Daeth yr ymgynghoriad i ben 6 Rhagfyr 2024.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae’r crynodeb o ymatebion bellach ar gael.
Manylion am y canlyniad
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am gael eich barn ar amodau arfaethedig trwydded cregyn moch 2025 i 2026.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae'r cynigion ar gyfer cyfnod trwydded cregyn moch 2025 i 2026, sy'n dechrau ar 1 Mawrth 2025, yn cynnwys:
- ffi'r drwydded, a fydd yn cynyddu gyda chostau chwyddiant i £309
- bydd y Terfyn Dalfa Blynyddol yn lleihau 5% o 4,768 tunnell i 4,529
- ni fydd unrhyw newid i'r Terfyn Dalfa Misol cychwynnol sef 50 tunnell
- ni fydd unrhyw newid i amodau’r trwydded
Sut i ymateb
Byddem yn ddiolchgar pe baech yn anfon ymatebion trwy e-bost at Fisheries.Management@llyw.cymru
neu anfonwch at:
Is-adran Pysgodfeydd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