Mae cymorth dichonoldeb gan y Gwasanaeth Ynni wedi galluogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i fwrw ymlaen â phrosiect Fferm Solar Coed Elái.
Crynodeb
Cefnogodd y Gwasanaeth Ynni Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf gyda gwaith dichonoldeb cynnar ar gyfer Fferm Solar Coed Elái. Arweiniodd y cyngor gaffael a chyflenwi, gyda'r gwaith adeiladu yn dechrau ym mis Chwefror 2025. Disgwylir i'r fferm solar fod yn weithredol erbyn Medi 2025.
Ein cefnogaeth
Astudiaethau dichonoldeb, canllawiau technegol ac ariannol cyfnod cynnar, a chefnogaeth strategol ar gyfer cynllunio cyflawni.
Datrysiad technoleg
- Amcangyfrifir bod 9,408 o baneli solar ffotofoltäig wedi'u gosod.
- 6 MW o gapasiti ynni adnewyddadwy.
- Cysylltiad gwifren breifat o'r fferm solar i Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Buddsoddiad
- Wedi'i ariannu a'i ddarparu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Ynni.
Effaith
- Amcangyfrifir bod 7,355 tCO₂e yn arbedion carbon gydol oes.
- Digon o drydan glân i bweru tua 8,000 o gartrefi.
- Cytundeb prynu pŵer arloesol gydag Ysbyty Brenhinol Morgannwg, sy'n cwrdd â hyd at 15% o'r galw blynyddol am drydan, gan godi i 100% ar ddiwrnodau brig yr haf.
