Bydd ffermwyr Cymru yn elwa ar hwb ariannol gwerth £6.5 miliwn ar ôl i gynllun Ffermio Bro gyflawni canlyniadau gwych yn ei flwyddyn gyntaf.
Gan weithio ar y cyd â chyrff Tirweddau Dynodedig ar draws Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol Cymru — sy'n gorchuddio 25% o Gymru — mae'r cynllun eisoes wedi cael effaith eithriadol ers ei lansio ym mis Mai 2025. Gyda bron i £2m wedi'i ddyrannu, y mwyafrif helaeth fel cymorth uniongyrchol i ffermwyr, mae wedi cefnogi gwaith adfer natur ar draws mwy na 10,000 hectar o dir Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau £6.5 miliwn ar gyfer 2026–28, gyda £5.5 miliwn yn mynd yn uniongyrchol i ffermwyr i gyflawni prosiectau ar ffermydd. Bydd y cyllid hefyd yn galluogi cyrff Tirweddau Dynodedig i recriwtio staff ychwanegol, cynnal arolygon ecolegol, a darparu hyfforddiant a chymorth cynghorol.
Mae cydweithredu wrth wraidd Ffermio Bro — grwpiau o ffermwyr sy'n gweithio gyda'i gilydd i sicrhau newid ar raddfa na all camau gweithredu unigol ei gyflawni. Mae'n buddsoddi yn ein tirweddau mwyaf arbennig ac mae'n bwysig wrth helpu i lunio haen gydweithredol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Yn ystod ei flwyddyn gyntaf, mae mwy na 100,000 o goed wedi'u plannu, dros 37km o berthi/gwrychoedd wedi'u plannu neu eu hadfer, a 6km o waliau cerrig wedi'u hatgyweirio neu eu hadeiladu. Mae cynefinoedd pwysig fel coetiroedd hynafol, ffridd, coridorau ar lan afonydd, a rhywogaethau eiconig, gan gynnwys y gylfinir, gwiber, pathew a dyfrgi bellach yn cael eu gwarchod yn well diolch i ymrwymiad ffermwyr a thimau Ffermio Bro sy'n gweithio ochr yn ochr â nhw.
Ym Mharc Cenedlaethol Eryri, mae saith ffermwr yng ngrŵp Bro Machno yn defnyddio technegau rheoli llifogydd yn naturiol i leihau'r perygl o lifogydd, adfer cynefinoedd gwlyptiroedd, a chefnogi gwaith rheoli tir yn gynaliadwy ar draws dalgylch Dyffryn Conwy.
Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig:
Mae blwyddyn gyntaf Ffermio Bro wedi dangos pŵer gweithredu dan arweiniad lleol i gefnogi ffermio sy'n gyfeillgar i natur pan fydd ffermwyr a Thirweddau Dynodedig yn gweithio gyda'i gilydd gyda gweledigaeth a rennir. Rydym yn diolch i bawb a gyfrannodd at gynnydd eithriadol y cynllun yn 2025/26 ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar y momentwm hwn yn y blynyddoedd i ddod.
Dywedodd Hefin Jones, sy'n ffermio Tyddyn Gethin, Bro Machno:
Mae fy mhrofiad i o Ffermio Bro eleni wedi bod yn un cadarnhaol. Gallaf weld manteision amaethyddol ac amgylcheddol y gwaith prosiect a wnaed ar ein fferm. Trwy drafod a datblygu cynllun ar y cyd, rydym wedi gallu cefnogi system y fferm a'r amgylchedd. Y cryfder allweddol i ni yw'r berthynas un-i-un.
Dywedodd Awel Jones, Cynghorydd Ffermio Bro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
Mae gweithio ar Ffermio Bro — er enghraifft gyda grŵp Bro Machno — wedi dangos sut y gall gweithredu cydgysylltiedig ar draws dalgylch sicrhau canlyniadau go iawn. Mae ein prosiectau yma yn gwella ansawdd dŵr, arafu'r llif, a chreu lle i natur ffynnu. Maent hefyd yn helpu ffermwyr trwy leihau risgiau dŵr ffo a chefnogi gwaith rheoli tir yn fwy cynaliadwy. Fel Cynghorydd lleol Ffermio Bro ar gyfer Gogledd-ddwyrain Eryri, rwy'n falch o fod wedi chwarae rhan yn dod â hyn at ei gilydd.
Anogir ffermwyr ar draws Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol Cymru i gysylltu â'u corff Tirwedd Ddynodedig lleol i archwilio sut y gallant gefnogi natur ar eu tir.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: Ffermio Bro Cymraeg - Landscapes Wales.
