanddeiliaid a busnesau yn y sector er mwyn sicrhau bod pobl yn deall canllawiau’r Lefelau Rhybudd ac yn cydymffurfio â hwy.

Dylai pob cynnwys (gan gynnwys gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol) gael ei gymeradwyo ar lefel uwch cyn ei gyhoeddi. Dylid ystyried ymgyrchoedd eraill a gyflwynir o dan frand Cymru Wales fesul achos, a dylid eu cyfyngu i wybodaeth hyrwyddo am Gymru fel cyrchfan (e.e. i astudio, masnachu, buddsoddi neu ymweld), ac ni ddylai fod modd eu hystyried fel ymgyrchoedd sy’n hyrwyddo’r hyn y mae’r llywodraeth wedi’i gyflawni yn y maes hwnnw.

Dylai holl ymgyrchoedd arfaethedig Cymru Wales sydd i’w cynnal yn ystod y cyfnod hwn gael eu cyfeirio at y Pennaeth Cyfathrebu perthnasol, y Pennaeth Newyddion, neu'r Cyfarwyddwr Cyfathrebu cyn bwrw ymlaen ymhellach.

Rhyngweithio â Llywodraethau eraill y DU

Rhaid i unrhyw ymgyrchoedd marchnata ar y cyd sydd ar y gweill neu sy’n cael eu cynllunio, neu weithgarwch cyfathrebu arall a gynhelir mewn partneriaeth â gweinyddiaethau'r DU, gael eu hystyried a'u trafod yn ofalus cyn y cyfnod cyn-etholiadol. Dylai'r ystyriaethau hyn fod yn seiliedig ar yr egwyddorion a nodir uchod. Bydd Llywodraeth y DU yn gosod eu cyfyngiadau eu hunain ar eu gweithgareddau yng Nghymru yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. Pan wneir datganiadau gan Weinidogion y DU yn rhinwedd eu swyddi fel Gweinidogion sy'n ymwneud â materion yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn, mae'n iawn i Weinidogion Cymru ymateb drwy sianeli'r llywodraeth.

I grynhoi

Y neges yw bod angen gofal mawr, ac y dylech holi bob tro os oes gennych unrhyw amheuaeth ynglŷn â’r hyn a ganiateir yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol, gyda naill ai’r Pennaeth Newyddion, neu’r Pennaeth Cyfathrebu Strategol.

Atodiad C: Etholiad Senedd Cymru 2021

Canllawiau ar gyfer gweithgarwch ystadegol, arolygon ac ymchwil yn y cyfnod cyn-etholiadol

Dyma ganllawiau i'r holl staff sy'n ymwneud â gweithgarwch ystadegol, arolygon ac ymchwil. Mae'n cynnwys staff yn y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi ond mae hefyd yn berthnasol i staff mewn rhannau eraill o Lywodraeth Cymru. Hefyd, dylai'r cyrff sy'n bartneriaid inni ac eraill sy'n cynhyrchu ystadegau swyddogol yng Nghymru, ee Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ac ati, dalu sylw i'r canllawiau hyn. Maent yn ategu'r Canllawiau i staff Llywodraeth Cymru. Bydd y canllawiau'n berthnasol o 25 Mawrth 2021 tan y diwrnod pleidleisio ar 6 Mai 2021, a chan gynnwys y diwrnod hwnnw.

Nid yw'n ymdrin â phob posibilrwydd ac, os oes unrhyw faterion eraill yn codi yn ystod yr ymgyrch, dylech eu codi yn gyntaf gyda'r Pennaeth Polisi Ystadegau a Safonau neu'r Prif Swyddog Ymchwil Cymdeithasol a fydd yn rhoi canllawiau i chi.

I grynhoi:

I grynhoi:

Ar gyfer ystadegau swyddogol – yn ôl yr arfer, sicrhewch eu bod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau a'r Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009.
Ar gyfer ymchwil – mae cod Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth a'r protocol cyhoeddi yn parhau’n weithredol yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol.

