Neidio i'r prif gynnwy

Cyfyngiadau ar symudiadau anifeiliaid sy'n gysylltiedig â'r firws y Tafod Las gan gynnwys parthau dan gyfyngiadau (Cymru gyfan) a parthau rheoli dros dro.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Parth dan Gyfyngiadau - Cymru gyfan

Datganwyd parth dan gyfyngiadau'r tafod glas ledled Cymru gyfan o 00:01 ddydd Llun 10 Tachwedd 2025. Mae hyn yn golygu, er mwyn symud anifeiliaid yng Nghymru:

  • nid oes angen trwydded benodol
  • nid oes angen profion cyn symud
  • rhaid bodloni amodau'r drwydded gyffredinol EXD671(EW) (ar gov.uk) ar gyfer symudiadau rhwng y parth dan gyfyngiadau'r tafod glas yn Lloegr a'r parth dan gyfyngiadau yng Nghymru. 

Mae hyn yn berthnasol os ydych chi'n symud anifeiliaid i farchnad, sioe, lladd-dy neu unrhyw le arall o fewn parth dan gyfyngiadau'r tafod glas. 

Roedd datgan parth dan gyfyngiadau'r tafod glas hefyd yn gosod Ardal Heintiedig y tafod glas sy'n berthnasol i'r un ardal ddaearyddol â'r parth dan gyfyngiadau, sy'n cyfyngu ar symud anifeiliaid i fangre ac oddi yno, ac i’r ardal heintiedig ac allan ohoni. Cyhoeddir Trwydded Gyffredinol o dan Orchymyn Symud Anifeiliaid (Cyfyngiadau) (Cymru) 2003 (fel y'i diwygiwyd) (EXD612(Cy) (GL)) i oresgyn cyfyngiadau cyfreithiol a fyddai fel arall yn atal symud anifeiliaid. Nid yw hyn yn dileu unrhyw rwymedigaethau i gydymffurfio â chyfyngiadau a thrwyddedau symud BTV ac nid yw'n caniatáu symud anifeiliaid allan o barth dan gyfyngiadau.

Daliadau neu anifeiliaid o dan gyfyngiadau

Os cafodd Seroteip 8 y Tafod Glas (BTV-8) ei gadarnhau mewn anifail ar eich daliad:

  • bydd y daliad yn cael ei roi o dan gyfyngiadau symud wrth i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) gynnal rhagor o ymchwiliadau a phrofion
  • bydd cyfyngiadau yn cael eu codi ar anifeiliaid sy'n cael canlyniad negatif i brawf neu sy'n cael eu hystyried yn rhai risg is nad oes angen profion arnynt
  • gallai anifeiliaid sy'n cael canlyniad positif gael eu difa, gydag iawndal yn cael ei dalu, er mwyn lleihau cronfa'r haint a lleihau'r risg o drosglwyddo'r clefyd ymhellach
  • yn dilyn ymchwiliad, rhoddir cyfyngiadau ar y canlynol: 
    • unrhyw anifeiliaid BTV-8 positif nad ydynt wedi'u difa, ac
    • unrhyw dda byw eraill y barnwyd bod angen eu rhoi o dan gyfyngiadau gan gynnwys anifeiliaid beichiog neu deirw bridio, hynny ar sail asesiad APHA

Cyfyngiadau ar anifeiliaid BTV-8 positif

Pan gaiff anifail ei gadarnhau'n BTV-8 positif:

  • caiff ei roi o dan gyfyngiadau symud
  • ni fyddwch yn cael symud da byw o'r daliad i fyw oni bai bod APHA yn eu hystyried yn risg isel
  • rhaid peidio â chasglu deunydd atgenhedlu (semen, ofa neu embryonau) oddi wrth anifeiliaid positif nes eu bod yn cael canlyniad negatif i brawf PCR terfynol

Symudiadau a ganiateir ar gyfer anifeiliaid o dan gyfyngiadau

  • caniateir symudiadau i ladd o dan drwydded benodol (Apply to move animals out of bluetongue zones ar gov.uk)  ar yr amod bod yr anifeiliaid yn ffit i'w cludo
  • caniateir symudiadau ar draws ffiniau o fewn CPH (rhif daliad) neu gysylltiad tir dros dro (TLA) heb fod angen trwydded
  • gellir ystyried symudiadau brys ar gyfer triniaeth filfeddygol neu resymau force majeure fesul achos

Codi'r cyfyngiadau

  • gall y cyfyngiadau symud sy'n cael eu rhoi ar anifeiliaid bridio (anifeiliaid gwryw a benyw bridio ac anifeiliaid beichiog) sy'n cael canlyniad positif i brawf BTV-8 bara am fwy na 60 diwrnod oherwydd y risg o drosglwyddo'r clefyd i'r epil
  • dim ond ar ôl bodloni amodau penodol y gellir codi cyfyngiadau ar anifeiliaid bridio, megis eu sbaddu, prawf PCR negatif, cadarnhad gan filfeddyg nad yw'r anifail yn feichiog, neu enedigaeth a phrawf negatif ar yr epil. Cyfrifoldeb y ceidwad yw costau profion a milfeddyg
  • bydd cyfyngiadau ar anifeiliaid penodol fel arfer yn cael eu codi 60 diwrnod ar ôl cadarnhau'r clefyd os nad ydyn nhw'n cael eu hystyried yn risg uchel

Byddwn yn adolygu'r sefyllfa trwy'r amser a gellir diweddaru’r drefn yn unol â'r darlun sy'n tyfu o'r clefyd.

Symud anifeiliaid i'r Alban

Parthau rheoli dros dro

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw parthau rheoli dros dro.

Gweld cyfyngiadau feirws y tafod glas a ddirymwyd.