Neidio i'r prif gynnwy

Sut y bu Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn cefnogi fferm solar gyntaf BIP Hywel Dda.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i gyfanswm poblogaeth o ryw 382,518 (2021) o bobl trwy Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae’n gweithredu nifer o adeiladau ar safle Hafan Derwen yng Nghaerfyrddin, gan gynnwys swyddfeydd ac adeiladau clinigol sy’n gweithredu 24/7, gyda chyfanswm y galw blynyddol am drydan yn uchel ar ryw 550 MWh (2022-23).

I ostwng allyriadau carbon a chostau ynni, roedd y Bwrdd Iechyd am archwilio’r cyfle i adeiladu fferm solar ar ddarn o dir gerllaw yr oedd yn berchen arno. Mae’r astudiaeth achos hon yn egluro’r camau y dilynodd Hywel Dda i drawsnewid y syniad gwreiddiol hwn yn fferm solar 450kW, ynghyd â batri 120kW, i bweru ei adeiladau.

Astudiaeth ddichonoldeb

Y cam cyntaf i unrhyw brosiect datgarboneiddio yw cynnal astudiaeth ddichonoldeb sy’n dadansoddi’r cyfle, y risgiau, a’r gost er mwyn paratoi achos busnes mewnol. Gall Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru gefnogi astudiaethau ymarferol cyfnod cynnar, a dangosir ein hagwedd nodweddiadol at hyn yn y diagram isod. Mae’r gefnogaeth a ddarperir i’r Bwrdd Iechyd ar gyfer y prosiect hwn wedi’i uwcholeuo yn borffor.

Camau astudiaeth ddichonoldeb gadarn

  • Adolygiad polisi cynllunio: Deall cyfyngiadau cynllunio lleol/cenedlaethol
  • Asesiad cyfyngiadau: Nodi cyfyngiadau a allai effeithio ar raddfa a lleoliad y datblygiad neu gyflwyno risgiau i sicrhau caniatâd cynllunio ar y safle
  • Lleoliad datblygu: Darparu mesurydd lefel uchel cychwynnol o leoliad a graddfa datblygu posibl gan ystyried canlyniadau’r asesiad cyfyngiadau
  • Modelu ynni: Er mwyn asesu’r lefel bosibl o drydan a gynhyrchir gallai cymerwr allan preifat a nodwyd ddefnyddio a’r effaith arbedion cysylltiedig i’r cymerwr allan
  • Ymarferoldeb cysylltiad grid: Asesu potensial cysylltiad gan weithredwyr rhwydwaith, fel sy’n berthnasol (e.e.: amcangyfrifon cyllideb, cymhorthfa cysylltiad...)
  • Asesiad ariannol: Modelu ariannol lefel uchel o senarios datblygu posib
  • Ymweliad safle: Cynnal ymweliad â’r safle i gadarnhau ac ymchwilio ymhellach i ganfyddiadau gweithredoedd blaenorol
  • Crynodeb risg a’r camau nesaf: Crynhoi risgiau’r prosiect a’r camau nesaf i ymchwilio ymhellach i’r rhain a symud y prosiect ymlaen

Nodi cyfle datblygu penodol i safle

Fel rhan o’r astudiaeth ddichonoldeb, cynhaliwyd dyluniad cyfnod cynnar gan y Gwasanaeth Ynni. Roedd hwn yn manylu ar y cyfle datblygu posib ac roedd yn debyg iawn i’r prosiect terfynol sy’n cynnwys:

  • Fferm solar 450kW wedi’i gosod ar y ddaear: Amcangyfrifwyd bod y tir a nodwyd yn darparu potensial ar gyfer tua 500kW o ffotofoltäig solar, cafodd hyn ei adolygu’n ddiweddarach i 450kW.
  • Batri’n storio 120kW: Mae adeiladau’r bwrdd iechyd cyfagos yn gweithredu 24/7, felly byddai gosod batri yn caniatáu i drydan dros ben a gynhyrchir yn ystod y dydd gael ei storio a’i ddefnyddio yn ystod y nos, gan gynyddu’r arbedion i’r bwrdd iechyd.
  • Gwifren breifat uniongyrchol i adeiladau cyfagos gyda threfniant allforio gyda’r Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu lleol: prif amcan y datblygiad hwn oedd cwmpasu anghenion trydan yr adeiladau cyfagos â gwifren breifat uniongyrchol. Fodd bynnag, mae sefydlu trefniadau allforio yn caniatáu i’r Bwrdd Iechyd werthu ynni dros ben yn ôl i’r grid pan fo’r batri wedi’i wefru’n llawn a phan nad yw’r adeiladau’n defnyddio’r holl drydan sy’n cael ei gynhyrchu. Amcangyfrifir y bydd tua hanner y trydan sy’n cael ei gynhyrchu yn cael ei ddefnyddio ar y safle.
Image
Cynllun braslunio astudiaeth ddichonoldeb, BIP Hywel Dda

Cais am arian grant

Wedi i’r achos busnes gael ei gymeradwyo yn fewnol, edrychodd Hywel Dda am gyllid a oedd ar gael. Cafodd £1.186 miliwn ei ariannu gan grant ar gyfer y prosiect drwy Raglen Cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwelliannau Wedi’u Targedu yn Ystâd y GIG 2021/22.

“Roedd yn hanfodol cael Tîm Gwasanaeth Ynni LlC ar ein hochr yn ystod camau cynnar datblygu’r prosiect i ddarparu’r arbenigedd a’r cyngor i ganiatáu i’r Bwrdd Iechyd gwmpasu’r prosiect i ddechrau, sicrhau cyllid a chael mynediad at fframweithiau priodol i gyflawni’r cynllun. Darparodd y tîm gefnogaeth amhrisiadwy trwy’r cynllun, gan sicrhau bod y nodau a’r amcanion allweddol yn cael eu cyflawni gan y contractwr a ddyfarnwyd”

Paul Williams, Pennaeth Perfformiad Eiddo yn BIP Hywel Dda.

Caffael

Mae sawl dull posibl ar gyfer caffael cymorth datblygu a gosod ar gyfer fferm solar.

  • Gallai’r sefydliad arwain ar ddatblygu’r cais cynllunio eu hunain gyda chymorth y Gwasanaeth Ynni, comisiynu’r holl astudiaethau perthnasol sydd eu hangen ar gyfer y cais cynllunio a dod â’r manylion ynghyd i ffurfio’r cyflwyniad cynllunio. Byddai hyn yn gofyn am y capasiti mwyaf gan y sefydliad ac mae’r risg datblygu yn aros gyda’r sefydliad, ond gall y dull gweithredu arwain at ostyngiad mewn costau trydydd parti.
  • Gallai’r sefydliad gaffael ymgynghorydd cynllunio i ddatblygu a rheoli’r broses cais cynllunio. Byddai’r ymgynghorydd yn dod â’r holl astudiaethau gofynnol ar gyfer cais cynllunio’r prosiect ynghyd, wedi ei adolygu gan y sefydliad. Byddai hyn yn golygu llai o ymwneud i’r sefydliad ond byddai’n cynyddu’r gost.

Yn dilyn caniatâd cynllunio, byddai angen i’r sefydliad drefnu ar gyfer dyluniad terfynol, gosod a chyflenwi’r paneli ffotofoltäig. Gall y Gwasanaeth Ynni roi cymorth gyda’r gwaith o baratoi’r dogfennau caffael technegol a phenodi ymgynghorydd addas.

  • Mae’n bosibl caffael contractwr i ddarparu’r prosiect llawn o’r cychwyn cyntaf gan gynnwys cynllunio, dylunio a gosod. Mae’r ffordd hon yn llai cymhleth ac yn golygu llai o ymwneud a gallai ganiatáu i’r risg datblygu gael ei basio i’r contractwyr. Byddai angen torbwyntiau contract i sicrhau y gallai’r sefydliad atal y prosiect os yw risg y prosiect yn cynyddu y tu hwnt i bwynt y gall y sefydliad ei ganiatáu.
  • Gellir dod o hyd i gontractwyr Cynllunio ac Ynni Adnewyddadwy drwy borth caffael cenedlaethol fel GwerthwchiGymru neu drwy Fframwaith penodol. Mae fframweithiau’n caniatáu i sefydliadau’r sector cyhoeddus gaffael nwyddau a gwasanaethau gan restr o gyflenwyr sydd wedi’u cymeradwyo o flaen llaw, gyda thelerau ac amodau y cytunwyd arnynt ac amddiffyniadau cyfreithiol. Rhennir fframweithiau yn aml yn ‘llwythi’ yn ôl cynnyrch neu fath o wasanaeth, ac weithiau yn ôl rhanbarth. Gall y Gwasanaeth Ynni gefnogi cyfeirio at fframweithiau priodol sydd ar gael.

Ar gyfer fferm solar Hafan Derwen, apwyntiodd y Bwrdd Iechyd y cwmni Asbri Planning i arwain y cais cynllunio a phenodi Absolute Solar Wind trwy fframwaith ESPO, i gynllunio, gosod a monitro’r cynllun. Cefnogodd y Gwasanaeth Ynni’r broses gaffael, gan gynnwys nodi’r fframweithiau priodol a datblygu dogfennau technegol penodol.

Comisiynu

Dechreuodd y gwaith adeiladu ar y safle ym mis Chwefror 2022 a chomisiynwyd y prosiect ym mis Mawrth 2023. Fel arfer, byddai’r cyfnod adeiladu ar gyfer prosiect o’r raddfa hon yn cymryd llai na 6 mis. Fodd bynnag, gwelodd y prosiect oedi sylweddol oherwydd materion yn ymwneud â’r gadwyn gyflenwi fyd-eang ac effeithiau achosion o covid wrth adeiladu o fewn amgylchedd gofal iechyd.