Rhaid osgoi:

  • Cyhoeddi ystadegau ar y diwrnod pleidleisio (isod, nodir yr eithriadau posibl)
  • Rhyddhau cyhoeddiadau ystadegol neu ymchwil ad hoc
  • Cynnal arolygon neu ymchwil arall a allai fod yn ddadleuol
  • Dosbarthu deunydd a allai gael ei ddefnyddio at ddibenion ymgyrchu.

Os oes unrhyw amheuaeth, cysylltwch â'r Pennaeth Polisi Ystadegau a Safonau, y Prif Ystadegydd neu'r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol (manylion cyswllt isod).

Egwyddorion 

1. Dylech bob amser ddilyn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol, Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009 a chod ymarfer a phrotocol cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth.

2. Peidiwch â chystadlu â phleidiau ac ymgeiswyr am sylw'r cyhoedd.

3. Peidiwch â chymryd rhan mewn gwleidyddiaeth plaid na chael eich defnyddio at ddibenion gwleidyddiaeth plaid na rhoi eich hun mewn sefyllfa lle bo'n ymddangos eich bod yn gwneud hynny.

Cyhoeddi ystadegau 

4. Dylid cyhoeddi deunydd ystadegol (Datganiadau Cyntaf, Bwletinau, Erthyglau, Penawdau a Chyhoeddiadau) y rhoddwyd rhag-hysbysiad amdanynt cyn dechrau'r cyfnod cyn-etholiadol. Peidiwch â chyhoeddi unrhyw ddeunydd ystadegol ad hoc na roddwyd rhag-hysbysiad amdanynt a pheidiwch â gohirio cyhoeddi unrhyw ddeunydd y rhoddwyd rhag-hysbysiad amdanynt gan y gallai'r cymhelliad dros wneud hynny gael ei gwestiynu.

5. Os na ellir osgoi gohirio, dylech fod yn dryloyw am y rhesymau dros ohirio mewn unrhyw ohebiaeth gyhoeddus ac, os oes modd, dylech ddatgan pryd y mae’n debygol y bydd yr ystadegau gohiriedig yn cael eu cyhoeddi. Dylech osgoi gohirio pan fydd hynny’n golygu bod ystadegau’n cael eu cyhoeddi ar ôl y diwrnod pleidleisio yn lle cyn hynny.

6. Dylech osgoi cyhoeddi ystadegau swyddogol ar y diwrnod pleidleisio. Os oes deunydd wedi cael ei rhag-hysbysu ar gyfer y dyddiad hwnnw, dylech drafod gyda’r Pennaeth Polisi Ystadegau a Safonau a glynu at bolisi Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS) ar gyhoeddi ystadegau swyddogol ar ddiwrnodau etholiadau. Dylech drafod cyhoeddiadau dyddiol neu wythnosol yn ymwneud â COVID-19 sy’n cyd-daro â diwrnod yr etholiad gyda’r Pennaeth Polisi Ystadegau a Safonau er mwyn trafod a dylid caniatáu eithriad.

7. Dylid parhau i gyhoeddi negeseuon trydar er mwyn cyhoeddi deunydd ystadegol trwy gyfrifon @ystadegaucymru a @statisticswales. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol, dylid osgoi cynhyrchu ffeithluniau neu siartiau newydd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol nad ydynt wedi'u llunio na'u cyhoeddi o’r blaen.

8. Cymerwch ofal mawr drwy'r amser i fod yn ddiduedd ac yn wrthrychol yn y modd y byddwch yn cyflwyno ac yn disgrifio ystadegau ac mewn cyfarfodydd briffio wyneb yn wyneb.

9. Dylech osgoi blogiau ystadegol newydd yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol.

Cyhoeddi Adroddiadau Ymchwil

7. Dylid cyhoeddi unrhyw adroddiadau y rhoddwyd rhag-hysbysiad amdanynt cyn dechrau'r cyfnod cyn-etholiadol. Fodd bynnag, gan ystyried y cyfnod rhag-hysbysiad byr (pythefnos) ar gyfer ymchwil, y disgwyliad cyffredinol yw na fydd ymchwil yn cael ei chyhoeddi yn ystod y cyfnod. Er hyn, os oes rhesymau dros gyhoeddi yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol dylid rhoi cyfnod rhag-hysbysiad hirach a chlirio'r mater â'r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol. Gallwch ofyn am gyngor ar achosion penodol hefyd gan y Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol.

