Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd y ffermwraig ifanc Melva Phillips ei henwi heddiw fel enillydd Gwobr Goffa Brynle Williams.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd y wobr flynyddol ei sefydlu yn 2011 i gydnabod cyfraniad y diweddar Brynle Williams at amaethyddiaeth Cymru, hynny fel Aelod o’r Cynulliad ac fel ffermwr. Mae’n mawrygu llwyddiannau’r ffermwyr ifanc hynny sydd wedi elwa ar becyn cymorth Llywodraeth Cymru i helpu i ddod â gwaed newydd i’r diwydiant. 

Wrth gyhoeddi’r enillydd, wrth ymyl gwraig Brynle, Mary Williams, yn Sioe Frenhinol Cymru, meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: 

“Roedd Brynle’n grediniol fel finne, mai ffermwyr ifanc heddiw yw dyfodol y diwydiant a rhaid inni fuddsoddi ynddyn nhw i sicrhau bod ganddyn nhw a’r diwydiant ddyfodol llewyrchus. 

“Fel llywodraeth, rydym yn ymfalchïo yn y pecyn o gymorth sydd gennym ar gyfer ffermwyr ifanc a newydd ac mae’n dda gweld bod cymaint o bobl ifanc yn dal i fanteisio arno. 

“Pleser o’r mwyaf imi yw cael cyhoeddi yma yn y Sioe Fawr mai Melva Williams yw enillydd Gwobr Gofa Brynle Williams 2016. 

“Mae Melva wedi dangos penderfyniad a dyfalbarhad aruthrol i sefydlu busnes godro teuluol o dan amgylchiadau anodd.  Mae’n ymgorfforiad o wir ystyr y wobr – mae ganddi angerdd a brwdfrydedd dros ffermio ac mae’r beirniaid yn gwbl sicr eu barn ei bod yn llawn deilyngu’r wobr. 

“Rwy’n ei llongyfarch hi a’r ymgeiswyr eraill oedd ar y rhestr fer gan ddymuno pob lwc iddyn nhw yn eu gyrfaoedd fel ffermwyr.”