Neidio i'r prif gynnwy

Yn ystod Blwyddyn y Chwedlau, bydd y ffilm newydd gan Warner Bros. Pictures and Village Roadshow Pictures - King Arthur: Legend of the Sword yn cael ei dangos yn rhyngwladol ar y 12 Mai.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyn dyddiad rhyddhau’r ffilm mae Croeso Cymru wedi creu partneriaeth gyda VisitBritain ar ymgyrch ddigidol ‘Where Stories Become Legends’ sy’n dangos rhai o leoliadau chwedlonol y Brenin Arthur i gynulleidfa ryngwladol.  Mae’r ymgyrch yn dangos fideo y tu ôl i’r llen o’r awdur/cyfarwyddwr/cynhyrchydd Guy Ritchie, yr awdur/cynhyrchydd Lionel Wigram a sêr y ffilm Charlie Hunnam a Jude Law, ar leoliad yn trafod y tirweddau gwych a ddefnyddiwyd yng Nghymru yn y ffilm King Arthur: Legend of the Sword a’r emosiynau y maent yn eu hysbrydoli – gellir gweld y ffilm ar y ddolen hon: King Arthur: Legend of the Sword (Saesneg yn unig - dolen allanol) .  

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: 

“Mae rhyddhau y ffilm yn ystod Blwyddyn y Chwedlau yn amseru perffaith wrth inni edrych ar chwedlau niferus Cymru eleni a dod â’r gorffennol yn fyw.  

Mae’r ffilm yn ddull effeithiol iawn o ddangos golygfeydd Cymru â’r posibilrwydd i Gymru fod yn lleoliad ffilmio.  Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o gynyrchiadau amlwg sydd wedi eu ffilmio yng Nghymru, gyda chymorth Sgrîn Cymru, sy’n helpu i hybu economïau lleol a hyrwyddo’r lleoliadau hynod sydd ar gael, yn rhyngwladol.  

Rwy’n gobeithio y bydd y ffilm yn ysbrydoli nifer o bobl i ymweld yn ystod Blwyddyn y Chwedlau, ac i gymeryd rhan yn eu chwedl eu hunain yn ystod 2017.”

Mae’r lleoliadau yn y ffilm yn cynnwys Llyn Gwynant, Capel Curig a Ddyffryn Gwy.

Bydd BAFTA Cymru a Pontio yn dangos y ffilm o flaen llaw mewn dangosiad arbennig cyn y dyddiad rhyddhau yn y DU.   Bydd gan gynulleidfaoedd yng Nghymru gyfle i weld y ffilm yng Nghanolfan Pontio, Bangor ddydd Sul 14 Mai am 8pm.  . 

Dyma’r ffilm ddiweddarf i gael ei ffilmio yng Nghymru.  Mae rhagor o wybodaeth am ffilmiau eraill sy’n dangos golygfeydd o Gymru i’w gweld ar y ddolen ganlynol: Epic film locations (Saesneg yn unig - dolen allanol).