Caffael ymchwil

8. Ni ddylid ymgymryd â gweithgarwch caffael ar gyfer ymchwil newydd yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. Dylid gofyn am gyngor gan y Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol os oes amgylchiadau eithriadol sy'n golygu na fyddai'n bosibl aros tan ar ôl yr etholiad i ddechrau'r broses gaffael.

Ceisiadau am wybodaeth neu gyngor

9. Dylid ymdrin â cheisiadau am wybodaeth ffeithiol yn unol â'r Canllawiau i Staff Llywodraeth Cymru. Os nad yw'r wybodaeth y gofynnir amdani yn ffeithiol, cyfeiriwch y person at Swyddfa Breifat y Gweinidog priodol.

10. Byddwch yn deg wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth ffeithiol gan ymgeiswyr – er enghraifft o ran manylder yr wybodaeth y byddwch yn ei rhoi ac o ran prydlondeb eich ateb.

11. Dylech barhau i ymateb i geisiadau am arweiniad ffeithiol ar fethodoleg.

12. Cymerwch ofal mawr wrth ymdrin â cheisiadau am gyngor ar ddehongli neu ddadansoddi ystadegau, yn arbennig ceisiadau sy'n ymwneud â pholisïau neu addewidion maniffesto pleidiau. Peidiwch â chostio polisïau nac addewidion heb ymgynghori'n gyntaf â'r Is-adran Cyllidebu Strategol.

13. Bydd y deunydd sy'n cael ei lunio'n rheolaidd mewn ymateb i geisiadau am wybodaeth ystadegol bob pythefnos yn parhau i gael ei gyhoeddi trwy'r cyfnod cyn-etholiadol. Dylid sicrhau y rhoddir gwybod i'r tîm cyhoeddiadau ystadegol (Stats.web) am geisiadau o'r fath gan ei bod yn bwysig bod hyn yn cael ei wneud yn systematig gan osgoi'r argraff o ddethol.

Ceisiadau am ddeunydd sydd wedi'i gyhoeddi

14. Gallwch ddarparu niferoedd bach o daflenni, papurau cefndir neu gyhoeddiadau am ddim a oedd ar gael cyn cyfnod yr etholiad, mewn ymateb i geisiadau amdanynt. Peidiwch â chaniatáu archebion mawr heb gymeradwyaeth y Prif Ystadegydd oherwydd mae'n bosibl mai'r bwriad yw eu defnyddio at ddibenion ymgyrchu.

Arolygon

15. Gallwch barhau i gynnal cyfrifiadau ac arolygon rheolaidd, arolygon parhaus ac arolygon sydd ar y gweill eisoes. Gall arolygon ad hoc sy'n rhan o gyfres ystadegol barhaus gael eu cynnal hefyd.

16. Gall arolygon ad hoc eraill fynd yn destun dadl neu fod yn gysylltiedig â mater yn ymwneud â'r etholiad. Lle bo hyn yn debygol dylech ystyried eu gohirio neu eu canslo. Petai hyn yn anodd neu'n gostus holwch Dîm Cyngor Arolygon y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi am gyngor.

Ymchwil maes

17. Yn gyffredinol, ni ddylid gwneud gwaith maes sy'n ymwneud â phrosiect ymchwil yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol, er y gall fod yn amhosibl osgoi'r cyfnod cyn-etholiadol ar gyfer gwaith arolwg parhaus neu waith ymchwil lle mae amser yn hollbwysig. Dylid gofyn i'r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol am gyngor ar achosion penodol.

Cyngor

18. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â'r swyddogion isod.

  • Swyddogion Cyswllt y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
  • Penaethiaid Polisi Ystadegau a Safonau
  • Prif Ystadegydd
  • Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol