Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar ffioedd cynllunio a sut maent yn berthnasol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Am ffioedd cais cynllunio

Mae'r rhan fwyaf o geisiadau cynllunio neu geisiadau am ganiatâd yn gofyn am ffi. Mae'r swm rydych chi'n ei dalu yn dibynnu ar fath a maint y datblygiad.

Nid oes angen ffi ar rai ceisiadau. Efallai y bydd gan eraill ffi is. Mae hyn yn dibynnu ar y math o gais a'ch amgylchiadau.

Os nad ydych yn siŵr am y ffi, cysylltwch â'ch awdurdod cynllunio lleol cyn i chi wneud cais. Os ydych yn talu swm rhy isel, efallai y bydd eich cais yn cael ei ohirio neu ei ddychwelyd fel annilys.

Gallwch ddod o hyd i ragor o ganllawiau ar ffioedd cynllunio yn y Llawlyfr Rheoli Datblygu.

Ffioedd cynllunio o'r 1 Rhagfyr 2025

O’r 1 Rhagfyr 2025 ymlaen, bydd ffioedd wedi'u diweddaru yn berthnasol i:

  • geisiadau cynllunio
  • gwelliannau
  • ceisiadau tybiedig
  • ymweliad â'r safle

Mae’r rhain wedi’u gosod yn y dogfennau isod: