Neidio i'r prif gynnwy

Mae cwmni yng Nghymoedd y De wedi cael €1.5m o arian yr UE i arwain prosiect Ewropeaidd a fydd yn chwyldroi'r ffordd o wneud diagnosis o glefydau anadlol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y buddsoddiad yn golygu bod IMSPEX Diagnostics Ltd, sydd wedi'i leoli yn Abercynon, yn dod i bartneriaeth â gweithgynhyrchwyr sy'n arwain yn y maes ac arbenigwyr ar brofion clinigol yn yr Almaen ac Iwerddon yn ogystal â Phrifysgol Warwick a chwmni RedKnight Consultancy Ltd, sydd wedi'i leoli yn y De.

Nod y prosiect €2.4m yw datblygu dyfais gyflym, anfewnwthiol (nad yw'n cael ei rhoi i mewn i’r corff) o'r enw BreathSpec. Bydd y ddyfais yn gallu gwneud diagnosis o heintiau bacterol neu heintiau feirysol drwy ddadansoddiad anadl hynod sensitif a bydd yn helpu i fynd i'r afael â'r her fyd-eang o ymwrthedd i gyffuriau.

Mae'r cyllid wedi cael ei ddiogelu drwy raglen ymchwil ac arloesi fwyaf yr Undeb Ewropeaidd, sef Horizon 2020. Mae'r rhaglen hon yn cefnogi arloesi mewn gwyddoniaeth a thechnoleg a datblygiad cynnyrch a gwasanaethau o'r radd flaenaf.

Wrth groesawu'r newyddion, dywedodd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid: 

“Dw i wrth fy modd bod IMSPEX wedi cael y cyllid hwn, a fydd yn golygu bod modd cynnal ymchwil ac arloesi â phosibiliadau cyffrous yng Nghymru dros y blynyddoedd sydd i ddod. 

“Drwy Horizon 2020, mae busnesau a phrifysgolion Cymru yn elwa ar fuddsoddiad  a chyfleoedd sylweddol i gydweithio â sefydliadau sydd ar flaen y gad ledled Ewrop.

“Mae'n hanfodol bod mynediad at y rhaglen hon – a’r rhaglenni eraill a ddaw wedi iddi ddirwyn i ben – yn parhau fel rhan o unrhyw berthynas newydd rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol.”

Drwy wella’r ffordd o wneud diagnosis o heintiau, bydd y ddyfais BreathSpec yn helpu i leddfu'r broblem gynyddol o ymwrthedd i gyffuriau oherwydd bydd yn gymorth i leihau'r camddefnydd a'r gorddefnydd o wrthfiotigau.

Dywedodd Santi Dominguez, prif weithredwr IMSPEX Diagnostics Ltd: 

“Mae'r cyllid hwn yn destun cyffro inni. Bydd yn ein galluogi fel sefydliad i gydweithio â thîm sy'n arwain yn y maes ar lefel fyd-eang a mynd i'r afael, gyda'n dyfais newydd, â'r her gymdeithasol fawr sy'n ein hwynebu yn sgil ymwrthedd i gyffuriau.

“Mae gennym ni weledigaeth o ofal iechyd sylfaenol a fydd yn cael ei ddarparu gyda ffordd ddibynadwy, gyflym a syml o adnabod haint bacterol neu feirysol, gan sicrhau bod gofal i gleifion yn cyrraedd y safon uchaf posibl a bod modd lleihau ar y defnydd o wrthfiotigau.

“O ganlyniad i'r prosiect hwn, rydyn ni'n gobeithio y gallwn ni helpu meddygon teulu a darparwyr gofal iechyd ar lefel fyd-eang. Dw i'n llongyfarch y consortiwm cyfan ar lwyddiant y cais hwn a hoffem hefyd ddiolch i Lywodraeth Cymru am ei chymorth i baratoi'r cais."

Mae'r buddsoddiad yn IMSPEX yn dod yn dilyn cyhoeddi data newydd, sy'n dangos bod busnesau a phrifysgolion yng Nghymru wedi ennill €76m o gyllid Horizon 2020 ar gyfer prosiectau ymchwil ac arloesi ers i raglen yr UE gael ei lansio bron i dair blynedd yn ôl. 

Ychwanegodd yr Athro Drakeford: 

“Rhoddodd Llywodraeth Cymru gymorth ariannol i gais IMSPEX ar gyfer cronfeydd Horizon 2020 a byddwn ni'n parhau i gefnogi busnesau a phrifysgolion Cymru i gael mynediad at y rhaglen ymchwil ac arloesi bwysig hon ac yn cydweithio â sefydliadau sy'n arwain ar draws Ewrop a thu hwnt.”

Er mwyn helpu i gynyddu cyfleoedd ymchwil ac arloesi yng Nghymru drwy gyllid Horizon 2020, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth ariannol ar gyfer llunio ceisiadau a chostau teithio i sefydliadau yng Nghymru sydd â diddordeb mewn datblygu prosiectau Horizon 2020.

I gael rhagor o wybodaeth am Horizon 2020 a chronfa SCoRE Cymru, Llywodraeth Cymru, anfonwch e-bost i horizon2020@wales.gsi.gov.uk.