Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi croesawu'r ffigurau diweddaraf sy'n dangos bod cynnydd yn nifer yr organau sy'n cael eu rhoi a'u trawsblannu yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Data ar Roi Organau a Gweithgarwch Trawsblannu ar gyfer 2016-2017, a gyhoeddwyd gan Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG, yn dangos y ffigurau canlynol ar gyfer Cymru:

  • Bu cynnydd o 4 yn nifer y rhoddwyr yn dilyn marwolaeth coesyn yr ymennydd, sef o 36 yn 2015-16 i 40 yn 2016-17
  • Bu cynnydd o 1 yn nifer y cleifion sy'n byw yng Nghymru sydd wedi cael trawsblaniad y galon
  • Bu cynnydd o 5 yn nifer y cleifion sy'n byw yng Nghymru sydd wedi cael trawsblaniad aren fyw
  • Bu cynnydd yn y ganran gyffredinol ar gyfer cydsynio/awdurdodi rhoi organau o 59% yn 2015-16 i 64% yn 2016-17
  • Bu gostyngiad o 18.5% yng nghanran y cleifion a fu farw tra'r oeddent ar y rhestr aros ar gyfer cael trawsblaniad - o 27 yn 2015-16 i 22 yn 2016-17.

Wrth groesawu'r data, dywedodd Vaughan Gething:

"Mae'r ffigurau hyn yn galonogol, ond gan fod pobl yn dal i farw tra maen nhw ar y rhestr aros yn disgwyl trawsblaniad, rhaid inni weithio'n galetach.

“Dw i'n awyddus i annog pawb yng Nghymru i siarad â'u hanwyliaid am eu penderfyniad ynghylch rhoi organau. Er ein bod yn gwybod bod ymwybyddiaeth a dealltwriaeth yn gwella, mae'n hynod bwysig bod pobl Cymru yn dweud yn glir wrth eu teuluoedd am eu penderfyniad.

"Mae'n dda gweld bod y data ar gyfer Cymru yn symud i'r cyfeiriad iawn a bod nifer y bobl yn y DU sy'n fyw diolch i drawsblaniadau organau wedi mynd dros 50,000. Roedd hefyd yn galonogol gweld data Rhoi Organau a Thrawsblaniadau ar gyfer pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael eu cyhoeddi gan Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG fel adroddiad atodol.

"Roedd yn dda gennyf glywed y newyddion diweddar bod Lloegr yn ystyried dilyn ein harweiniad ni ac arweiniad yr Alban drwy gyflwyno system feddal o optio allan ar gyfer rhoi organau a meinwe.  

"Rydyn ni'n falch o'r ffaith mai ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud hyn nôl yn 2015, ac yn falch hefyd o'r hyn rydyn ni wedi ei gyflawni hyd yma. Rydyn ni'n credu bod y system feddal o optio allan ar gyfer rhoi organau yn dod â manteision i'r rhai y mae angen trawsblaniad arnyn nhw, drwy roi'r cyfle i drawsnewid eu bywydau yng ngwir ystyr hynny."