Neidio i'r prif gynnwy

1. Rhagarweiniad

Ar 2 Mai 2024 bydd etholiadau'n cael eu cynnal ar gyfer rolau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr. Er y bydd yr effaith ar ein gwaith lawer yn llai nag ar adeg etholiadau'r Senedd neu Lywodraeth Leol, mae angen cymryd gofal arbennig yn yr wythnosau cyn yr etholiad, hynny yw o 11 Ebrill ymlaen, mewn meysydd sy'n ymwneud â gwaith yr heddlu a chyfiawnder troseddol. Bydd etholiadau lleol eraill yn cael ei cynnal yn Lloegr, ond nid yng Nghymru.

Yn rhinwedd ein swyddi fel swyddogion Llywodraeth Cymru, ein rôl ni yw parhau i gynorthwyo'r Gweinidogion wrth eu gwaith fel arfer, gan gofio’r un pryd fod angen osgoi gweithredu mewn modd y bernir, neu y gellid barnu, ei fod yn ffafrio ymgeisydd penodol yn yr etholiad neu sy'n debygol o fod â chysylltiad uniongyrchol â’r etholiadau.

Diben y nodyn hwn yw darparu canllawiau cyffredinol am yr effaith a gaiff yr ymgyrch etholiadol ar swyddogion sy'n gweithio i Lywodraeth Cymru. Bydd egwyddorion y canllawiau hyn yn cael eu cyfleu i gyrff cyhoeddus datganoledig Llywodraeth Cymru. Bydd y canllawiau'n gymwys o 11 Ebrill tan y diwrnod pleidleisio ar 2 Mai, yn gynwysedig.

Bydd y Gweinidogion yn parhau i gyflawni eu swyddogaethau yn y modd arferol a bydd swyddogion yn parhau i gefnogi’r Gweinidogion yn eu gwaith beunyddiol. Serch hynny, nid yw'r canllawiau hyn yn ymdrin â phob achos a allai godi yn ystod yr ymgyrch, ac ni allant wneud hynny.

Yn Atodiad A, ceir gwybodaeth ynghylch cyfrifoldebau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu er mwyn helpu i asesu a allai gweithgaredd arfaethedig effeithio ar yr ymgyrch.

Os oes gennych unrhyw amheuon am yr hyn y dylech ei wneud, cysylltwch â’ch Cyfarwyddwr Cyffredinol neu â'r Cyfarwyddwr.

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil yn parhau’n berthnasol yn ystod yr ymgyrch. O dan y cod hwnnw, mae’n rhaid i weision sifil barchu dwy egwyddor sylfaenol bob amser:

  1. bod yn wleidyddol ddiduedd, a bod yn amlwg felly i eraill
  2. sicrhau nad oes adnoddau cyhoeddus yn cael eu defnyddio at ddibenion gwleidyddiaeth plaid.

O dan y Cod, disgwylir i weision sifil Llywodraeth Cymru fod yn deyrngar i Lywodraeth Cymru. O'r herwydd, dylai swyddogion barhau i fynd ati i gyflawni'r ymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu ac ymgymryd â busnes arall Llywodraeth Cymru.

2. Cynorthwyo’r Gweinidogion – Papurau briffio, cyflwyniadau ysgrifenedig a busnes arferol

Dylai swyddogion barhau i roi cyngor i'r Gweinidogion ac i’w briffio, ac i fwrw ymlaen â'u gwaith fel arfer, heb anghofio'r gofynion arferol i fod yn ddiduedd. Mae hyn yn golygu y dylech wneud yn siŵr nad oes unrhyw beth yn eich gwaith (gan gynnwys papurau briffio ac atebion i ohebiaeth) a allai awgrymu neu a allai beri i rywun feddwl eich bod yn cefnogi neu'n gwrthwynebu un neu fwy o'r ymgeiswyr etholiadol. Os oes gennych unrhyw amheuon, dylech geisio cyngor eich Cyfarwyddwr Cyffredinol neu’r Cyfarwyddwr.

3. Ymdrin â gohebiaeth, Cwestiynau’r Senedd, ceisiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ac ymholiadau

Heblaw am y materion hynny yn Atodiad A, dylai swyddogion, drwy gydol cyfnod yr ymgyrch, barhau i ateb gohebiaeth a Chwestiynau'r Senedd yn unol â'r gweithdrefnau sy'n bodoli eisoes.

Bydd gohebiaeth at y Gweinidogion oddi wrth ymgeiswyr etholiadol am faterion nad ydynt yn effeithio'n uniongyrchol ar y meysydd yn Atodiad A yn dal i gael ei hateb yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.

Dylid ymdrin â gohebiaeth, Cwestiynau'r Senedd neu geisiadau am wybodaeth yn yr un modd ag arfer.

Mae pob cais am wybodaeth yn dod o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ac fel arfer, rhaid ymateb iddynt ymhen 20 niwrnod gwaith. Os yw ceisiadau’n ymwneud â datgelu gwybodaeth wedi'i chofnodi nad yw'n wybodaeth gyhoeddus, dylid parhau i ymdrin â'r ceisiadau hynny yn unol â’r proses arferol.

Dylech ymdrin â phob cais o'r fath yn yr un ffordd, ni waeth beth fo ymlyniad gwleidyddol y sawl sy'n ei wneud.

4. Cyfathrebu

Dylai cyhoeddiadau a wneir yn ystod y cyfnod cynetholiadol ar faterion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar y meysydd yn Atodiad A gael eu gwneud naill ai cyn i'r cyfnod cynetholiadol ddechrau neu eu gohirio tan ar ôl yr etholiadau.

Yn fwy cyffredinol, dylid cymryd gofal arbennig wrth wneud cyhoeddiadau, trefnu digwyddiadau cyhoeddus, ymdrin â straeon ar wefan Llywodraeth Cymru ac ymgymryd â gwaith marchnata a chyhoeddusrwydd y telir amdano. Dylai'r gwaith fynd yn ei flaen fel arfer, ond dylai’r Cyfarwyddwr Cyffredinol a’r swyddogion cyfathrebu perthnasol ddefnyddio prawf sensitifrwydd ym mhob achos. Y rheol gyffredinol yw na ddylid rhoi'r argraff i unrhyw un fod unrhyw un neu rai o'r gweithgareddau hyn yn ffafrio ymgeisydd.

Os oes gennych unrhyw amheuon, dylech geisio cyngor Toby Mason yn y Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu.

5. Cydweithio ag Adrannau Whitehall

Mae swyddogion Whitehall hefyd wedi cael canllawiau etholiad gan Swyddfa’r Cabinet.

Os yw swyddogion Llywodraeth Cymru yn arfer cydweithio ag adrannau Llywodraeth y DU, dylent barhau i drafod â'r swyddogion sy’n cyfateb iddynt yn Whitehall.

6. Ymgynghori

Os yw Llywodraeth Cymru yn paratoi polisi newydd, rhaglen newydd neu gynigion deddfwriaethol newydd ac os yw'n ofynnol iddi ymgynghori, bydd ymgyngoriadau, fel arfer, yn dal i fynd rhagddynt yn ystod cyfnod yr ymgyrch. Os oes ymgyngoriadau i fod dechrau yn ystod cyfnod yr ymgyrch, a'r rheini'n ymwneud â'r meysydd polisi sy'n gysylltiedig â chyfrifoldebau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, dylai'r Cyfarwyddwyr Cyffredinol priodol gynnal prawf sensitifrwydd er mwyn gweld a oes unrhyw faterion a allai fod yn rhai dadleuol yn wleidyddol.

7. Gweithgarwch gwleidyddol gan swyddogion

Dylem ddarllen y rheolau ar weithgarwch gwleidyddol, gan fod angen i'r rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio i'r Llywodraeth ofyn am ganiatâd cyn cymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch gwleidyddol.

Os oes unrhyw un sy’n cael ei gyflogi* gan Lywodraeth Cymru am ymgymryd ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol neu weithgarwch ymgyrchu mewn cysylltiad ag etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, dylai geisio caniatâd ysgrifenedig oddi wrth ei Gynghorydd Adnoddau Dynol, gan wneud hynny drwy ei reolwr llinell.

