Neidio i'r prif gynnwys

Cylchlythyr rheoliadau adeiladu

Rhif y cylchlythyr: WGC 008/2026

Dyddiad cyhoeddi: 02/10/2026

Statws: Er gwybodaeth

Teitl: Fersiynau diwygiedig o'r safonau, y rheolau a'r codau ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu wedi’u cyhoeddi

Cyhoeddwyd gan: Tim Spencer, Rheolwr Polisi Rheoliadau Adeiladu

Wedi'i gyfeirio at:   

Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 
Building Safety Competence Foundation
Chartered Association of Building Engineers
Total Training Provisions 

I'w anfon ymlaen at:

Swyddogion Rheolaeth Adeiladu yr Awdurdodau Lleol
Aelodau'r Senedd

Crynodeb:

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ar ei gwefan fersiynau wedi'u diweddaru o'r codau, y safonau a'r rheolau ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu. Mae'r Cylchlythyr hwn yn manylu ar y newidiadau sylweddol a wnaed.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r:

Y Tîm Rheoliadau Adeiladu
2il Lawr
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Llinell Uniongyrchol: 0300 060 4400 
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan: adeiladu a chynllunio

Cylchlythyr

Hysbysiad cymeradwyo: codau, safonau a rheolau diwygiedig ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu

1. Mae Gweinidogion Cymru wedi'm cyfarwyddo i roi gwybod i chi bod fersiynau diwygiedig o'r safonau, y codau a'r rheolau ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu wedi'u cyhoeddi, sef:

  • Fframwaith Cymhwysedd Arolygwyr Adeiladu (Cymru) 
  • Cod Ymddygiad ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu (Cymru)
  • Rheolau Ymddygiad Proffesiynol ar gyfer Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu (Cymru) 
  • Rheolau Safonau Gweithredol (Cymru) 
  • Rheolau Safonau Gweithredol: Trefniadau Monitro (Cymru)

Cwmpas y Cylchlythyr hwn

2. Mae'r cylchlythyr hwn yn berthnasol i'r proffesiwn rheolaeth adeiladu yng Nghymru. 

Notice of revised standards, codes and rules for the building control profession

Hysbysiad am safonau, codau a rheolau diwygiedig ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu

3. Gellir gweld fersiynau diwygiedig o'r dogfennau safonau, codau a rheolau ar gyfer Cymru yn yr adran Adeiladu a Chynllunio ar wefan Llywodraeth Cymru: https://www.llyw.cymru/safonau-codau-rheolau-ar-gyfer-y-proffesiwn-rheoli-adeiladu

4. Bydd unrhyw ddiwygiadau yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi ar yr un wefan a chyhoeddir hysbysiad.

5. Mae mwyafrif y diweddariadau a wneir i'r fersiynau drafft yn fân newidiadau i eiriad er mwyn eglurder a chysondeb. Ceir manylion am newidiadau sylweddol isod, ac mae dogfennau sy'n cynnwys yr holl newidiadau wedi'u tracio yn Gymraeg a Saesneg ar gael ar gais.

6. Yn achos Fframwaith Cymhwysedd Arolygwyr Adeiladu (Cymru), mae'r newidiadau fel a ganlyn:

  • Ychwanegu deiliaid dyletswydd at nifer o baragraffau, gan gynnwys at ddisgrifiadau atebolrwydd a chymhwysedd, i sicrhau bod y testun presennol yn cyd-fynd â'r rheoliadau adeiladu a ddaeth i rym ar 1 Gorffennaf 2026. Gwnaed diwygiadau i baragraffau 2.7, 2.27, 2.36, 2.41, 5.45, 5.46, 5.49, 5.57, 5.58, 5.70, 5.88 a 5.91.
     
  • Amnewid cyfeiriadau at adrannau 11 a 30 o Ddeddf Adeiladu 1984 ym mharagraff 2.43. Mae'r pwynt blaenorol wedi'i ddisodli gan "rheoli prosesau a gweithdrefnau ar gyfer ceisiadau llacio, apeliadau ac anghydfodau".
     
  • Mewnosod diffiniad o adeiladau risg uwch (HRBs) ym mharagraff 2.34.
     
  • Ychwanegu dealltwriaeth o sut y mae rheoli diogelwch adeiladau yn cefnogi'r broses o sicrhau cydymffurfedd â'r rheoliadau adeiladu ar gyfer pob math o adeiladau i feini prawf cymhwysedd Lefel D ar gyfer rheoli diogelwch ym mharagraff 5.83.

7. Yn achos y Cod Ymddygiad ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu (Cymru), mae'r newidiadau fel a ganlyn:

  • Dim ond mân newidiadau gramadegol a fformatio sydd wedi'u gwneud yn y gwelliant hwn.

8. Yn achos y Rheolau Ymddygiad Proffesiynol ar gyfer Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu (Cymru) mae'r newidiadau fel a ganlyn:

  • Mae Rheol 4.5 wedi’i diwygio i egluro bwriad ynghylch dylanwad amhriodol.
     
  • Mae nifer o fân newidiadau gramadegol a fformatio wedi’u gwneud i wella eglurder a chysondeb.

9. Yn achos y Rheolau Safonau Gweithredol: Trefniadau Monitro (Cymru), mae'r newidiadau fel a ganlyn:

  • Mae'r diffiniad o ddeiliad dyletswydd wedi'i ddiwygio i gyd-fynd â rheoliadau adeiladu a ddaeth i rym ar 1 Gorffennaf 2026.
     
  • Mae nifer o fân newidiadau gramadegol a fformatio wedi'u gwneud i wella eglurder a chysondeb.

10. Yn achos Rheolau Safonau Gweithredol Trefniadau Monitro (Cymru), mae'r newidiadau fel a ganlyn:

  • Mae canllawiau ychwanegol wedi'u hychwanegu at lawer o'r dangosyddion perfformiad allweddol.
     
  • Mae rhai o'r cyfeiriadau at ddeddfwriaeth wedi'u diweddaru i gyd-fynd â'r rheoliadau cyfredol. 

Ymholiadau

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y Cylchlythyr hwn, dylid eu hanfon at:

Rheoliadau Adeiladu, 2il Lawr, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ

E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru

Yn gywir,

Mark Tambini

Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu