Mae feirws Schmallenberg yn effeithio ar wartheg, defaid a geifr.
Mae'n glefyd hysbysadwy.
Amheuon a chadarnhad
Os ydych chi'n meddwl fod feirws Schmallenberg ar eich anifeiliaid, cysylltwch ag Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar 0300 303 8268 ar unwaith.
Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio'r achosion hyn.
Arwyddion clinigol
Gallai'r arwyddion clinigol canlynol fod yn bresennol (mewn gwartheg):
- gwres
- cynhyrchu llai o laeth
- dolur rhydd
- nam ar loi
Trosglwyddo ac atal
Mae feirws Schmallenberg yn cael ei gario gan bryfed sy'n cnoi, gwybed fwy na thebyg. Mae'r pryfed hyn yn dal i ledaenu'r clefyd ym Mhrydain trwy'r hydref a'r gaeaf.
Mae brechlyn ar gael bellach ar gyfer feirws Schmallenberg ym Mhrydain. Cysylltwch â'ch milfeddyg am wybodaeth.