Ffioedd cyfreithiol ar gyfer Gwrando ar Bobl: Proses cwynion, digwyddiadau ac iawn GIG Cymru
Canllawiau ar y ffioedd efallai y bydd rhaid i gyrff GIG Cymru eu talu i gynrychiolwyr cyfreithiol o dan broses cwynion, digwyddiadau ac iawn GIG Cymru.
Ar y dudalen hon
Fframwaith ffioedd cyfreithiol
Mae'r fframwaith hwn yn darparu canllawiau i gyrff GIG Cymru ar y tariff o daliadau y gellir eu talu i gynrychiolwyr cyfreithiol annibynnol yn unol â Gwrando ar Bobl: Proses Cwynion, Digwyddiadau ac Iawn GIG Cymru.
Mae'r holl flychau isod yn annibynnol ar ei gilydd ac ni ddylid eu hychwanegu at ei gilydd ym mhob cam o'r mater. Fodd bynnag, byddai'r ffioedd a ganiateir ynglŷn â setliad Cymeradwyaeth ar gyfer Babanod yn gyfan gwbl ar wahân.
Mae'r holl ffigurau yn cynrychioli ffioedd cyn ychwanegu TAW.
Cyngor ar dderbyn atebolrwydd cymhwysol
£1,750
Mae’r ffi hon yn cwmpasu darparu cyngor lle mae atebolrwydd cymhwysol wedi’i dderbyn. Mae hyn yn cynnwys cael adroddiadau ar y cyd gan hyd at 2 arbenigwr a chynghori ar yr adroddiadau hynny.
Os oes angen adroddiadau arbenigol pellach (gyda chytundeb ymlaen llaw), gellir talu £438 ychwanegol.
Cyngor ar swm yr iawndal
£1,000
Mae’r ffi hon yn cwmpasu darparu cyngor ar swm yr iawndal pan gytunir ar setliad o dan y trefniadau gwneud iawn. Mae’n cynnwys comisiynu adroddiadau ar y cyd gan hyd at 2 arbenigwr a chynghori ar yr adroddiadau hynny.
Os oes angen adroddiadau arbenigol pellach (gyda chytundeb ymlaen llaw), gellir talu £438 ychwanegol.
Atebolrwydd cymhwysol wedi’i dderbyn heb gynnig ariannol
£875
Mae’r ffi hon yn berthnasol pan fo atebolrwydd cymhwysol wedi’i dderbyn ond nad yw cynnig ariannol wedi’i wneud. Mae’n cwmpasu cyngor cyfreithiol ar y gwrthodiad i wneud cynnig.
Proses gymeradwyo a gwrandawiadau cymeradwyo
£1,094
Mae’r ffi hon yn cwmpasu’r broses gymeradwyo, gan gynnwys unrhyw wrandawiad cymeradwyo. Mae hyn yn berthnasol i bob achos lle mae angen gwrandawiad cymeradwyo, gan gynnwys achosion sy’n ymwneud â:
- phlant
- chleifion heb alluedd meddyliol
Yn ogystal, bydd corff GIG Cymru yn talu:
- ffioedd y llys (fel y codir)
- ffioedd cwnsler (gyda chyfiawnhad o’r costau), fel arfer rhwng £500 a £900
