Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi annog ffermwyr yng Nghymru i gadw llygad am arwyddion y Tafod Glas wrth i ni ddechrau ar gyfnod lle mae mwy o berygl i anifeiliaid ddal y feirws Tafod Glas o wybed.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nid yw'n effeithio ar bobl na diogelwch bwyd. Mae'r feirws yn cael ei drosglwyddo'n bennaf gan bigiadau gwybed ac mae'n effeithio ar wartheg, geifr, defaid a chamelod fel lamas, ac mae gwybed yn fwyaf amlwg rhwng Ebrill a Thachwedd.

Mae'r Tafod Glas yn glefyd hysbysadwy, felly dylai pobl roi gwybod i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith os oes ganddyn nhw unrhyw amheuon.

Mae rhagor o wybodaeth am arwyddion clinigol y tafod glas a'r camau i'w cymryd ar gael ar Feirws y Tafod Glas (BTV) | LLYW.CYMRU).

Gall yr effeithiau ar anifeiliaid bregus amrywio'n fawr – nid yw rhai yn dangos unrhyw arwyddion clinigol nac effeithiau o gwbl, i eraill gall achosi problemau cynhyrchiant fel llai o gynnyrch llaeth neu golledion wrth atgenhedlu, tra yn yr achosion mwyaf difrifol gall fod yn angheuol i anifeiliaid heintiedig.

Gall ffermwyr helpu i atal y clefyd trwy:

  • sicrhau bod da byw yn dod o ffynonellau cyfrifol
  • ‌cadw at fesurau bioddiogelwch (ar Llyw.Cymru) llym ar eich safle
  • parhau i fod yn wyliadwrus

Dylai ceidwaid sy'n ystyried mewnforio anifeiliaid neu gynhyrchion biolegol, er enghraifft plasm cenhedlu, o wledydd y mae BTV yn effeithio arnynt neu o barthau rheoli clefydau yymgynghori â'u milfeddyg i wirio a oes ganddynt hawl i wneud hyn, ac ar y risgiau o wneud hynny. Dylid gwneud hyn bob amser cyn penderfynu mewnforio neu symud anifeiliaid.

Dylai fod gan bob busnes gynllun wrth gefn ar gyfer ymateb i achosion o glefydau ar eu safle ac os gallent fod mewn ardal rheoli clefydau. Dylai cynlluniau wrth gefn gynnwys manylion lle mae anifeiliaid yn cael eu lladd fel arfer i wirio bod lladd-dy wedi'i ddynodi.

Dywedodd Richard Irvine, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru: 

Wrth i ni fynd i mewn i'r cyfnod hwn lle mae anifeiliaid mewn mwy o berygl o'r Tafod Glas o wybed, byddwn yn annog pob ceidwad i weithredu nawr i ddiogelu eu buchesi a’u diadellau i gadw clefydau allan, i fod yn ymwybodol sut i adnabod y Tafod Glas - ac i roi gwybod am unrhyw amheuaeth o achosion ar unwaith.

Dyw Cymru erioed wedi cael achos o'r Tafod Glas - ond - gydag achosion yn y gorffennol yn Lloegr ac yn Ewrop rydyn ni'n annog pobl i fod yn wyliadwrus ac i baratoi ar gyfer sefyllfa ble y gallai’r Tafod Glas godi eto.

Os oes gennych unrhyw amheuon fod y tafod glas ar eich anifeiliaid, cysylltwch â'ch swyddfa Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) leol ar 0300 303 8268 ar unwaith. Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio yr achosion a amheuir.

Mae rhagor o wybodaeth ac adnoddau ar y sefyllfa bresennol o ran y tafod glas hefyd ar gael ar wefan Ruminant Health and Welfare.