Neidio i'r prif gynnwy

Y ffigurau diweddaraf sy’n dangos cynnydd yn nifer y bobl sy’n defnyddio tai llety, sefydliadau gwely a brecwast, unedau hunanddarpar a hosteli yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd  Ysgrifennydd  yr Economi yn ymateb i ystadegau diweddaraf Defnydd Llety Twristiaeth Cymru. Maent yn dangos bod defnydd ystafelloedd mewn tai llety a sefydliadau gwely a brecwast yng Nghymru yn 40% rhwng mis Mawrth 2016 a mis Chwefror 2017, sef cynnydd o 2% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.


Yn ystod yr un cyfnod, cynyddodd y defnydd o unedau hunanddarpar 4 y cant i 55%, a chynyddodd y defnydd o welyau mewn hosteli  3 phwynt canran i 51%.  


Y ffigur o 67% ar gyfer y defnydd o ystafelloedd mewn gwestai oedd uchaf ond roedd hwn wedi gostwng ychydig o’i gymharu â ffigurau’r 12 mis blaenorol. 


Dywedodd Ken Skates: 

“Mae’r ystadegau diweddaraf hyn ynghylch y defnydd o lety yn dangos cryfder twristiaeth yng Nghymru, ac maent yn parhau i adlewyrchu’r llwyddiant a gawsom dros y ddwy flynedd ddiwethaf. 

“Mae’r ffigurau ar gyfer 9 mis cyntaf 2016 yn dangos y bu cynnydd sylweddol o 12% o ran nifer yr ymwelwyr tramor sy’n dod i Gymru a chynnydd o 9% yn eu gwariant yma. Rydym hefyd wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr undydd sy’n dod i Gymru.   

“Mae twristiaeth yng Nghymru mewn sefyllfa gadarn o fewn marchnadle cystadleuol iawn. Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn eithriadol a’n nod yw cynnal y twf –gan gofio y bydd digwyddiadau ar draws y byd a chystadleuaeth yn golygu na fydd pob blwyddyn yn torri pob record.

“Mae’r darlun cyffredinol – gan ystyried ymweliadau dydd gan dwristiaid, ymwelwyr rhyngwladol a hefyd ymweliadau dros nos – yn dangos bod twristiaeth gyffredinol yng Nghymru wedi cynyddu bron i 16% yn ystod tri chwarter 2016. Mae’r cyfnod hwn yn cynnwys gwyliau hollbwysig yr haf. 

“Rydym yn gweithio’n galed i gynnal y llwyddiant hwn yn 2017 drwy barhau i fuddsoddi mewn marchnata a datblygu cynnyrch. Mae Blwyddyn Chwedlau 2017 hefyd wedi cychwyn yn ardderchog, gyda Chymru’n cael ei henwi yn un o’r lleoedd ledled y byd y dylai pawb ymweld â nhw gan y Lonely Planet TripAdvisor, Wanderlust a’r Rough Guides.” 

Mae’r ystadegau ar gael yn llawn yma: http://gov.wales/statistics-and-research/wales-tourism-accommodation-occupancy-surveys/?lang=cy.