Wrth benderfynu a ddylid rhoi caniatâd ai peidio, y llinyn mesur yw a yw'r sawl sy'n gofyn yn gweithio mewn "maes sensitif" ai peidio."  (Mae'r term "maes sensitif" yn cael ei esbonio'n fanwl yn y polisi ar weithgarwch gwleidyddol). Caiff Llywodraeth Cymru osod amodau neu gyfyngiadau ar unrhyw ganiatâd a roddir. Er enghraifft, mae'n bosibl y byddai'n caniatáu canfasio dienw dros y ffôn ond nid canfasio o ddrws i ddrws neu annerch cyfarfodydd.

*“Mae gan weithwyr sydd ar "raddau diwydiannol a graddau heb fod mewn swyddfa" yr hawl i gymryd rhan mewn gweithgarwch gwleidyddol.

8. Defnyddio Tir ac Adeiladau Llywodraeth Cymru

Ni ddylid defnyddio tir ac adeiladau Llywodraeth Cymru at ddibenion ymgyrchu. Ni ddylech geisio defnyddio tir ac adeiladau Llywodraeth Cymru at ddibenion o'r fath, nac arddangos posteri etholiadau ac ati ar safleoedd Llywodraeth Cymru. Bydd canllawiau tebyg yn cael eu hanfon at Ymddiriedolaethau'r GIG, a Chyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru ynghylch defnyddio'u hystadau hwy.

9. Swyddogion yn Swyddfeydd Preifat y Gweinidogion

Nid yw'n debygol y bydd y Gweinidogion yn gysylltiedig i'r un graddau â gweithgarwch ymgyrchu ag yn ystod etholiadau'r Senedd neu etholiadau Llywodraeth y DU. Mae’n bosibl y bydd swyddogion y Swyddfeydd Preifat am drafod egwyddorion y canllawiau hyn gyda’r Gweinidogion cyn i’r cyfnod cynetholiadol ffurfiol ddechrau. Dylai swyddogion y Swyddfeydd Preifat barhau i gynorthwyo'r Gweinidogion gyda'u dyletswyddau swyddogol bob amser, ond dylent ddarllen y canllawiau ar ymdrin â Gohebiaeth, Cwestiynau'r Senedd, ceisiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, a'r ceisiadau hynny am wybodaeth a amlinellir ym mharagraff 3 o'r canllawiau hyn.

Ni ddylai swyddogion y Swyddfeydd Preifat fynd i ddigwyddiadau sy'n amlwg at ddibenion ymgyrchu.

Ni ddylai swyddogion y Swyddfeydd Preifat ganiatáu i adnoddau Llywodraeth Cymru gael eu defnyddio at ddibenion yr etholiadau. Yn benodol, ni ddylent drefnu ceir swyddogol nac ystafelloedd yn adeiladau Llywodraeth Cymru nac yn unman arall, na chomisiynu areithiau na phapurau briffio, na threfnu cefnogaeth arall ar gyfer digwyddiadau sy'n gysylltiedig ag ymgyrchu.

Yn achos eiddo Awdurdodau Lleol (gan gynnwys awdurdod yr heddlu), y sawl sy'n gyfrifol am yr eiddo hwnnw yn ôl y gyfraith sydd i benderfynu sut i'w ddefnyddio.

10. Cynghorwyr Arbennig

Bydd Cynghorwyr Arbennig yn parhau i roi cyngor a chymorth, gan gynnwys cyngor gwleidyddol, i'r Gweinidogion yn unol â'r Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Arbennig.

11. Enwau cyswllt

Yn y lle cyntaf, dylech drafod unrhyw amheuon sydd gennych gyda'ch rheolwr llinell. Ond gallwch gael rhagor o gymorth a chyngor, yn enwedig mewn perthynas ag achosion penodol, oddi wrth y swyddogion isod. Dylech anfon unrhyw ymholiadau sydd gennych drwy'r e-bost.

