Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddiben y fforwm a sut bydd yn gweithio.

Aelodaeth

1. Bydd aelodaeth y Fforwm Cymunedau Ffydd yn cynnwys dau gynrychiolydd o bob un o'r cymunedau ffydd a ganlyn - y Baha’i, y Bwdhyddion, yr Hindwiaid, yr Iddewon, y Mwslimiaid, y Siciaid a Chynghrair Efengylaidd Cymru. Bydd cynrychiolydd o bob un o'r canlynol - yr Eglwys yng Nghymru, yr Eglwys Gatholig yng Nghymru, Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru, Eglwysi Ynghyd yng Nghymru (CYTUN) a Chyngor Rhyng-ffydd Cymru.

2. Cynrychiolir Llywodraeth Cymru gan y Prif Weinidog. Y Prif Weinidog yw Cadeirydd y Fforwm. Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yw'r Dirprwy Gadeirydd.

Diben

3. Nod y Fforwm Cymunedau Ffydd yw hybu deialog rhwng Llywodraeth Cymru a'r prif gymunedau ffydd ar unrhyw faterion sy'n effeithio ar fywyd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yng Nghymru.

4. O fewn y diffiniad eang hwn, gellir codi unrhyw faterion sy'n peri pryder i gymunedau ffydd yng Nghymru, ac yn yr un modd, gall unrhyw faterion yr hoffai gwleidyddion ymgynghori â'r cymunedau ffydd yn eu cylch fod yn briodol i'r Fforwm eu trafod a'u hystyried.

5. Nod y Fforwm yw creu cyfleoedd i'r cymunedau ffydd siarad drostynt eu hunain yn y ddeialog hon. Fodd bynnag, ni fwriedir i’r Fforwm gynrychioli barn pob aelod o’r cymunedau ffydd.

Cyfarfodydd

6. Bydd y Fforwm yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn fel arfer, a bydd arweinwyr y cymunedau ffydd neu'r Prif Weinidog yn galw am y cyfarfod.

7. Darperir yr Ysgrifenyddiaeth ar gyfer y Fforwm gan swyddogion Llywodraeth Cymru o'r Tîm Cydraddoldeb.