Image
Batri’n storio 120kW

Gweithgareddau gwella

Gellir defnyddio ffermydd solar wedi’u gosod ar y ddaear i wella bioamrywiaeth. Fel rhan o’r datblygiad hwn sy’n cwmpasu ychydig dros erw o dir, mae coed ffrwythau a dros 350 o fylbiau blodau gwyllt wedi’u plannu. Bydd hyn yn darparu cynefin ychwanegol i fywyd gwyllt, gan gynnwys peillwyr a phryfed eraill, ac mae’r Bwrdd Iechyd yn gobeithio y bydd hynny’n arwain at gynnydd mewn rhywogaethau adar ac ystlumod ar y safle. Bydd yr ardal hon hefyd yn cynnwys mannau eistedd a byrddau gwybodaeth sy’n egluro manteision pob un o’r planhigion i’r amgylchedd lleol, i aelodau o staff a chleifion eu mwynhau.

Yn olaf, er mwyn manteisio ar y tarfu a chael contractwyr ar y safle, gosodwyd ffosydd ar gyfer pwyntiau gwefru ceir trydan hefyd er mwyn caniatáu gosod ac integreiddio hawdd gyda’r fferm solar, o bwyntiau gwefru ceir trydan yn y maes parcio cyfagos yn y dyfodol.

“Rydym yn falch ein bod wedi sefydlu ein fferm solar gyntaf, fydd yn helpu i bweru safle Hafan Derwen yng Nghaerfyrddin ac yn cefnogi ein hymrwymiad i leihau allyriadau carbon.

“Mae’r prosiect hwn hefyd yn dangos ymrwymiad y bwrdd iechyd i wella’r amgylchedd naturiol a mynediad i fannau gwyrdd.

Mae creu man gwyrdd yn fenter wych sy’n darparu staff a chleifion â lle yn yr awyr agored i fwynhau a dysgu am yr amgylchedd lleol. Bydd plannu coed ffrwythau a bylbiau blodau gwyllt nid yn unig yn gwella’r ardal yn weledol, ond hefyd yn gynefin i fywyd gwyllt, gan gyfrannu at gadwraeth yr ecosystem leol.

Yn gyffredinol, mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut y gall arferion ynni cynaliadwy fod o fudd i’r amgylchedd a chymunedau lleol.”

Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Strategol a Chynllunio Gweithredol yn BIP Hywel Dda.

Image
Fferm Solar Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Hywel Dda

Darganfyddwch fwy

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am sut gall Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru helpu eich menter gymunedol neu sefydliad sector cyhoeddus:

E-bost: enquiries@energyservice.wales

Twitter: @_gwasanaethynni

linkedin: welsh-government-energy-service

Ariennir y Gwasanaeth Ynni gan Lywodraeth Cymru gyda’r nod o ddatblygu prosiectau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy sy’n cyfrannu at ddatgarboneiddio’r sector cyhoeddus a thargedau ynni cenedlaethol. Mae’r Gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan yr Ymddiriedolaeth Garbon, yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a Phartneriaethau Lleol (y “Partneriaid Cyflawni”). Mae’r adroddiad hwn (yr “Adroddiad”) wedi’i gynhyrchu gan y Partneriaid Cyflawni ac, er bod y safbwyntiau a fynegir ynddo yn cael eu rhoi’n ddidwyll ar sail y wybodaeth sydd ar gael ar ddyddiad yr Adroddiad hwn:- (i) nid yw’r safbwyntiau hyn o reidrwydd yn adlewyrchu barn Llywodraeth Cymru, sy’n derbyn dim atebolrwydd am unrhyw ddatganiad neu farn a fynegir yn yr Adroddiad; (ii) bwriad yr Adroddiad yw rhoi arweiniad cyffredinol yn unig, yn hytrach na chyngor ariannol, cyfreithiol neu dechnegol at ddibenion unrhyw brosiect penodol neu fater arall, ac ni ddylai neb sy’n derbyn yr Adroddiad ddibynnu arno yn lle cael eu cyngor eu hunain gan ymgynghorydd trydydd parti priodol; a (iii) dylai unrhyw unigolyn sy’n derbyn yr Adroddiad hwn geisio eu cyngor eu hunain am faterion ariannol, cyfreithiol, technegol a/neu gyngor proffesiynol perthnasol arall i’r graddau y mae angen arweiniad penodol arnyn nhw ar ba gamau (os o gwbl) i’w cymryd, neu i ymatal rhag eu cymryd mewn perthynas ag unrhyw brosiect, menter, cynnig, ymwneud ag unrhyw bartneriaeth neu fater arall y gallai’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr Adroddiad fod yn berthnasol iddo; a (iv) nid yw’r Partneriaid Cyflawni yn derbyn dim atebolrwydd am yr Adroddiad, nac am unrhyw ddatganiad yn yr Adroddiad a/neu unrhyw wall neu anwaith yn ymwneud â’r Adroddiad.