Neidio i'r prif gynnwy

Mae pobl yn edrych ymlaen yn eiddgar at ffilm Nadolig ar Sky One, sy'n cael ei darlledu am y tro cyntaf ar Noswyl Nadolig. Bydd yn gyfle i Gymru ddenu sylw ac i ddangos y potensial creadigol sydd ganddi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Roald & Beatrix: The Tail of the Curious Mouse yn 'antur Nadoligaidd hudolus' sydd wedi cael ei hysbrydoli gan hanes Roald Dahl yn cwrdd â'i arwr, Beatrix Potter, ac yntau’n chwech oed.
Hartswood Films gynhyrchodd y ffilm ar gyfer Sky Studios, ac fe’i cefnogwyd gan Cymru Greadigol. Fe'i ffilmiwyd yng Nghymru mewn lleoliadau ledled y De, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Sain Ffagan, Gorsaf Reilffordd Treftadaeth Gwili ac yn Seren Stiwdios yng Nghaerdydd.

Roald a Beatrix oedd un o'r cynyrchiadau cyntaf i ddechrau ffilmio yng Nghymru ar ôl i’r newyddion am Covid ein taro fis Mawrth diwethaf. Roedd hefyd yn un o'r cynyrchiadau cyntaf a gafodd gefnogaeth gan Cymru Greadigol, ar ôl i’r asiantaeth newydd gael ei sefydlu ym mis Ionawr 2020.

Bydd y ddrama yn darlledu Noswyl Nadolig 8.15pm ar Sky One a'r gwasanaeth ffrydio NOW TV ac yn cynnwys sêr o’r radd flaenaf fel Dawn French (sy'n chwarae Beatrix), Bill Bailey, Rob Brydon, Jessica Hynes ac Alison Steadman.

Nid dod â sêr blaenllaw i Gymru yw unig waddol y cynhyrchiad poblogaidd hwn. Bydd gwylwyr craff yn gweld rhai o leoliadau poblogaidd Cymru, gan gynnwys golygfeydd a ffilmiwyd yn Sain Ffagan ac sy’n dangos adeilad eiconig Sefydliad y Gweithwyr Oakdale a Siop Gwalia.

Wrth ddenu cynyrchiadau i Gymru, mae Cymru Greadigol nid yn unig yn sicrhau cymorth busnes i'r cwmnïau cynhyrchu hynny sydd am weithio yma, ond mae hefyd yn canolbwyntio ar yr effaith gadarnhaol y mae'r cynhyrchiad yn ei chael ar Gymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:

"Bydd Roald a Beatrix yn diddanu gwylwyr ar Noswyl Nadolig ac mae wir angen ychydig o ddifyrrwch ar bob un ohonon ni. Dan ni’n genedl o storïwyr ac mae gennym dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog yng Nghymru. Dw i wrth fy modd felly fod Cymru Greadigol wedi gweithio gyda chynhyrchwyr i ddod o hyd i leoliadau a stiwdios, gan roi cipolwg i wylwyr ar yr hyn sydd gennym i'w gynnig. 

"Mae'r sector i'w ganmol am fod yn gryf ac yn arloesol drwy gydol y flwyddyn wrth iddo addasu ei arferion gwaith er mwyn cael parhau â chynyrchiadau mewn ffordd sy'n diogelu pobl rhag Covid. Ein nod yw parhau i feithrin cysylltiadau er mwyn denu mwy a mwy o gynyrchiadau yma yn 2021"

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

"Dan ni’n falch iawn ein bod wedi gallu parhau â'r cynyrchiadau teledu a ffilmio ar ein safleoedd eleni, gan weithio yn unol â chyfyngiadau COVID-19. Mae wedi bod yn flwyddyn anodd i lawer o sefydliadau yng Nghymru, gan gynnwys y sector amgueddfeydd. Dan ni wedi colli swm sylweddol o incwm masnachol, felly, mae gallu denu cynyrchiadau ar raddfa fawr fel Roald a Beatrix i Sain Ffagan wedi bod yn help enfawr inni ac wedi’n galluogi i barhau i gefnogi economi ddiwylliannol Cymru."