Ymholiadau ynghylch:

  •  A yw mater yn effeithio'n uniongyrchol ar etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu: Eich rheolwr llinell, eich Cyfarwyddwr Cyffredinol neu’r Cyfarwyddwr Risg, Cadernid a Diogelwch Cymunedol.
  • Briffio Gweinidogion a materion tebyg: Yr ysgrifennydd preifat perthnasol.
  • Caniatáu i'r cyhoedd weld gwybodaeth: Yr Uned Rhyddid Gwybodaeth.
  • Ymddygiad personol swyddogion (gan gynnwys cynghorwyr arbennig) sydd am gymryd rhan mewn gweithgarwch ymgyrchu ac ati: eich Tîm Cynghori yn yr Adran Adnoddau Dynol
  • Cyhoeddiadau, marchnata a chyhoeddusrwydd: Penaethiaid Cyfathrebu.
  • Staff yn y swyddfeydd preifat: Is-adran y Cabinet.
  • Unrhyw ymholiadau eraill am y canllawiau hyn: Is-adran y Cabinet.

Is-adran y Cabinet
Ebrill 2024

Atodiad A: Cyfrifoldebau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddau

Bydd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn sicrhau bod anghenion cymunedau yn cael eu diwallu mor effeithiol â phosibl, a byddant yn dod â chymunedau yn nes at yr heddlu drwy feithrin hyder yn y system ac adfer ymddiriedaeth. Bydd y Comisiynwyr yn gwneud ac yn dylanwadu ar benderfyniadau allweddol a fydd yn effeithio ar y modd y mae'ch ardal leol yn edrych ac yn teimlo - o deledu cylch cyfyng, goleuadau stryd a graffiti i ddelio â gangiau a chyffuriau. Eu gwaith nhw fydd gwrando ar y cyhoedd ac ymateb i'w hanghenion, gan ddod â llais mwy cyhoeddus i blismona a rhoi enw ac wyneb i'r cyhoedd gwyno wrtho os nad ydyn nhw'n fodlon.

Pennu cyfeiriad strategol ac atebolrwydd ar gyfer plismona

  • Bod yn atebol i'r etholwyr.
  • Pennu blaenoriaethau plismona strategol.
  • Dwyn yr heddlu i gyfrif drwy'r Prif Gwnstabl, ac ymgynghori â'r cyhoedd a'u cynnwys.
  • Penodi, a lle bo angen, diswyddo'r Prif Gwnstabl.

Gweithio gyda phartneriaid i rwystro a mynd i'r afael â throseddu ac aildroseddu

  • Sicrhau bod yr heddlu yn ymateb yn effeithiol i bryderon y cyhoedd ac i fygythiadau i ddiogelwch y cyhoedd.
  • Hyrwyddo a galluogi gwaith difwlch ar ddiogelwch cymunedol a chyfiawnder troseddol.
  • Cynyddu hyder y cyhoedd yn y modd y caiff troseddu ei leihau a'r modd y caiff plismona ei gyflawni.

Annog llais y cyhoedd, pobl agored i niwed a dioddefwyr

  • Sicrhau bod blaenoriaethau'r cyhoedd yn cael eu gweithredu, yr ymgynghorir â dioddefwyr ac nad yw'r unigolion mwyaf agored i niwed yn cael eu hesgeuluso.
  • Cydymffurfio â'r Ddyletswydd Cydraddoldeb Gyffredinol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.

Cyfrannu at roi adnoddau fel y gall yr heddlu ymateb i fygythiadau rhanbarthol a chenedlaethol.

  • Sicrhau cyfraniad effeithiol gan yr heddlu ynghyd â phartneriaid eraill i'r trefniadau cenedlaethol i ddiogelu'r cyhoedd rhag bygythiadau sy'n croesi ffiniau yn unol â'r Gofynion Plismona Strategol.

Sicrhau gwerth am arian

  • Yn gyfrifol am osod y gyllideb, gan gynnwys elfen praesept yr heddlu o'r dreth gyngor, a dosrannu grantiau plismona o'r llywodraeth ganolog.
  • Comisiynu gwasanaethau gan bartneriaid a fydd yn cyfrannu at leihau troseddu.