Neidio i'r prif gynnwy

Mae nifer y bobl sy'n aros dros 36 wythnos am driniaeth bellach ar y lefel isaf ers 4 blynedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 

"Wedi un o'r gaeafau prysuraf , mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod cynnydd pwysig yn cael ei wneud o ran lleihau amseroedd aros. 

"Mae nifer y bobl sy'n aros dros wyth wythnos am brofion diagnostig ar y lefel isaf mewn 9 mlynedd, 69% yn is na'r un cyfnod y llynedd. O ran gwasanaethau therapi, mae nifer y bobl sy'n aros dros 14 wythnos ar y lefel isaf mewn 7 mlynedd, ac mae hyn 90% yn is na'r un cyfnod y llynedd. 

"Yn ystod mis Mawrth hefyd gwelwyd gwelliant o 6.8% yn nifer yr holl achosion o ganser oedd yn cael eu trin o gymharu â mis Chwefror. Roedd nifer y triniaethau am ganser dros y 12 mis diwethaf 8.3% yn uwch na phum mlynedd yn ôl, ac mae'r nifer sy'n cael eu trin o fewn yr amser targed wedi cynyddu 7.3%. 

"Wrth edrych ar nifer y cleifion a gafodd eu gweld yn yr adrannau brys o fewn pedair awr yn ystod mis Ebrill, gwelwyd gwelliant o 4.4 y cant ar ffigur mis Mawrth, gan gynyddu'r canran i 80%. Mae hyn, ynghyd â gwelliannau i amseroedd ymateb ambiwlansys, yn dangos bod pwysau'r gaeaf hynod anodd i'r gwasanaeth iechyd yn dechrau lleddfu. 

"Rydyn ni'n croesawu'r gostyngiad o 30% yn nifer y cleifion sy'n aros dros 12 awr i gael eu derbyn i'r ysbyty o'r adrannau brys ers mis Mawrth. 

"Rydyn ni'n disgwyl gweld rhagor o gynnydd sylweddol yn y perfformiad. Rydyn ni'n gweithio gyda byrddau iechyd i sicrhau eu bod yn cyflawni gwelliannau a'u dwyn i gyfrif os na fyddan nhw'n gwneud hynny."